Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

O’R ARCHIF

Gwnaethon Nhw Roi eu Gorau

Gwnaethon Nhw Roi eu Gorau

 Pan orffennodd yr Ail Ryfel Byd ym 1945, roedd y rhan fwyaf o’r Almaen wedi ei dinistrio. Roedd ysgolion yn wag, roedd ysbytai yn dda i ddim, ac roedd ’na fomiau heb eu ffrwydro ym mhobman. Hefyd, roedd bwyd yn brin, ac felly roedd prisiau yn uchel. Er enghraifft, ar y farchnad ddu, roedd 500 gram (1 pwys) o fenyn yn costio chwe wythnos o gyflog!

 Ymhlith y rhai gafodd eu heffeithio, roedd cannoedd o Dystion Jehofa oedd wedi treulio blynyddoedd mewn carchardai a gwersylloedd crynhoi oherwydd eu ffydd. Ym 1945, cawson nhw eu rhyddhau gyda dim byd ond y dillad carchar roedden nhw’n eu gwisgo. Roedd Tystion eraill wedi colli eu tai a’u heiddo. Roedd rhai yn llwgu gymaint roedden nhw’n llewygu yn ystod cyfarfodydd Cristnogol.

Tystion Mewn Gwledydd Eraill yn Neidio i’r Adwy

 Gwnaeth Tystion Jehofa mewn rhannau eraill o’r byd ymateb ar unwaith i’r angen am fwyd a dillad. Gofynnodd y brodyr yn y pencadlys yn yr Unol Daleithiau i’r swyddfa gangen yn Bern, Y Swistir, helpu’r brodyr yn yr Almaen. Aeth Nathan H. Knorr, un o gynrychiolwyr y pencadlys, i Ewrop i gydlynu a chyflymu y gwaith cymorth.

Nathan H. Knorr yn annerch brodyr yn Wiesbaden, yr Almaen, ym 1947. Uwch ei ben mae testun y flwyddyn yn Almaeneg: “Molwch Jehofa, Chi Genhedloedd i Gyd”

 Gwnaeth y Tystion yn Y Swistir gyfrannu bwyd, dillad, ac arian yn hael. Cafodd yr eitemau eu hanfon i Bern yn gyntaf, lle gawson nhw eu sortio a’u pacio cyn cael eu hanfon i’r Almaen. Gwnaeth Tystion mewn gwledydd eraill gan gynnwys Sweden, Canada, a’r Unol Daleithiau hefyd helpu, felly gwnaeth pobl Jehofa elwa nid yn unig yn yr Almaen, ond mewn llawer o’r gwledydd ar draws Ewrop ac Asia gafodd eu heffeithio gan y rhyfel.

Canlyniadau Rhyfeddol

 O fewn ychydig fisoedd, gwnaeth cangen Y Swistir anfon coffi, llaeth, siwgr, grawnfwydydd, ffrwythau sych, llysiau, a chig a physgod mewn tuniau. Cafodd arian ei gyfrannu hefyd.

 Ar ben hynny, anfonodd y Tystion yn Y Swistir bum tunnell o ddillad, gan gynnwys cotiau, dillad merched, a siwtiau dynion. Dywedodd rhifyn Ionawr 15, 1946, Y Tŵr Gwylio: “Doedd y brodyr ddim wedi rhoi eu gwaethaf, ond roedd popeth o’r safon orau. Roedden nhw wedi gwneud aberth go iawn i helpu eu brodyr yn yr Almaen.”

 Hefyd, cyfrannodd y Tystion yn Y Swistir bron i 1,000 pâr o esgidiau, ac roedd rheini’n cael eu checio i weld os oedden nhw mewn cyflwr da cyn cael eu hanfon ymlaen. Cafodd y brodyr a chwiorydd yn Wiesbaden, yr Almaen, oedd yn dadbacio’r eitemau, eu synnu gan y safon a’r amrywiaeth. “Dw i’n siŵr does ’na’r un siop drwy’r Almaen i gyd sydd efo’r fath ddewis,” ysgrifennodd un Tyst.

 Parhaodd y gwaith cymorth tan Awst 1948. Yn ystod y cyfnod hwnnw, anfonodd y Tystion yn Y Swistir gyfanswm o 444 crât o nwyddau, oedd yn pwyso 25 tunnell, i’w brodyr yn yr Almaen. Fel dywedon ni, doedd y Tystion yn Y Swistir ddim yr unig rai gafodd ran yn y gwaith cymorth hwn. Ond nhw oedd un o’r grwpiau lleiaf gafodd ran. Dim ond tua 1,600 o Dystion oedd ’na yn Y Swistir ar y pryd!

“Caru’ch Gilydd”

 Dywedodd Iesu Grist: “Dyma sut bydd pawb yn gwybod eich bod chi’n ddilynwyr i mi, am eich bod chi’n caru’ch gilydd.” (Ioan 13:34, 35) Gwnaeth cariad ysgogi pobl Jehofa i roi nid jest beth oedden nhw’n gallu sbario, ond eu gorau. (2 Corinthiaid 8:1-4) Dywedodd llythyr o Zurich fod “llawer o’r brodyr oedd heb lawer ei hunain, ond oedd eisiau helpu er hynny, wedi rhoi eu cardiau dogni a’u harian.”

 Daeth pobl Jehofa yn yr Almaen yn ôl at eu hunain yn sydyn ar ôl erledigaeth a difrod y rhyfel. Un rheswm dros hynny oedd yr help trefnus a hael gawson nhw gan eu brodyr a chwiorydd a ddangosodd gariad hunanaberthol go iawn.

Tystion yn swyddfa’r gangen yn Bern, yr Almaen, yn sortio dillad gafodd eu cyfrannu i’w cyd-gredinwyr yn yr Almaen

Cratiau o eitemau oedd wedi eu cyfrannu yn cael eu llwytho ar dryc yn y swyddfa gangen yn Bern

Tryc yn llawn cratiau wedi eu labelu: “Rhaglen Gymorth Tystion Jehofa”

Cratiau o eitemau yn cael eu llwytho ar drên er mwyn cael eu hanfon i’r Almaen