Trydydd Ioan 1:1-14

  • Cyfarchion a gweddi (1-4)

  • Canmoliaeth i Gaius (5-8)

  • Diotreffes uchelgeisiol (9, 10)

  • Adroddiad da am Demetrius (11, 12)

  • Cynllunio i ymweld, a chyfarchion (13, 14)

 Yr henuriad* at Gaius annwyl, yr un rydw i’n wir yn ei garu.  Fy ffrind annwyl, rydw i’n gweddïo y byddi di’n llwyddo ym mhob peth ac yn mwynhau iechyd da, yn union fel rwyt ti’n* llwyddo ar hyn o bryd.  Roeddwn i’n llawen iawn pan ddaeth y brodyr, a sôn am y gwir sydd ynot ti, wrth iti barhau i gerdded yn y gwir.  Does dim byd yn fy ngwneud i’n fwy llawen* na chlywed bod fy mhlant yn parhau i gerdded yn y gwir.  Fy ffrind annwyl, rwyt ti’n dangos dy ffyddlondeb yn yr hyn rwyt ti’n ei wneud dros y brodyr, er nad wyt ti’n eu hadnabod nhw.  Maen nhw wedi sôn* am dy gariad o flaen y gynulleidfa. Pan fyddan nhw’n gadael, plîs helpa nhw mewn ffordd sy’n plesio Duw.  Oherwydd, fe aethon nhw allan er mwyn enw Duw, heb gymryd dim byd oddi wrth bobl y cenhedloedd.  Felly rydyn ni o dan ddyletswydd i fod yn lletygar wrth y fath rai, er mwyn inni allu bod yn gyd-weithwyr yn y gwir.  Fe wnes i ysgrifennu rhywbeth at y gynulleidfa, ond dydy Diotreffes, sy’n hoffi bod yn geffyl blaen arnyn nhw, ddim yn derbyn unrhyw beth gynnon ni gyda pharch. 10  Dyna pam, os ydw i’n dod, bydda i’n tynnu sylw at y pethau mae’n eu gwneud, sef hel clecs maleisus amdanon ni.* Ac nid yw’n fodlon ar hynny, mae hefyd yn gwrthod croesawu’r brodyr gyda pharch; ac mae’n ceisio rhwystro’r rhai sydd eisiau eu croesawu, a bwrw’r rhai hynny allan o’r gynulleidfa. 11  Fy ffrind annwyl, paid ag efelychu beth sy’n ddrwg, efelycha beth sy’n dda. Mae’r un sy’n gwneud da yn tarddu o Dduw. Dydy’r un sy’n gwneud drwg ddim wedi gweld Duw. 12  Mae’r brodyr i gyd wedi rhoi adroddiad da am Demetrius ac mae’r gwir ei hun yn cadarnhau hynny. Mewn gwirionedd, rydyn ninnau hefyd yn tystiolaethu amdano, ac rwyt ti’n gwybod bod y dystiolaeth rydyn ni’n ei rhoi yn wir. 13  Roedd gen i lawer o bethau i’w hysgrifennu atat ti, ond dydw i ddim eisiau eu rhoi nhw mewn llythyr. 14  Fodd bynnag, rydw i’n gobeithio dy weld di’n fuan, a chawn siarad wyneb yn wyneb. Rydw i’n dymuno heddwch iti. Mae ein ffrindiau sydd yma yn anfon eu cyfarchion atat ti. Cofia fi at ein ffrindiau sydd yno wrth eu henwau.

Troednodiadau

Neu “Y dyn oedrannus.”
Neu “fel mae dy enaid yn.”
Neu efallai, “diolchgar.”
Llyth., “tystiolaethu.”
Llyth., “clebran amdanon ni â geiriau drwg.”