Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau ein Darllenwyr

Cwestiynau ein Darllenwyr

Cwestiynau ein Darllenwyr

Yng ngoleuni gorchymyn y Beibl ar y defnydd cywir o waed, beth yw safbwynt Tystion Jehofa ar driniaethau meddygol sy’n defnyddio gwaed y claf ei hun?

Mae’n rhaid i Gristion benderfynu, nid ar sail ei farn bersonol, neu ar farn meddygon, ond ar yr hyn mae’r Beibl yn ei ddweud. Mae hyn yn fater rhyngddo ef a Jehofa.

Jehofa yw’r un sydd wedi ein creu, ac y mae wedi gorchymyn inni beidio â bwyta gwaed. (Genesis 9:3, 4) Yn y Gyfraith a roddodd Duw i Israel gynt, esboniodd Duw beth dylai gael ei wneud â gwaed. Dywedodd: “Mae bywyd yr anifail yn y gwaed. Dw i wedi ei roi i’w aberthu ar yr allor yn eich lle chi.” Ond beth petai rhywun yn lladd anifail i’w fwyta? Dywedodd Duw: “Rhaid gadael i’r gwaed redeg allan ohono, ac wedyn gorchuddio’r gwaed hwnnw gyda phridd.” * (Lefiticus 17:11, 13) Ailadroddodd Jehofa’r gorchymyn hwn dro ar ôl tro. (Deuteronomium 12:16, 24; 15:23) Dywed y Soncino Chumash Iddewig: “Ni ddylid cadw’r gwaed, ond dylid ei dywallt ar y llawr, fel na fydd neb yn gallu ei ddefnyddio neu ei fwyta.” Nid oedd Iddew i gymryd, i gadw, nac i ddefnyddio gwaed unrhyw anifail, yr oedd ei fywyd yn perthyn i Dduw.

Daeth y cyfrifoldeb i gadw Cyfraith Moses i ben pan fu farw’r Meseia. Ond i Dduw, mae gwaed yn dal yn sanctaidd. Dan ddylanwad ysbryd glân Duw, dywedodd yr apostolion wrth y Cristnogion am ‘ymgadw rhag gwaed.’ Gorchymyn difrifol oedd hwn. Roedd yr un mor bwysig ag ymgadw rhag anfoesoldeb rhywiol neu eilunaddoliaeth. (Actau 15:28, 29; 21:25, BCND) Daeth rhoi a thrallwyso gwaed yn arfer cyffredin yn yr ugeinfed ganrif, ond roedd Tystion Jehofa yn deall bod yr arfer yn mynd yn groes i Air Duw. *

O bryd i’w gilydd, bydd meddyg yn annog claf i roi peth o’i waed ar gadw ychydig o wythnosau cyn cael llawdriniaeth (preoperative autologous blood donation neu PAD) rhag ofn bod angen trallwysiad gwaed. Ond mae casglu, cadw, a thrallwyso gwaed yn mynd yn erbyn yr hyn mae Lefiticus a Deuteronomium yn ei ddweud. Nid yw gwaed i’w gael ei gadw; mae i’w ‘dywallt ar lawr’—ei roi yn ôl i Dduw fel petai. Wrth gwrs, heddiw nid ydyn ni’n gorfod dilyn Cyfraith Moses. Serch hynny mae Tystion Jehofa yn parchu safbwynt Duw ar waed. Nid ydyn ni’n rhoi gwaed nac yn cadw ein gwaed ein hunain ar gyfer trallwysiadau oherwydd y dylai gwaed gael ei ‘dywallt ar lawr.’

Nid yw Gair Duw yn sôn am bob triniaeth a phrawf sy’n ymwneud â gwaed yr unigolyn. Er enghraifft, mae llawer o Gristnogion yn cael profion gwaed, ac mae’r meddyg wedyn yn cael gwared ar y sampl. Weithiau bydd meddygon yn awgrymu triniaethau eraill sy’n ymwneud â gwaed y claf ei hun.

Er enghraifft, mewn rhai llawdriniaethau bydd gwaed y claf yn cael ei ailgyfeirio o’i gorff mewn proses o’r enw hemowanedu (haemodilution). Mae hylif arall yn cael ei defnyddio i deneuo’r gwaed. Yna mae’r gwaed yn cael ei ddychwelyd i’r claf er mwyn codi’r cyfrifiad gwaed. Mewn ffordd debyg, gall gwaed sy’n cael ei golli yn ystod llawdriniaeth gael ei gasglu a’i olchi a’i roi yn ôl i’r claf. Yr enw ar y dechneg hon yw arbed celloedd. Mewn proses wahanol, gall gwaed gael ei ailgyfeirio i beiriant sy’n gwneud gwaith y galon, yr ysgyfaint, neu’r arennau er enghraifft. Yna mae’r gwaed yn mynd drwy’r peiriant ac yn ôl i’r claf. Mewn triniaethau eraill mae’r gwaed yn cael ei yrru drwy allgyrchydd (centrifuge) er mwyn cael gwared ar elfennau sy’n ddiffygiol neu’n niweidiol. Weithiau y nod yw dethol rhyw elfen yn y gwaed i’w defnyddio’n rhywle arall yn y corff. Mewn profion eraill cymerir mymryn o waed a’i gymysgu â meddyginiaeth cyn ei roi’n ôl i’r claf.

Mae pob sefyllfa yn unigryw ac mae triniaethau meddygol yn datblygu o hyd. Nid ein cyfrifoldeb ni yw ystyried pob un opsiwn a gwneud penderfyniadau. Mae’n rhaid i bob Cristion benderfynu sut bydd ei waed yn cael ei drin neu ei ddefnyddio yn ystod llawdriniaeth, profion meddygol neu driniaeth arall. Cyn derbyn llawdriniaeth, dylai’r Cristion ofyn i’w feddyg sut bydd ei waed yn cael ei ddefnyddio yn ystod y driniaeth. Yna dylai benderfynu yn ôl ei gydwybod. (Gweler y blwch.)

Mae’n bwysig i bob Cristion gofio ei fod wedi ymgysegru i Dduw ac wedi addo ‘ei garu â’i holl galon, ei holl enaid, ei holl nerth a’i holl feddwl.’ (Luc 10:27) Yn wahanol i’r rhan fwyaf o bobl yn y byd, mae Tystion Jehofa yn trysori eu perthynas agos â Duw. Mae ein Creawdwr yn ein hannog ni i roi ein ffydd yng ngwaed Iesu. Darllenwn: “Ynddo ef [Iesu Grist] y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed, sef maddeuant ein camweddau.”—Effesiaid 1:7, BCND.

[Troednodiadau]

^ Par. 4 Ysgrifennodd yr Athro Frank H. Gorman: “Drwy dywallt gwaed ar y llawr, roedd rhywun yn dangos parch tuag at yr anifail. Roedd yn ufuddhau i Dduw ac yn dangos parch tuag ato Ef fel y Creawdwr.”

^ Par. 5 Rhoddodd y Tŵr Gwylio Saesneg, Gorffennaf 1, 1951, atebion i gwestiynau pwysig ar y pwnc, gan ddangos pam nad yw’n addas i Gristnogion dderbyn trallwysiadau gwaed.

[Blwch/Lluniau]

CWESTIYNAU I’W HYSTYRIED

Petai peth o’m gwaed yn cael ei ddargyfeirio o fy nghorff, a’r llif efallai’n cael ei atal am gyfnod, a fyddai fy nghydwybod yn ystyried bod y gwaed hwnnw yn dal yn rhan ohonof, ac felly heb angen ei dywallt ar y ddaear?

Petai rhywfaint o’m gwaed yn cael ei dynnu allan yn ystod triniaeth feddygol ac yna’n cael ei addasu a’i gyfeirio’n ôl i fy nghorff, a fyddai hynny yn poeni fy nghydwybod fel Cristion?