At yr Effesiaid 3:1-21
3 Am y rheswm hwn rydw i, Paul, yn y carchar oherwydd Crist Iesu er eich mwyn chi, bobl y cenhedloedd—
2 yn wir, fe glywsoch chi fy mod i wedi derbyn y cyfrifoldeb o’ch helpu chi i elwa ar garedigrwydd rhyfeddol Duw,
3 hynny yw, mai trwy ddatguddiad y ces i wybod am y gyfrinach gysegredig, yn union fel yr ysgrifennais o’r blaen am hyn mewn ychydig eiriau.
4 Felly wrth ichi ddarllen hyn, fe fyddwch chi’n sylweddoli fy mod i’n deall y gyfrinach gysegredig am y Crist.
5 Yn y cenedlaethau gynt, ni wnaeth Duw ddatguddio’n glir y gyfrinach hon i feibion dynion fel y mae nawr wedi ei datguddio i’w apostolion sanctaidd a’i broffwydi drwy’r ysbryd,
6 hynny yw, dylai pobl y cenhedloedd, mewn undod â Christ Iesu a thrwy’r newyddion da, fod yn gyd-etifeddion ac yn gyd-aelodau o’r corff ac yn gyfranogwyr gyda ni o’r addewid.
7 Fe ddes i’n weinidog i hyn yn ôl caredigrwydd rhyfeddol Duw a roddwyd i mi am ddim trwy gyfrwng ei rym.
8 I mi, dyn sy’n llai na’r lleiaf o’r holl rai sanctaidd, y rhoddwyd y caredigrwydd rhyfeddol hwn, er mwyn imi gyhoeddi i’r cenhedloedd y newyddion da am gyfoeth di-ben-draw’r Crist
9 ac er mwyn imi wneud i bawb weld sut mae’r gyfrinach gysegredig yn cael ei gweinyddu, cyfrinach sydd wedi cael ei chuddio drwy’r oesoedd yn Nuw, yr un a greodd bob peth.
10 Digwyddodd hyn er mwyn i’r llywodraethau a’r awdurdodau yn y llefydd nefol gael gwybod nawr, drwy’r gynulleidfa, am holl agweddau doethineb Duw.
11 Mae hyn yn unol â’r pwrpas tragwyddol y gwnaeth ef ei ffurfio yn gysylltiedig â’r Crist, Iesu ein Harglwydd,
12 yr un rydyn ni’n gallu siarad yn agored trwyddo, ac rydyn ni’n rhydd i weddïo’n hyderus drwy ein ffydd ynddo ef.
13 Felly rydw i’n gofyn ichi beidio â rhoi’r gorau iddi o achos fy nhreialon ar eich cyfer, oherwydd eu bod nhw’n golygu gogoniant ichi.
14 Am y rheswm hwn, rydw i’n plygu fy ngliniau mewn gweddi i’r Tad,
15 yr un mae pob teulu yn y nef ac ar y ddaear wedi derbyn ei enw oddi wrtho.
16 Rydw i’n gweddïo y bydd Duw, drwy ei ogoniant mawr, yn eich gwneud chi’n rymus ar y tu mewn gyda nerth drwy ei ysbryd,
17 ac y bydd Crist, drwy eich ffydd, yn byw yn eich calonnau â chariad. Rydw i’n gweddïo ichi gael eich gwreiddio a’ch sefydlu ar y sylfaen gadarn,
18 er mwyn ichi, ynghyd â’r holl rai sanctaidd, allu deall yn llawn beth yw’r lled a’r hyd a’r uchder a’r dyfnder,
19 ac ichi wybod am gariad y Crist, sydd y tu hwnt i wybodaeth, er mwyn ichi gael eich llenwi â’r holl rinweddau mae Duw’n eu rhoi.
20 Mae Duw, yn ôl ei rym sy’n gweithredu ynon ni, yn gallu gwneud mwy na’r hyn sydd y tu hwnt i bob peth rydyn ni’n gofyn amdano neu’n ei ddychmygu.
21 Felly, mae ef yn haeddu’r gogoniant drwy gyfrwng y gynulleidfa a thrwy gyfrwng Crist Iesu, i bob cenhedlaeth byth bythoedd. Amen.