Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Yn 2 Corinthiaid 6:​14, at bwy oedd Paul yn cyfeirio pan soniodd am “bobl sydd ddim yn credu”?

Yn 2 Corinthiaid 6:​14, rydyn ni’n darllen: “Dych chi’n wahanol i bobl sydd ddim yn credu​—felly peidiwch ymuno â nhw.” O edrych ar y cyd-destun, mae’n amlwg bod Paul yn sôn am y rhai sydd ddim yn rhan o’r gynulleidfa Gristnogol. Mae hynny’n cael ei gadarnhau gan adnodau eraill yn y Beibl lle mae Paul yn sôn am “bobl sydd ddim yn credu” neu “anghredinwyr.”

Er enghraifft, wnaeth Paul rybuddio Cristnogion rhag mynd i’r llys “o flaen pobl sydd ddim yn credu.” (1 Corinthiaid 6:6) Yma, mae’r term “pobl sydd ddim yn credu” yn cyfeirio at y barnwyr yn y llysoedd yng Nghorinth. Yn ei ail lythyr, dywedodd Paul fod Satan wedi “dallu’r rhai sydd ddim yn credu.” Mae llygaid yr anghredinwyr hyn wedi eu ‘gorchuddio’ rhag gweld y newyddion da. Nid yw’r bobl hyn wedi dangos diddordeb mewn gwasanaethu Jehofa, gan fod Paul eisoes wedi esbonio: “Pan mae’n troi at yr Arglwydd, mae’r gorchudd yn cael ei dynnu i ffwrdd.”​—2 Corinthiaid 3:​16; 4:4.

Mae rhai anghredinwyr yn addoli eilunod ac nid oes ganddyn nhw barch at y gyfraith. (2 Corinthiaid 6:​15, 16) Ond nid pawb sydd yn erbyn gweision Jehofa. Mae rhai yn dangos diddordeb yn y gwir. Mae gan lawer ohonyn nhw gymar sy’n Gristion ac maen nhw’n hapus i aros gyda’i gilydd. (1 Corinthiaid 7:​12-​14; 10:27; 14:22-​25; 1 Pedr 3:​1, 2) Ond mae Paul yn defnyddio’r term ‘pobl sydd ddim yn credu’ i gyfeirio at unigolion sydd ddim yn rhan o’r gynulleidfa Gristnogol, sy’n llawn “pobl sy’n credu yn yr Arglwydd.”​—Actau 2:​41; 5:​14; 8:​12, 13.

Mae egwyddor 2 Corinthiaid 6:​14 yn gallu helpu Cristnogion ym mhob rhan o’u bywydau, yn enwedig y rhai sydd eisiau priodi. (Mathew 19:​4-6) Ni fydd Cristion sydd wedi ymgysegru i Dduw a chael ei fedyddio yn chwilio am gymar ymhlith yr anghredinwyr, gan fod eu moesau, amcanion a chredoau mor wahanol i rai gwir Gristnogion.

Ond beth am y rhai sy’n astudio’r Beibl ac yn cymdeithasu gyda’r gynulleidfa Gristnogol? Beth am y rhai sy’n gyhoeddwyr di-fedydd? Ydyn nhw’n anghredinwyr? Nac ydyn. Ni ddylai’r rhai sydd wedi derbyn y gwir a gwneud cynnydd tuag at fedydd gael eu galw’n anghredinwyr. (Rhufeiniaid 10:10; 2 Corinthiaid 4:​13) Cyn iddyn nhw gael eu bedyddio, roedd Cornelius a’i deulu eisoes yn cael eu galw’n “bobl grefyddol a duwiol.”​—Actau 10:2.

Gan nad ydy 2 Corinthiaid 6:​14 yn berthnasol i gyhoeddwyr di-fedydd, a fyddai’n beth doeth i Gristion ganlyn a phriodi rhywun o’r fath? Na fyddai. Pam ddim? Oherwydd y cyngor a roddodd Paul i weddwon Cristnogol. Ysgrifennodd: “Y mae’n rhydd i briodi pwy bynnag a fyn, dim ond iddi wneud hynny yn yr Arglwydd.” (1 Corinthiaid 7:​39, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Yn unol â’r cyngor hwn, mae Cristnogion yn cael eu hannog i chwilio am gymar dim ond ymhlith y rhai sydd “yn yr Arglwydd.”

Beth ydy ystyr yr ymadrodd “yn yr Arglwydd” a’r ymadrodd tebyg “yng Nghrist”? Soniodd Paul am bobl oedd “yng Nghrist” neu “yn yr Arglwydd” yn Rhufeiniaid 16:​8-​10, BCND a Colosiaid 4:7, BCND. Os ydych yn darllen yr adnodau hynny, byddwch yn gweld bod y rhai hyn yn cael eu cyfeirio atyn nhw fel ‘cyd-weithwyr,’ ‘Cristnogion caredig,’ ‘brodyr annwyl,’ ‘gweinidogion ffyddlon,’ a ‘chyd-weision.’

Pryd mae rhywun yn dod yn ‘was yn yr Arglwydd’? Mae hynny’n digwydd pan fydd yn gwneud beth sy’n rhaid i was ei wneud a stopio rhoi ei hun yn gyntaf. Mae Iesu yn esbonio: “Os ydy rhywun am fy nilyn i, rhaid iddyn nhw stopio rhoi nhw eu hunain gyntaf. Rhaid iddyn nhw aberthu eu hunain dros eraill a cherdded yr un llwybr â mi.” (Mathew 16:24) Mae person yn dechrau dilyn Crist pan fydd yn gwneud ewyllys Duw ac yn ymgysegru iddo. Wedyn, mae’n cael ei fedyddio ac mae hyn yn gwneud hi’n bosib iddo gael perthynas da â Jehofa Dduw. * Felly mae ‘priodi yn yr Arglwydd’ yn golygu priodi rhywun sydd wedi dangos ei fod yn grediniwr go iawn, un sydd wedi ymgysegru i fod yn ‘was i Dduw a’r Arglwydd Iesu Grist.’​—Iago 1:1.

Mae rhywun sy’n astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa ac yn gwneud cynnydd ysbrydol yn haeddu cael ei ganmol. Ond nid ydy ef wedi ei gysegru ei hun i Jehofa eto ac addo defnyddio ei fywyd i’w wasanaethu. Felly, cyn iddo ddechrau meddwl am briodi, mae’n rhaid iddo wneud newidiadau yn ei fywyd a chael ei fedyddio.

A fyddai’n ddoeth i Gristion ddechrau canlyn rhywun sy’n astudio’r Beibl​—efallai gyda’r nod o briodi ar ôl iddo gael ei fedyddio? Na fyddai. Mae’n bosib y gall rhywun astudio’r Beibl gyda’r cymhelliad anghywir os ydy ef yn gwybod bod Cristion yn aros iddo gael ei fedyddio cyn ei briodi.

Fel arfer, dim ond ychydig o amser mae rhywun yn gyhoeddwr difedydd, nes iddo gael ei fedyddio. Felly, mae’r cyngor i briodi dim ond yn yr Arglwydd yn rhesymol. Ond beth os ydy rhywun yn ddigon hen i briodi, wedi cael ei fagu yn y gwir, wedi bod yn brysur yn y gynulleidfa am nifer o flynyddoedd, ac yn dal yn gyhoeddwr difedydd? Wel, beth sydd wedi ei ddal yn ôl rhag ymgysegru i Jehofa? Pam mae’n oedi? Oes ganddo amheuon? Er nad yw’n anghrediniwr, nid yw’n cael ei gyfeirio ato fel rhywun sydd “yn yr Arglwydd.”

Mae cyngor Paul ar briodas o les inni. (Eseia 48:17) Pan fydd dau berson yn dymuno priodi, dylai’r ddau ohonyn nhw fod wedi eu hymgysegru i Jehofa. Bydd hyn yn eu helpu nhw i gael priodas gref oherwydd bydd sail ysbrydol i’w perthynas. Mae ganddyn nhw’r un moesau a’r un amcanion ac mae hyn yn cyfrannu’n fawr at hapusrwydd y briodas. Hefyd, drwy ‘briodi yn yr Arglwydd’ gall rhywun ddangos ei fod yn ufudd i Jehofa a bydd hynny’n arwain at fendithion di-rif oherwydd mae Jehofa yn “ffyddlon i’r rhai sy’n ffyddlon.”​—Salm 18:25.

[Troednodyn]

^ Roedd Paul yn ysgrifennu at Gristnogion eneiniog, ac yn eu hachos nhw roedd bod yn ‘was yn yr Arglwydd’ hefyd yn cynnwys cael eu heneinio fel meibion Duw a brodyr Crist.

[Llun]

Mae Jehofa yn “ffyddlon i’r rhai sy’n ffyddlon”