Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Y Llawenydd o Fyw Bywyd Syml

Y Llawenydd o Fyw Bywyd Syml

PRIODODD Daniel â Miriam ym mis Medi 2000 a setlo yn Barcelona, Sbaen. “Roedden ni’n byw bywyd normal,” meddai Daniel. “Roedden ni’n ennill digon o arian i fwyta mewn tai bwyta crand, i deithio dramor, ac i wisgo dillad drud. Roedden ni hefyd yn gallu pregethu’n rheolaidd.” Ond, newidiodd eu sefyllfa.

Mewn cynhadledd yn 2006, cafodd cwestiwn a ofynnwyd yn un o’r anerchiadau ddylanwad mawr ar Daniel: “Ydyn ni’n gwneud popeth a allwn ni i helpu’r rhai ‘sy’n baglu i’r bedd’ i gerdded ar y ffordd sy’n arwain at fywyd tragwyddol?” (Diar. 24:11) Roedd yr anerchiad yn pwysleisio’r cyfrifoldeb o gyhoeddi neges achubol y Beibl. (Act. 20:26, 27) Mae Daniel yn cofio, “Roeddwn i’n teimlo bod Jehofa yn siarad â mi.” Hefyd pwysleisiwyd bod gwneud mwy yn y weinidogaeth yn dod â mwy o lawenydd. Gwyddai Daniel fod hynny’n wir. Roedd Miriam eisoes wedi dechrau arloesi a gweld y bendithion.

Dywedodd Daniel, “Gwnes i ddod i’r casgliad y dylwn i wneud tro pedol.” A dyma’n gwneud hynny. Dechreuodd weithio llai o oriau, cychwyn arloesi, a meddwl am y llawenydd y byddai ef a Miriam yn ei gael yn gwasanaethu lle mae angen mwy o gyhoeddwyr y Deyrnas.

ANAWSTERAU AC YNA NEWYDDION CYFFROUS

Ym mis Mai 2007, gadawodd Daniel a Miriam eu swyddi a symud i Panamâ, gwlad roedden nhw wedi bod iddi o’r blaen. Roedd eu tiriogaeth yn cynnwys sawl ynys yn y Bocas del Toro ym môr y Caribî, a oedd yn gartref i’r bobl frodorol, yr Ngabe. Roedd Daniel a Miriam yn meddwl byddai’r arian roedden nhw wedi ei gadw yn caniatáu iddyn nhw aros yn Panamâ am tua wyth mis.

Teithion nhw i’r ynysoedd mewn cwch ac yna ar gefn eu beiciau, ac maen nhw’n dal yn cofio’r daith gyntaf honno—tua 20 milltir dros fryniau serth, o dan yr haul tanbaid. Bu bron i Daniel lewygu oherwydd gorflinder. Ond, yn y tai ar hyd y ffordd, rhoddodd teuluoedd yr Ngabe groeso cynnes iddyn nhw, yn enwedig ar ôl i’r cwpl ddysgu ychydig o ddywediadau yn yr iaith leol. Cyn bo hir, roedden nhw’n cynnal 23 o astudiaethau Beiblaidd.

Ond, pan wnaeth eu harian redeg allan, roedd llawenydd y ddau ohonyn nhw’n troi’n dristwch. Mae Daniel yn cofio: “Â dagrau yn ein llygaid, dechreuon ni feddwl am y daith yn ôl i Sbaen. Roedden ni mor drist i adael ein hastudiaethau.” Ond, fis yn ddiweddarach, cawson nhw newyddion cyffrous. Dywed Miriam: “Cawson ni’n gwahodd i wasanaethu’n arloeswyr arbennig. Am fendith oedd cael aros yn ein haseiniad!”

LLAWENYDD HEB EI AIL

Yn 2015, oherwydd newidiadau yn y gyfundrefn, gofynnwyd i Daniel a Miriam barhau yn eu haseiniad, ond fel arloeswyr llawn-amser. Beth fyddan nhw’n ei wneud? Gwnaethon nhw ymddiried yng ngeiriau Salm 37:5: “Rho dy hun yn nwylo’r ARGLWYDD a’i drystio fe; bydd e’n gweithredu ar dy ran di.” Gwnaethon nhw ddarganfod gwaith i’w cynnal fel arloeswyr, a heddiw maen nhw’n gwasanaethu mewn cynulleidfa yn ardal Veraguas, Panamâ.

Dywed Daniel: “Cyn inni adael Sbaen, doedden ni ddim yn sicr os medrwn ni fyw bywyd syml. Heddiw mi ydyn ni, ac mae gennyn ni bopeth pwysig sydd ei angen arnon ni.” Beth sydd wedi dod â’r llawenydd mwyaf iddyn nhw? Maen nhw’n dweud, “Mae helpu pobl ostyngedig i ddysgu am Jehofa yn dod â llawenydd heb ei ail!”