Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Awgrymiad ar Gyfer Astudio

Awgrymiad ar Gyfer Astudio

Dod i Adnabod Personoliaeth Jehofa yn Well

Gallwn ni ddefnyddio tŵls astudio i’n helpu ni i ddeall yn well beth rydyn ni’n ei ddarllen yn y Beibl. Ond, mae’n beth da i wneud mwy na chwilio am ffeithiau yn unig. Rydyn ni eisiau dysgu mwy am bersonoliaeth Jehofa er mwyn ei garu yn fwy. I wneud hyn, gallwn ofyn i ni’n hunain, ‘Beth mae’r rhan hon o’r Beibl yn ei ddysgu imi am Jehofa?’

Gallwn ni edrych am dystiolaeth sy’n dangos cariad, doethineb, cyfiawnder, a phŵer Jehofa. Ond, mae ’na gymaint o bethau hyfryd eraill gallwn ni eu dysgu am ei bersonoliaeth. Sut gelli di ddysgu mwy am y rhinweddau hyn?

Mae ’na restr o fwy na 50 o rinweddau eraill yn y Watch Tower Publications Index Saesneg. Gelli di ddod o hyd iddyn nhw o dan y bennawd “Jehovah” ac yna’r is-bennawd “Qualities by Name.” Ymchwilia’r rhai sy’n berthnasol i’r hanes yn y Beibl rwyt ti’n ei ddarllen. (Os mai dim ond Llawlyfr Cyhoeddiadau Tystion Jehofa sydd ar gael iti, edrycha o dan y bennawd “Jehofa Dduw” ac yna’r is-bennawd “Rhinweddau Jehofa.”)