Neidio i'r cynnwys

Derbyniais Safbwynt Duw ar Waed

Derbyniais Safbwynt Duw ar Waed

Derbyniais Safbwynt Duw ar Waed

Meddyg yn Adrodd Ei Hanes

ROEDDWN i yn yr ysbyty yn trafod canlyniadau awtopsi gyda grŵp o feddygon. Roedd gan y claf a fu farw diwmor malaen, a dywedais: “Gallwn ddod i’r casgliad mai achos marwolaeth y claf oedd haemolysis [ymosodiad ar gelloedd coch y gwaed] a methiant llym yr arennau a achoswyd gan drallwysiad gwaed.”

Cododd un athro a gwaeddi: “Ydych chi’n dweud ein bod ni wedi trallwyso’r math anghywir o waed?” Atebais innau: “Nid dyna roeddwn i’n ei feddwl.” Dangosais luniau o ddarnau bach o aren y claf ac esbonio: “Gallwn weld lysis [ymddatodiad] y celloedd coch yn yr aren, a gallwn ddod i’r casgliad mai hyn sy’n gyfrifol am fethiant llym yr arennau.” * Trodd yr awyrgylch yn annifyr ac aeth fy ngheg yn sych. Ond er fy mod i’n feddyg ifanc ac yntau’n athro profiadol, doeddwn i ddim yn fodlon ildio.

Pan ddigwyddodd hyn, nid oeddwn i’n un o Dystion Jehofa. Cefais fy ngeni ym 1943 yn ninas Sendai, yng ngogledd Japan. Patholegydd a seiciatrydd oedd fy nhad, felly penderfynais astudio meddygaeth. Ym 1970, a minnau yn fy ail flwyddyn yn yr ysgol feddygol, priodas ferch o’r enw Masuko.

Dechrau Gweithio ym Maes Patholeg

Er mwyn imi orffen fy nghwrs, roedd Masuko’n gweithio. Roedd maes meddygaeth yn ddiddorol tu hwnt imi. Roeddwn i’n syfrdanu o weld y ffordd mae’r corff dynol yn gweithio. Er hynny, doeddwn i byth yn meddwl am fodolaeth y Creawdwr. Roeddwn i’n meddwl y byddai ymchwil meddygol yn rhoi pwrpas i fy mywyd. Felly ar ôl imi ddod yn feddyg, penderfynais weithio ym maes patholeg, sef astudio achos, effaith, a nodweddion clefydau.

Wrth imi wneud awtopsïau ar gleifion a oedd wedi marw o ganser dechreuais amau nad oedd trallwysiadau gwaed yn effeithiol iawn. Mae cleifion sydd â chanser sydd wedi lledaenu’n gallu dioddef o anemia oherwydd eu bod nhw’n gwaedu. Gan fod cemotherapi yn gwneud anemia’n waeth, yn aml bydd meddygon yn awgrymu trallwysiadau gwaed. Serch hynny, dechreuais amau bod trallwysiadau gwaed yn cynhyrfu’r canser. Heddiw rydyn ni’n gwybod bod trallwysiadau gwaed yn atal imiwnedd. Mae hyn yn gallu ei gwneud hi’n fwy tebygol y bydd tiwmor yn dod yn ôl a gwneud hi’n anoddach i gleifion oroesi canser. *

Digwyddodd yr achos soniais amdano ar ddechrau’r erthygl ym 1975. Roedd yr athro a fu’n gyfrifol am driniaeth y claf a fu farw yn arbenigwr mewn hematoleg. Felly nid oes syndod ei fod wedi gwylltio o fy nghlywed i’n dweud mai trallwysiad gwaed oedd wedi achosi i’r claf farw. Sut bynnag, fe wnes i barhau â fy nghyflwyniad, ac yn araf deg, fe dawelodd ei dymer.

Diwedd Salwch a Marwolaeth

Tua’r adeg hynny, daeth gwraig hŷn a oedd yn un o Dystion Jehofa i weld fy ngwraig. Defnyddiodd hi’r gair “Jehofa” yn ei chyflwyniad, a gofynnodd fy ngwraig beth roedd hynny yn ei olygu. Atebodd hi, “Jehofa yw enw’r gwir Dduw.” Roedd Masuko wedi bod yn darllen y Beibl ers iddi fod yn blentyn, yn ei Beibl hi roedd y gair “ARGLWYDD” wedi ei roi yn lle enw Duw. Nawr roedd hi’n gwybod bod gan Dduw enw personol!

Dechreuodd Masuko astudio’r Beibl gyda’r Tyst yn syth. Pan ddes i’n ôl o’r ysbyty tua 1:00 y bore, roedd fy ngwraig wedi ei chynhyrfu, a dywedodd wrtho i, “Mae’r Beibl yn dweud y bydd salwch a marwolaeth yn dod i ben yn fuan.” Atebais i: “Byddai hynny yn wych!” Dywedodd Masuko wedyn: “Gan fod y byd newydd ar fin dod, dw i ddim eisiau iti wastraffu dy amser.” Roeddwn i’n meddwl bod hi eisiau imi roi’r gorau i fod yn ddoctor. Collais fy nhymer a daeth y briodas dan straen.

Ond fe wnaeth fy ngwraig ddal ati. Roedd hi’n gweddïo ar Dduw am help i ddod o hyd i adnodau i’w rhannu â mi. Fe wnaeth y geiriau yn Pregethwr 2:22, 23 fynd at fy nghalon: “Beth mae rhywun yn ei ennill ar ôl yr holl ymdrech diddiwedd? . . . Ac wedyn methu ymlacio yn y nos hyd yn oed! Dydy e’n gwneud dim sens!” Dyna’n union beth roeddwn i’n ei wneud—rhoi fy amser a fy egni i feddygaeth heb gael unrhyw foddhad.

Un bore Sul ym mis Gorffennaf 1975, pan aeth fy ngwraig i un o gyfarfodydd Tystion Jehofa, yn sydyn penderfynais innau fynd hefyd. Roedd fy ngwraig yn synnu o fy ngweld i yno a chefais groeso cynnes gan y Tystion. O’r diwrnod hwnnw, fe wnes i fynd i bob cyfarfod Sul. Tua mis wedyn fe wnes i ddechrau astudio’r Beibl gydag un o Dystion Jehofa. Dri mis ar ôl i fy ngwraig gwrdd â Thystion Jehofa, fe gafodd hi ei bedyddio.

Derbyn Safbwynt Duw ar Waed

Yn fuan, dysgais fod y Beibl yn dweud wrth Gristnogion am ‘ymgadw rhag gwaed.’ (Actau 15:28, 29, BCND; Genesis 9:4) Gan fy mod i eisoes yn teimlo’n ansicr am ba mor effeithiol oedd trallwysiadau gwaed, nid oedd hi’n anodd imi dderbyn safbwynt Duw ar waed. Roeddwn i’n meddwl, ‘Os mai dyna mae’r Creawdwr yn ei ddweud, yna mae’n rhaid bod hynny yn iawn.’

Dysgais hefyd ein bod ni’n mynd yn sâl ac yn heneiddio oherwydd pechod Adda. (Rhufeiniaid 5:12) Ar y pryd, roeddwn i’n gwneud ymchwil ar arteriosglerosis. Wrth inni heneiddio mae ein rhydwelïau yn caledu ac yn mynd yn gul, ac mae hynny yn achosi clefydau fel clefyd y galon, anhwylderau cerebrofasgwlar, a chlefyd yr arennau. Roedd yn gwneud synnwyr imi felly mai amherffeithrwydd wedi ei etifeddu oedd ar fai am hyn. Dechreuais deimlo’n llai brwdfrydig am feddygaeth yn dilyn hyn. Jehofa yw’r unig un sy’n gallu cael gwared ar salwch a marwolaeth.

Ym mis Mawrth 1976, saith mis ar ôl imi ddechrau astudio’r Beibl, fe wnes i orffen gwneud fy ymchwil yn ysbyty athrofaol. Roeddwn i’n poeni na fyddwn i’n gallu gweithio fel doctor eto, ond cefais waith mewn ysbyty arall. Cefais fy medyddio ym mis Mai, 1976. Penderfynais mai’r peth gorau allwn i ei wneud â fy mywyd oedd gwasanaethu fel arloeswr llawn amser, a dechreuais wneud hynny ym mis Gorffennaf 1977.

Amddiffyn Safbwynt Duw ar Waed

Ym mis Tachwedd 1979, symudodd Masuko a minnau i gynulleidfa yn Nhalaith Chiba lle roedd mwy o angen am bregethwyr. Cefais swydd ran amser mewn ysbyty yno. Ar fy niwrnod cyntaf yn y gwaith, daeth grŵp o lawfeddygon ataf a gofyn: “Fel un o Dystion Jehofa, beth fyddech chi’n ei wneud petai claf sydd angen trallwysiad gwaed yn dod i’r ysbyty?”

Dywedais yn barchus y byddwn yn dilyn gorchmynion Duw ynglŷn â gwaed. Esboniais fod modd defnyddio triniaethau eraill yn lle trallwysiadau gwaed ac y byddwn yn gwneud fy ngorau glas i helpu fy nghleifion. Ar ôl trafod am tua awr, atebodd y prif lawfeddyg: “Dw i’n deall. Os bydd rhywun sydd wedi colli llawer o waed yn dod i’r ysbyty, fe wnawn ni ddelio â’r sefyllfa.” Roedd gan y prif lawfeddyg enw am fod yn anodd, ond ar ôl y drafodaeth honno roedd y berthynas rhyngddon ni’n dda ac roedd ef wastad yn parchu fy nghredoau.

Parch at Waed yn Cael Ei Brofi

Tra oedden ni’n gwasanaethu yn Chiba, roedd swyddfa gangen newydd i Dystion Jehofa yn cael ei hadeiladu yn Ebina. Roedd fy ngwraig a minnau yn mynd yno unwaith yr wythnos i ofalu am iechyd y Tystion oedd wedi gwirfoddoli i helpu i godi’r adeilad newydd, a elwir yn Bethel. Ar ôl ychydig o fisoedd cawson ni wahoddiad i wasanaethu yn y Bethel yn Ebina yn llawn amser. Felly, ym mis Mawrth 1981, symudon ni i mewn i’r adeilad lle roedd 500 o wirfoddolwyr yn byw. Bob bore, roeddwn i’n helpu i lanhau’r ystafelloedd ymolchi a’r toiledau ar y safle adeiladu, ac yna, yn y prynhawn roedden ni’n gweithio fel meddyg.

Un o fy nghleifion cyntaf oedd Ilma Iszlaub, a oedd wedi dod i Japan o Awstralia fel cenhades ym 1949. Roedd lewcemia arni hi, a dywedodd y meddygon mai dim ond ychydig o fisoedd oedd ganddi i fyw. Roedd Ilma yn gwrthod derbyn trallwysiadau gwaed er mwyn ymestyn ei bywyd, a dewisodd aros yn y Bethel am weddill ei hoes. Nid oedd meddyginiaethau sy’n helpu’r corff i greu celloedd coch, fel erythropoietin, ar gael bryd hynny. Felly, ar adegau aeth lefel ei haemoglobin i lawr i 3 neu 4 gram! (Mae’r lefel normal rhwng 12 a 15.) Ond fe wnes i fy ngorau glas i’w thrin. Parhaodd Ilma i ddangos ei ffydd gref yng Ngair Duw, a bu farw ym mis Ionawr 1988—ryw saith mlynedd wedyn!

Dros y blynyddoedd mae nifer o wirfoddolwyr sy’n gweithio yn y Bethel yn Japan wedi cael llawdriniaeth. Rydyn ni’n ddiolchgar i’r meddygon yn yr ysbytai lleol am wneud y llawdriniaethau hyn heb waed. Yn aml, rydw i wedi cael gwahoddiad i wylio’r llawdriniaethau, neu hyd oed i gael rhan ynddyn nhw. Rydw i’n gwerthfawrogi meddygon sy’n parchu safbwynt Jehofa ar waed. Mae gweithio gyda nhw wedi rhoi cyfle imi rannu fy ffydd. Yn ddiweddar, cafodd un o’r meddygon ei fedyddio yn un o Dystion Jehofa.

Mae ymdrech meddygon i drin Tystion Jehofa heb waed wedi bod o les i gleifion eraill. Oherwydd llawdriniaethau heb waed, mae tystiolaeth ar gael bellach sy’n dangos buddion osgoi trallwysiadau gwaed. Mae ymchwil wedi dangos bod cleifion yn cael llai o broblemau ac yn gwella yn gyflymach ar ôl llawdriniaeth heb drallwysiadau gwaed.

Parhau i Ddysgu Oddi Wrth y Meddyg Gorau

Rydw i’n dal ati i ddysgu am y datblygiadau diweddaraf ym maes meddygaeth. Ond rydw i hefyd yn parhau i ddysgu oddi wrth y Meddyg gorau, Jehofa. Mae ef yn gweld yr hyn yr ydyn ni ar y tu mewn yn hytrach na’r tu allan yn unig. (1 Samuel 16:7) Fel meddyg, rydw i’n ceisio trin yr unigolyn yn hytrach na’r afiechyd yn unig. Mae hyn yn caniatáu imi roi’r gofal gorau i’r claf.

Rydw i’n dal i wasanaethu yn y Bethel, ac rydw i wrth fy modd yn helpu eraill i ddysgu am Jehofa, ac am ei safbwynt ar waed. Rydw i’n gweddïo ar i Jehofa Dduw, y Meddyg gorau, ddod a salwch a marwolaeth i ben yn fuan.—Gan Yasushi Aizawa.

[Troednodiadau]

^ Par. 4 Yn ôl y llyfr Modern Blood Banking and Transfusion Practices gan y Dr Denise M. Harmening, os yw’r claf wedi bod yn feichiog, wedi derbyn trallwysiad gwaed yn y gorffennol, neu wedi cael trawsblaniad, gall trallwysiad gwaed achosi ymateb difrifol sy’n gallu dinistrio celloedd coch y claf. Yn yr achosion hyn, ni fydd profion gwaed sy’n cael eu gwneud cyn y trallwysiad yn dangos bod problemau yn debygol o godi. Yn ôl Dailey’s Notes on Blood, “gall haemolysis ddigwydd hyd yn oed pan fydd dim ond mymryn bach o waed anghydnaws yn cael ei drallwyso. Pan fydd yr arennau’n methu, mae’r claf yn cael ei wenwyno’n araf, gan nad ydy’r arennau bellach yn gallu glanhau’r gwaed.”

^ Par. 8 Dywed y Journal of Clinical Oncology, Awst 1998: “Mae’r rhagolygon i gleifion canser sy’n derbyn trallwysiadau gwaed ar adeg eu llawdriniaeth yn waeth o lawer na’r rhagolygon i gleifion sydd heb dderbyn trallwysiadau.”

[Broliant]

“Esboniais fod modd defnyddio triniaethau eraill yn lle trallwysiadau gwaed ac y byddwn yn gwneud fy ngorau glas i helpu fy nghleifion”

[Broliant]

“Oherwydd llawdriniaethau heb waed, mae tystiolaeth ar gael bellach sy’n dangos buddion osgoi trallwysiadau gwaed”

[Broliant]

Top: Rhoi anerchiad am y Beibl

Dde: Gyda fy ngwraig, Masuko, heddiw