Neidio i'r cynnwys

Beth Rydyn Ni’n ei Ddysgu o Fyd Natur?

Beth Rydyn Ni’n ei Ddysgu o Fyd Natur?

Beth Rydyn Ni’n ei Ddysgu o Fyd Natur?

“Gofyn i’r anifeiliaid—byddan nhw’n dy ddysgu; neu i’r adar—byddan nhw’n dweud wrthot ti. Neu gofyn i’r ddaear—bydd hi’n dy ddysgu, ac i bysgod y môr ddangos y ffordd i ti.”—JOB 12:7, 8.

YN DDIWEDDAR, mae gwyddonwyr a pheirianwyr wedi dysgu pethau diddorol iawn wrth edrych ar blanhigion ac anifeiliaid. Ym maes bioddynwared, maen nhw’n astudio ac yn copïo dyluniad gwahanol greaduriaid er mwyn creu cynnyrch newydd neu i wella’r hyn sydd eisoes yn bodoli. Wrth ystyried yr enghreifftiau canlynol, gofynnwch, ‘Pwy sy’n haeddu’r clod am y dyluniadau hyn?’

Rhyfeddodau Esgyll y Morfil

Beth all y rhai sy’n dylunio awyrennau ei ddysgu gan y morfil cefngrwm? Llawer iawn. Gall morfil cefngrwm bwyso tua 30 tunnell—cymaint â lori. Mae ei gorff yn weddol anhyblyg gydag esgyll mawr fel adenydd ar ei ddwy ochr. Mae’r anifail hwn yn 40 troedfedd o hyd, ond eto mae’n rhyfeddol o ystwyth o dan y dŵr. Er enghraifft, wrth fwydo, bydd morfil cefngrwm yn nofio mewn cylchoedd o dan haig o bysgod neu gramenogion, gan greu llen o swigod. Mae’r rhwyd hon o swigod, sydd weithiau dim ond rhyw bum troedfedd ar ei thraws, yn corlannu’r pysgod ar wyneb y dŵr. Wedyn mae’r morfil yn medru llyncu pryd o fwyd go dda.

Roedd gallu’r anifail enfawr hwn i droi mewn cylchoedd cyfyng yn peri penbleth i wyddonwyr. Y gyfrinach, yn ôl eu hymchwil, yw siâp yr esgyll. Dydy ymyl blaen yr esgyll ddim yn llyfn fel adain awyren, ond yn ddanheddog, gyda rhes o lympiau neu diwbercylau.

Wrth i’r morfil lithro drwy’r dŵr, mae’r tiwbercylau’n creu grym sy’n codi’r morfil ac yn lleihau effaith llusgiad. Sut felly? Esbonia’r cylchgrawn Natural History fod y tiwbercylau’n cyflymu’r dŵr sy’n rhedeg dros yr asgell a’i droi’n llif troellog llyfn, hyd yn oed pan fo’r morfil yn codi ar ongl serth. Petai’r asgell yn llyfn, ni fyddai’r morfil yn gallu troi mor sydyn oherwydd byddai’r dŵr yn corddi a throelli y tu ôl i’r asgell yn lle codi’r anifail.

Sut mae defnyddio’r ymchwil hwn mewn ffordd ymarferol? Petai adenydd awyrennau yn cael eu dylunio yn ôl y patrwm hwn, mae’n debyg na fyddai angen cymaint o ddarnau mecanyddol i reoli llif yr aer. Byddai adenydd fel hyn yn fwy diogel ac yn haws eu cynnal a’u cadw. Yn ôl John Long, sydd yn arbenigwr ym maes biomecaneg, “Mae’n debyg y byddwn ni’n gweld lympiau tebyg i’r rhai sydd ar esgyll y morfil cefngrwm ar adenydd pob awyren fawr.”

Copïo Adain yr Wylan

Wrth gwrs, mae adenydd awyrennau eisoes wedi eu dylunio ar siâp adenydd adar. Fodd bynnag, yn ddiweddar mae peirianwyr wedi mynd cam ymhellach. Yn ôl y New Scientist: “Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Fflorida wedi adeiladu drôn a reolir o bell sy’n medru hofran a gwibio i fyny ac i lawr fel gwylan.”

Mae’r wylan yn gallu plygu ei hadenydd wrth y penelin a’r ysgwydd, a dyna sy’n gyfrifol am ei champau hedfan gwych. Gan ddilyn patrwm yr adain hyblyg hon, mae’r drôn prototeip 24-modfedd yn defnyddio modur bychan i reoli cyfres o rodiau metel sy’n symud yr adenydd,” meddai’r cylchgrawn. Mae saernïaeth yr adenydd yn caniatáu i’r awyren fach hofran a hedfan rhwng adeiladau uchel. Mae rhai yn y lluoedd arfog yn awyddus i ddatblygu awyrennau o’r fath i chwilio am arfau biolegol neu gemegol mewn dinasoedd.

Copïo Traed y Geco

Gallwn ddysgu llawer o astudio anifeiliaid y tir hefyd. Er enghraifft, mae’r geco, sy’n fath o fadfall, yn gallu dringo i fyny waliau a glynu, wyneb i waered, wrth y nenfwd. Hyd yn oed yn amser y Beibl, roedd pobl yn rhyfeddu at allu’r creadur bach hwnnw. (Diarhebion 30:28) Sut mae’r geco yn gallu gwneud y fath beth?

Mae’r geco yn gallu glynu wrth wynebau mor llyfn â gwydr oherwydd bod ei draed wedi eu gorchuddio â rhywbeth tebyg i flew hynod o fain. Dydy’r traed ddim yn gwneud glud. Ond maen nhw’n manteisio ar atyniad bychan iawn rhwng moleciwlau. Mae’r moleciwlau ar y ddau wyneb yn glynu wrth ei gilydd o ganlyniad i atyniadau gwan iawn a elwir yn rymoedd Van der Waals. Fel arfer, mae disgyrchiant yn gryfach na’r grymoedd hyn, a dyna pam na allwch chi ddringo wal drwy osod cledrau eich dwylo arni. Sut bynnag, mae’r blew main ar draed y geco yn golygu bod mwy o arwyneb yn cyffwrdd â’r wal. Mae grymoedd Van der Waals yn wan iawn, ond oherwydd bod miloedd o flew bychain ar draed y geco, mae’r atyniad yn ddigon i ddal pwysau’r anifail.

Sut mae defnyddio’r ymchwil hwn? Byddai modd defnyddio deunydd sy’n copïo traed y geco yn lle Velcro—syniad arall sydd wedi ei fenthyg o fyd natur. * Dywedodd un ymchwilydd yn yr Economist y byddai “tâp geco” gludiog yn ddefnyddiol iawn “yn y byd meddygol, lle na ellir defnyddio gludion cemegol.”

Pwy Sy’n Haeddu’r Clod?

Mae NASA yn datblygu robot amlgoesog sy’n cerdded fel sgorpion, ac mae peirianwyr yn y Ffindir eisoes wedi datblygu tractor chwe choes sy’n medru dringo dros bethau fel petai’n drychfil anferth. Mae ymchwilwyr eraill wedi dylunio ffabrig gyda fflapiau bychain sy’n efelychu’r ffordd mae moch coed y binwydden yn agor ac yn cau. Mae’r defnydd yn ymaddasu i dymheredd y corff. Mae un cwmni ceir yn datblygu car sy’n efelychu siâp erodynamig y pysgodyn bocs. Mae ymchwilwyr sy’n chwilio am ffordd i wneud arfwisgoedd ysgafnach a chryfach yn astudio cragen y forglust oherwydd ei nodweddion siocleddfol.

Gan fod byd natur yn cynnig cymaint o syniadau da, mae ymchwilwyr wedi creu cronfa ddata sy’n rhestru miloedd o wahanol systemau biolegol. Gall gwyddonwyr chwilio’r gronfa ddata hon i gael “atebion o fyd natur i’w problemau dylunio,” meddai’r Economist. Mae’r systemau naturiol a restrir yn y gronfa ddata yn cael eu hadnabod fel “patentau biolegol.” Fel arfer, bydd unigolyn neu gwmni yn cofrestru dyfais neu syniad newydd, a nhwythau wedyn fydd yn dal y patent. Wrth drafod y gronfa ddata, dywed yr Economist: “Trwy roi’r enw ‘patent biolegol’ ar ddyluniadau sy’n dynwared dyfeisgarwch byd natur, mae ymchwilwyr yn pwysleisio mai natur, i bob pwrpas, sy’n dal y patent.”

Sut gwnaeth natur daro ar yr holl syniadau gwych hyn? Byddai llawer o wyddonwyr yn dweud mai miliynau o flynyddoedd o brofi a methu esblygiadol sy’n gyfrifol am ddyfeisgarwch ymddangosiadol byd natur. Ond mae gwyddonwyr eraill wedi dod i gasgliad gwahanol. Ysgrifennodd y microbiolegydd Michael Behe yn y New York Times, yn 2005: “Mor gryf yw’r argraff fod [byd natur] wedi ei ddylunio nes ei bod hi’n bosibl dadlau’n syml: os yw’n edrych fel hwyaden, yn cerdded ac yn cwacio fel hwyaden, ac os nad oes tystiolaeth gref i brofi fel arall, mae gennyn ni reswm da dros gredu mai hwyaden ydyw.” Yn ei farn ef, “Ni ddylai’r ffaith fod dyluniad mor amlwg wneud inni ei ddiystyru.”

Heb os, fe ddylai peiriannydd sy’n dylunio adenydd awyren mwy diogel ac effeithlon dderbyn y clod am ei gynllun. Yn yr un modd, mae’r bobl sy’n dyfeisio defnydd dillad mwy cyfforddus, neu gar mwy effeithlon, yn haeddu’r clod am eu cynlluniau. Yn wir, fe all cwmni sy’n copïo dyluniad rhywun arall heb gydnabod hynny gael ei erlyn.

Ystyriwch: Mae gwyddonwyr disglair yn gwneud copïau ansoffistigedig o systemau byd natur er mwyn datrys problemau peirianegol. Ond bydd rhai’n dweud mai esblygiad anneallus sy’n gyfrifol am ddyfeisgarwch y syniad gwreiddiol. Ydy hynny’n swnio’n rhesymol i chi? Os oes angen dylunydd deallus ar y copi, beth am y gwreiddiol? Mewn gwirionedd, pwy sy’n haeddu’r clod? Y peiriannydd neu’r prentis sy’n copïo ei gynlluniau?

Casgliad Rhesymegol

Ar ôl bwrw golwg ar y dystiolaeth o ddylunio ym myd natur, mae llawer o bobl yn cytuno â geiriau’r Beibl: “O ARGLWYDD, rwyt wedi creu cymaint o wahanol bethau! Rwyt wedi gwneud y cwbl mor ddoeth. Mae’r ddaear yn llawn o dy greaduriaid di!” (Salm 104:24) Daeth yr apostol Paul at yr un casgliad, gan ysgrifennu: “Er bod Duw ei hun yn anweledig, mae’r holl bethau mae wedi eu creu yn dangos yn glir mai fe ydy’r Duw go iawn a bod ei allu yn ddi-ben-draw. Felly does gan neb esgus dros beidio credu!”—Rhufeiniaid 1:19, 20.

Sut bynnag, byddai nifer o bobl ddiffuant sy’n credu yn Nuw ac yn parchu’r Beibl yn dadlau bod Duw wedi defnyddio esblygiad i greu rhyfeddodau byd natur. Ond beth mae’r Beibl yn ei ddysgu?

[Troednodyn]

^ Par. 15 Caewr bachyn-a-dolen yw Velcro, sy’n copïo dyluniad hadau planhigyn o’r enw cyngaf neu cacamwci.

[Broliant]

Sut gwnaeth natur daro ar yr holl syniadau gwych hyn?

[Broliant]

Pwy sy’n dal patent byd natur?

[Blwch/Lluniau]

Os oes angen dylunydd ar y copi, beth am y gwreiddiol?

Mae dyluniad yr awyren fach hon wedi ei gopïo o adenydd yr wylan

Dydy traed y geco ddim yn baeddu nac yn gadael olion. Maen nhw’n gallu glynu wrth unrhyw arwyneb ac eithrio Teflon, gan lynu a dadlynu yn ddidrafferth. Mae gwyddonwyr yn ceisio eu copïo

Siâp erodynameg y pysgodyn bocs oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i gar cysyniadol

[Llinellau Cydnabyddiaeth]

Airplane: Kristen Bartlett/University of Florida; gecko foot: Breck P. Kent; box fish and car: Mercedes-Benz USA

[Blwch/Lluniau]

CANFOD Y FFORDD—DONIAU GREDDFOL YM MYD NATUR

Mae llawer o anifeiliaid yn “ddoeth dros ben” yn eu gallu i ganfod eu ffordd o gwmpas y Ddaear. (Diarhebion 30:24, 25) Ystyriwch ddwy esiampl.

Rheoli Traffig ym Myd y Morgrug Sut mae morgrug sy’n mynd ar sgowt yn cael hyd i’r ffordd yn ôl i’r nyth? Mae ymchwilwyr yn y Deyrnas Unedig wedi darganfod bod morgrug yn gadael arwyddion ar ffurf arogl, ond ar ben hynny mae rhai yn defnyddio geometreg i greu llwybrau sy’n gwneud hi’n hawdd cyrraedd adref. Er enghraifft, yn ôl New Scientist, mae morgrug pharo “yn creu llwybrau sy’n fforchio’n ddwy ar ongl rhwng 50 a 60 gradd.” Beth sydd mor arbennig am y patrwm hwn? Pan fydd morgrugyn yn cychwyn yn ôl i’r nyth ac yn cyrraedd fforch yn y llwybr, yn reddfol mae’n dewis y llwybr sy’n gwyro leiaf, ac mae hwnnw bob amser yn mynd ag ef adref. Mae’r erthygl yn esbonio: “Mae’r fathemateg y tu ôl i’r llwybrau fforchog, yn hwyluso llif y morgrug trwy’r rhwydwaith o lwybrau, yn enwedig pan fyddan nhw’n symud i’r ddau gyfeiriad. Mae hefyd yn lleihau’r egni sy’n cael ei wastraffu pan fydd morgrug yn mynd i’r cyfeiriad anghywir.”

Cwmpawdau yr Adar Mae llawer o adar yn teithio pellteroedd mawr ym mhob tywydd ac yn medru lleoli eu hunain yn fanwl gywir. Sut? Mae ymchwilwyr wedi darganfod bod adar yn medru synhwyro maes magnetig y ddaear. Sut bynnag, yn ôl y cylchgrawn Science mae “llinellau maes magnetig y ddaear yn amrywio o le i le ac nid ydyn nhw bob amser yn pwyntio tuag at y gogledd cywir.” Beth sydd yn atal adar mudol rhag colli eu ffordd? Mae’n ymddangos bod yr adar yn addasu eu cwmpawd mewnol yn ôl lleoliad machlud yr haul. Gan fod y lleoliad hwn yn newid yn ôl y tymor a’r lledred, mae ymchwilwyr yn meddwl bod yr adar yn medru gwneud iawn am y newidiadau oherwydd bod ganddyn nhw “gloc biolegol sy’n dweud pa amser o’r flwyddyn ydyw,” meddai Science.

Pwy roddodd i’r morgrug y gallu i ddeall geometreg? Pwy roddodd gwmpawd a chloc biolegol i’r adar, ynghyd ag ymennydd sy’n gallu dadansoddi’r wybodaeth a’i defnyddio? Hap a damwain esblygiad? Neu Greawdwr deallus?

[Llinell Gydnabyddiaeth]

© E.J.H. Robinson 2004