CYFWELIAD | RACQUEL HALL
Dynes Iddewig yn Esbonio Pam Wnaeth Hi Archwilio Ei Ffydd
Ganwyd Racquel Hall i fam Iddewig o Israel ac i dad o Awstria a drodd at y ffydd Iddewig. Seionyddion oedd rhieni ei mam, a fewnfudodd i Israel ym 1948, sef y flwyddyn cafodd y Wlad statws annibynnol. Gofynnodd y cylchgrawn Deffrwch! i Racquel beth wnaeth iddi benderfynu archwilio ei ffydd Iddewig.
Beth ydy dy gefndir?
Cefais fy ngeni ym 1979 yn yr Unol Daleithiau. Pan oeddwn i’n dair oed, ysgarodd fy rhieni. Ces i fy magu gan fy mam yn ôl traddodiadau Iddewig, a chefais addysg mewn yeshivas, sef ysgolion Iddewig. Pan o’n i’n saith oed, symudon ni i Israel am flwyddyn. Es i i’r ysgol mewn cibẃts, sef cymuned gwaith lle’r oedden ni’n byw. Ar ôl hynny, symudodd Mam a minnau i Fecsico.
Er doedd ‘na ddim synagog yn yr ardal, daliais at fy arferion Iddewig. Byddwn i’n tanio canhwyllau ar y Saboth, darllen y Tora, a gweddïo drwy ddefnyddio siddur, neu lyfr gweddïau. Yn yr ysgol, oeddwn i’n aml yn dweud wrth fy nghyfoedion mai fy nghrefydd i oedd yr un wreiddiol. Doeddwn i erioed wedi darllen y rhan o’r Beibl sy’n cael ei hadnabod yn gyffredinol fel y Testament Newydd, sy’n canolbwyntio ar weinidogaeth a dysgeidiaethau Iesu Grist. A dweud y gwir, roedd fy mam wedi fy rhybuddio i rhag gwneud hynny, gan ofni y byddai’r dysgeidiaethau yn llygru fy meddwl.
Beth wnaeth iti benderfynu darllen y Testament Newydd?
Yn 17 oed, symudais yn ôl i’r Unol Daleithiau er mwyn gorffen fy addysg seciwlar. Tra oeddwn i yno, gwnaeth un o fy nghyfoedion, a oedd yn honni ei fod yn Gristion, ddweud wrtho i na fyddai fy mywyd yn gyflawn heb Iesu.
Atebais, “Mae pobl sy’n credu yn Iesu ar goll.”
“Wyt ti erioed wedi darllen y Testament Newydd?” gofynnodd.
”Naddo,” oedd fy ateb.
”Felly,” dywedodd, “on’d ydy hynny ddim yn dangos dy fod ti’n anwybodus, drwy fynegi barn ar bwnc dwyt ti ddim yn gwybod unrhyw beth amdano?”
Roedd ei eiriau fel cleddyf i’m calon, am fy mod i wastad wedi meddwl ei bod hi’n ddwl i fynegi barn yn fyrbwyll. Â’r cerydd yn canu yn fy nghlustiau, es i adref gyda’i Feibl a dechrau darllen y Testament Newydd.
Sut gwnaeth darllen y Testament Newydd effeithio arnat ti?
Er syndod imi, wnes i ddarganfod bod ysgrifenwyr y Testament Newydd yn Iddewig. Hefyd, mwya’n y byd o’n i’n darllen, mwya’n y byd o’n i’n gweld Iesu fel Iddew caredig a gostyngedig a oedd eisiau helpu pobl, nid eu hecsbloetio. Wnes i hyd yn oed fynd i’r llyfrgell i fenthyg llyfrau amdano. Er hynny, wnaeth yr un ohonyn nhw brofi imi mai ef oedd y Meseia. Roedd rhai llyfrau hyd yn oed yn cyfeirio ato fel Duw—dysgeidiaeth doedd ddim yn gwneud unrhyw synnwyr imi. Wedi’r cwbl, ar bwy weddïodd Iesu—ei hun? Ar ben hynny, bu farw Iesu. Ond mae’r Beibl yn dweud am Dduw: “Fyddi di byth yn marw!” *
Sut dest ti o hyd i atebion i’r cwestiynau hyn?
Dydy gwirionedd byth yn gwrth-ddweud ei hun, ac oeddwn i’n benderfynol o gael hyd i’r gwir. Felly droies i at Dduw mewn gweddi daer—am y tro cyntaf heb ddefnyddio’r siddur. O fewn dim imi orffen gweddïo, daeth cnoc ar y drws. Dyna ddwy o Dystion Jehofa yno, a chefais ganddyn nhw gopi o’r llyfryn Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni? Gwnaeth y llyfryn hwn, a’r sgyrsiau cefais gyda’r Tystion, fy mherswadio bod eu credoau yn seiliedig ar y Beibl. Er enghraifft, mae’r Tystion yn cydnabod mai Iesu “ydy Mab Duw” * a “dechreuad creadigaeth Duw” *, nid rhyw ran o Drindod.
Yn fuan wedyn, dychwelais i Fecsico, lle wnes i barhau i astudio’r proffwydoliaethau Meseianaidd gyda’r Tystion. Oeddwn i’n synnu at faint o broffwydoliaethau oedd ‘na! Eto, roedd gen i rywfaint o amheuon o hyd. Roedd gen i gwestiynau fel: ‘Ai Iesu oedd yr unig un i ffitio’r gofynion?’ a ‘Beth petai ef ddim ond yn actor medrus yn chwarae’r rôl?’
Beth wnaeth dy berswadio di?
Dangosodd y Tystion imi broffwydoliaethau na fyddai twyllwr yn medru eu gwireddu. Er enghraifft, dros 700 mlynedd o flaen llaw, proffwydodd Micha y byddai’r Meseia yn cael ei eni ym Methlehem, Jwdea. * Pwy all reoli lle mae’n cael ei eni? Proffwydodd Eseia y byddai’r Meseia yn cael ei ladd fel petai’n droseddwr ffiaidd, ond eto byddai’n cael ei gladdu gyda’r cyfoethog. * Cyflawnwyd y proffwydoliaethau hyn i gyd drwy Iesu.
Roedd y prawf olaf yn ymwneud â llinach Iesu. Yn ôl y Beibl, byddai’r Meseia yn un o ddisgynyddion y Brenin Dafydd. * Gan fod yr Iddewon gynt yn cadw cofnodion teuluol yn eu harchifau, pe bai Iesu ddim yn dod o linach Dafydd, byddai ei elynion wedi neidio ar y cyfle i ddod â hynny i’r amlwg. Ond doedd hynny ddim yn bosib achos doedd neb yn mynd i wadu cysylltiad teuluol Iesu i Dafydd. Roedd hyd yn oed y tyrfaoedd yn cyfeirio ato fel ‘Mab Dafydd.’ *
Yn 70 OG—37 mlynedd ar ôl marwolaeth Iesu—chwalwyd Jerwsalem gan fyddin Rhufain, a chafodd y cofnodion teuluol eu colli am byth. Felly, er mwyn iddo gael ei adnabod fel un o ddisgynyddion Dafydd, byddai’n rhaid i’r Meseia fod wedi ymddangos cyn 70 OG.
Pa effaith gafodd y datguddiad hwn arnat ti?
Rhagfynegwyd yn Deuteronomium 18:18, 19, y byddai Duw yn codi proffwyd arall fel Moses yn Israel. Dywedodd Duw, “Bydd e’n siarad drosta i, a bydd pwy bynnag sy’n gwrthod gwrando ar beth mae e’n ddweud yn atebol i mi.” Mae fy astudiaeth drylwyr o’r Beibl cyfan yn fy argyhoeddi mai Iesu o Nasareth oedd y proffwyd hwnnw.
^ Par. 15 Habacuc 1:12.
^ Par. 17 Datguddiad 3:14, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.
^ Par. 20 Micha 5:2; Mathew 2:1.
^ Par. 20 Eseia 53:3, 7, 9; Marc 15:43, 46.
^ Par. 21 Eseia 9:6, 7; Luc 1:30-32. Mae Mathew pennod 1 yn cofnodi llinach tad Iesu, a Luc pennod 3 yn cofnodi linach ei fam.