Neidio i'r cynnwys

Pam Mae’n Bwysig inni Ymgysegru i Jehofa?

Pam Mae’n Bwysig inni Ymgysegru i Jehofa?

Pam Mae’n Bwysig inni Ymgysegru i Jehofa?

“Safodd angel Duw wrth fy ymyl i neithiwr—sef y Duw biau fi.”—ACTAU 27:23.

1. Pa gamau mae ymgeiswyr bedydd eisoes wedi eu cymryd, a pha gwestiynau sy’n codi?

 “YDYCH chi wedi edifarhau am eich pechodau, wedi ymgysegru i Jehofa, ac wedi derbyn yr iachawdwriaeth mae Ef yn ei rhoi trwy Iesu Grist?” Dyna un o’r cwestiynau y mae ymgeiswyr bedydd yn eu hateb ar ddiwedd yr anerchiad bedydd. Pam mae angen i Gristnogion ymgysegru i Jehofa? Pa fendithion sy’n dod o ymgysegru i Dduw? Pam na allwn ni blesio Duw heb ymgysegru iddo? I ateb y cwestiynau hyn, mae angen inni ystyried beth yw ystyr ymgysegriad.

2. Beth mae ymgysegru i Jehofa yn ei olygu?

2 Beth mae ymgysegru i Dduw yn ei olygu? Sylwa sut disgrifiodd yr apostol Paul ei berthynas â Duw. Yn ystod mordaith beryglus, cyfeiriodd Paul at Jehofa fel “y Duw biau fi.” (Darllen Actau 27:22-24.) Mae pob gwir Gristion yn perthyn i Jehofa. Ond ar y llaw arall, “mae’r byd o’n cwmpas ni yn cael ei reoli gan yr un drwg.” (1 Ioan 5:19) Ar ôl inni ymgysegru i Jehofa mewn gweddi, rydyn ni’n perthyn i Jehofa. Mae ymgysegriad o’r fath yn addewid personol. Yn dilyn hyn daw bedydd dŵr.

3. Beth roedd bedydd Iesu yn ei gynrychioli, a sut gall ei ddilynwyr ddilyn ei esiampl?

3 Gosododd Iesu esiampl i ni, pan ddewisodd o’i wirfodd i wneud ewyllys Duw. Gan fod cenedl Israel wedi ei chysegru i Dduw, ac Iesu’n rhan o’r genedl honno, roedd Iesu wedi ei gysegru i Jehofa o’i enedigaeth. Felly pam cafodd ei fedyddio? Dywedodd Iesu: “O Dduw, dw i wedi dod i wneud beth rwyt ti eisiau.” (Heb. 10:7; Luc 3:21) Roedd bedydd Iesu’n dangos ei fod yn rhoi ei hun i Dduw er mwyn gwneud ei ewyllys. Mae dilynwyr Iesu’n dilyn ei esiampl drwy gael eu bedyddio hefyd. Ond yn eu hachos nhw, mae bedydd yn dangos yn gyhoeddus eu bod nhw wedi ymgysegru i Dduw mewn gweddi.

Y Bendithion Sy’n Dod o Ymgysegru

4. Beth gallwn ni ei ddysgu o’r berthynas rhwng Dafydd a Jonathan?

4 Mater difrifol yw ymgysegriad y Cristion i Dduw. Mae’n bwysicach nag unrhyw addewid arall mewn bywyd. Ond pa fendithion sy’n dod o ymgysegru i Dduw? Er mwyn deall hyn yn well, gad inni ystyried sut mae addewidion rhwng pobl yn dod â bendithion. Un esiampl yw cyfeillgarwch. Os ydyn ni am gael ffrind da, mae’n rhaid i ni fod yn ffrind da. Mae hyn yn cynnwys bod yn ffyddlon iddo. Rydyn ni’n teimlo cyfrifoldeb i ofalu am ein ffrind. Un o’r esiamplau mwyaf trawiadol o gyfeillgarwch yn y Beibl yw’r berthynas rhwng Dafydd a Jonathan. Fe wnaethon nhw addo i’w gilydd y bydden nhw’n aros yn ffrindiau. (Darllen 1 Samuel 17:57; 18:1, 3.) Fel yn eu hachos nhw, mae ffyddlondeb yn cryfhau pob perthynas.—Diar. 17:17; 18:24.

5. Sut roedd gwas yn gallu cael y sicrwydd sy’n dod o weithio’n barhaol i feistr teg?

5 Mae Cyfraith Duw i Israel yn cynnwys esiampl arall sy’n dangos y buddion sy’n dod o wneud ymrwymiad. Petai gwas eisiau’r sefydlogrwydd sy’n dod o weithio’n i feistr teg, fe allai wneud cytundeb parhaol â’i feistr. Dywedodd y Gyfraith: “Ond falle y bydd y gwas yn dweud, ‘Dw i’n hapus gyda fy meistr, fy ngwraig a’m plant—dw i ddim eisiau bod yn ddyn rhydd.’ Os felly, bydd rhaid i’r meistr fynd i’w gyflwyno o flaen Duw. Wedyn bydd y meistr yn mynd ag e at y drws neu ffrâm y drws, ac yn rhoi twll trwy glust y gwas gyda mynawyd, i ddangos ei fod wedi dewis gweithio i’w feistr am weddill ei fywyd.”—Ex. 21:5, 6.

6, 7. (a) Pa fendithion sy’n dod o ymrwymiad? (b) Beth mae hynny yn ei ddangos am ein perthynas â Jehofa?

6 Esiampl arall o berthynas sy’n gofyn am ymrwymiad yw priodas. Ymrwymiad i berson yw hyn yn hytrach nag i gytundeb ffurfiol. Nid yw’n bosib i ddau sy’n byw gyda’i gilydd heb briodi gael sefydlogrwydd go iawn, ac ni all y plant chwaith. Ond pan fydd dyn a dynes yn priodi ac yn parchu’r Beibl, byddan nhw’n ceisio datrys eu problemau yn hytrach na gwahanu.—Math. 19:5, 6; 1 Cor. 13:7, 8; Heb. 13:4.

7 Yn adeg y Beibl, roedd cael cytundeb ffurfiol gan feistr neu mewn busnes yn rhoi sicrwydd i bobl. (Math. 20:1, 2, 8) Mae’r un peth yn wir heddiw. Er enghraifft, mae cael cytundeb ysgrifenedig cyn dechrau gweithio i gwmni neu ddechrau cwmni ein hun yn rhoi sefydlogrwydd. Felly os yw ymrwymiad yn cryfhau’r berthynas rhwng ffrindiau, cyplau priod, a phobl ym myd busnes, y mae’n sicr y bydd ymgysegru i Jehofa yn cryfhau dy berthynas ag ef. Nesaf, gad inni ystyried sut mae pobl yn y gorffennol wedi elwa o ymgysegru i Jehofa, a beth mae hynny yn ei olygu.

Y Bendithion a Ddaeth o Ymgysegriad Israel

8. Beth roedd ymgysegru i Dduw yn ei olygu i genedl Israel?

8 Roedd cenedl Israel wedi ymgysegru i Jehofa drwy wneud addewid iddo. Gofynnodd Jehofa iddyn nhw ymgasglu ger Mynydd Sinai, a dywedodd: “Os gwrandwch chi arna i a chadw amodau’r ymrwymiad dw i’n ei wneud gyda chi, byddwch chi’n drysor sbesial i mi o blith holl wledydd y byd.” Atebodd y bobl: “Byddwn ni’n gwneud popeth mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud.” (Ex. 19:4-8) Roedd ymgysegru i Jehofa yn golygu llawer mwy i’r Israeliaid nag ymrwymo i wneud rhywbeth. Roedd yn golygu eu bod nhw’n perthyn i Jehofa, a bod Jehofa yn eu trin fel ei “drysor sbesial.”

9. Sut roedd pobl Israel yn elwa oherwydd eu bod nhw wedi ymgysegru i Dduw?

9 Roedd yr Israeliaid yn cael bendithion oherwydd eu bod nhw’n perthyn i Jehofa. Roedd Jehofa yn ffyddlon iddyn nhw, ac yn gofalu amdanyn nhw fel y byddai tad yn gofalu am ei blant. Dywedodd Jehofa wrthyn nhw: “Ydy gwraig yn gallu anghofio’r babi ar ei bron? Ydy hi’n gallu peidio dangos tosturi at ei phlentyn? Hyd yn oed petaen nhw yn anghofio, fyddwn i’n sicr ddim yn dy anghofio di!” (Esei. 49:15) Rhoddodd Jehofa y Gyfraith i’w harwain, y proffwydi i’w hannog, a’r angylion i’w hamddiffyn. Ysgrifennodd un Salmydd: “Mae wedi rhoi ei neges i Jacob, ei ddeddfau a’i ganllawiau i bobl Israel. Wnaeth e ddim hynny i unrhyw wlad arall.” (Salm 147:19, 20; darllen Salm 34:7, 19; 48:14.) Fel roedd Jehofa yn gofalu am ei genedl yn y gorffennol, bydd yn gofalu am y rhai sy’n ymgysegru iddo heddiw.

Pam Dylen Ni Ymgysegru i Dduw?

10, 11. A ydyn ni wedi ein geni’n rhan o deulu Duw? Esbonia.

10 Pan fydd rhywun yn meddwl am ymgysegru i Dduw a chael ei fedyddio efallai byddan nhw’n gofyn: ‘Pam mae’n rhaid imi ymgysegru i Dduw er mwyn ei addoli?’ Mae’r rheswm yn dod yn glir os ystyriwn ein sefyllfa bresennol o flaen Duw. Cofia, oherwydd pechod Adda, rydyn ni i gyd wedi ein geni’n bechaduriaid. (Rhuf. 3:23; 5:12) Er mwyn dod yn rhan o deulu Duw mae angen ymgysegru iddo. Gad inni weld pam.

11 Mae rhieni pob un ohonon ni’n bechaduriaid. Felly nid oedden nhw’n gallu rhoi bywyd perffaith inni. (1 Tim. 6:19) O ganlyniad i bechod Adda ac Efa, rydyn ni i gyd wedi ein gwahanu oddi wrth ein Tad cariadus a’n Creawdwr. (Cymharer Deuteronomium. 32:5.) Ers hynny, mae’r ddynolryw i gyd wedi eu geni y tu allan i deulu Duw.

12. (a) Sut gall pobl amherffaith ddod yn rhan o deulu Duw? (b) Beth mae’n rhaid inni ei wneud cyn cael ein bedyddio?

12 Sut bynnag, gall unrhyw un ohonon ni ofyn i Jehofa ein derbyn ni i mewn i’w deulu o weision ffyddlon. * Sut mae hynny yn bosib a ninnau’n dal yn bechaduriaid? Ysgrifennodd yr apostol Paul: “Marwolaeth Mab Duw wnaeth ein perthynas ni â Duw yn iawn (a hynny pan roedden ni’n dal yn elynion iddo!)” (Rhuf. 5:10) Pan gawn ni ein bedyddio, rydyn ni’n gofyn i Dduw am gydwybod lân er mwyn bod yn dderbyniol iddo. (1 Pedr 3:21, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Ond cyn inni gael ein bedyddio, mae’n rhaid inni ddod i adnabod Duw, dysgu ymddiried ynddo, edifarhau, a newid ein ffyrdd. (Ioan 17:3; Act. 3:19; Heb. 11:6) Ac mae rhywbeth arall y mae’n rhaid inni ei wneud cyn y gallwn ddod yn rhan o deulu Duw. Beth ydy hwnnw?

13. Pam mae’n addas i rywun ymgysegru i Dduw er mwyn bod yn rhan o’i deulu o addolwyr?

13 Cyn i rywun ddod yn un o weision Duw, mae’n rhaid iddo wneud addewid i Jehofa. Er mwyn deall pam, dychmyga fod dyn da eisiau mabwysiadu person ifanc. Ond cyn derbyn y bachgen fel mab, mae’r dyn eisiau iddo wneud addewid. Felly, mae’n dweud: “Cyn imi dy dderbyn di fel mab, dw i eisiau gwybod y byddi di’n fy ngharu a fy mharchu fel dy dad.” Dim ond os bydd y person ifanc yn gwneud addewid o’r fath bydd y dyn yn ei dderbyn i’w deulu. Onid yw hynny yn rhesymol? Yn yr un modd, mae Jehofa yn derbyn i’w deulu dim ond y rhai sydd yn fodlon ymgysegru iddo. Mae’r Beibl yn dweud: “Cyflwyno eich hunain iddo yn aberth byw—un sy’n lân ac yn dderbyniol ganddo.”—Rhuf. 12:1.

Mae Ymgysegru yn Dangos Cariad a Ffydd

14. Sut mae ymgysegru i Dduw yn dangos cariad?

14 Mae ymgysegru i Dduw yn dangos ein cariad tuag ato. Mewn ffordd, mae’n debyg i adduned priodas. Mae priodfab Cristnogol yn dangos ei gariad drwy addo bod yn ffyddlon i’w wraig doed a ddêl. Mae hyn yn fwy nag addewid. Mae’n ymrwymiad i’r person ei hun. Os bydd priodfab eisiau’r pleser o fyw gyda’i wraig mae’n deall bod rhaid iddo wneud adduned. Mewn ffordd debyg, er mwyn cael y bendithion sy’n dod o fod yn rhan o deulu Jehofa, mae’n rhaid inni ymgysegru iddo. Felly rydyn ni’n ymgysegru i Dduw oherwydd, er ein bod ni’n amherffaith, rydyn ni’n dymuno perthyn iddo ac rydyn ni’n benderfynol o aros yn ffyddlon iddo, doed a ddêl.—Math. 22:37.

15. Sut mae ymgysegru yn dangos ffydd?

15 Mae ymgysegru i Dduw hefyd yn dangos ein ffydd. Sut? Mae ein ffydd yn Jehofa yn rhoi hyder inni fod closio ato yn beth da. (Salm 73:28) Rydyn ni’n gwybod nad yw bob amser yn hawdd bod yn ufudd i Dduw “yng nghanol cymdeithas o bobl droëdig ac ystyfnig,” ond rydyn ni’n hyderus y bydd Jehofa yn ein helpu. (Phil. 2:15; 4:13, BCND) Er ein bod ni’n amherffaith, rydyn ni’n hyderus y bydd Jehofa yn maddau ein pechodau. (Darllen Salm 103:13, 14; Rhufeiniaid 7:21-25.) Rydyn ni’n ffyddiog y bydd Jehofa yn ein bendithio ni am fod yn ufudd iddo.—Job 23:11,12.

Mae Ymgysegru yn Dod â Hapusrwydd

16, 17. Pam mae ymgysegru i Jehofa yn ein gwneud ni’n hapus?

16 Dywedodd Iesu “Mae rhoi yn llawer gwell na derbyn.” (Act. 20:35) Dyna pam mae ymgysegru yn ein gwneud ni’n hapus, oherwydd rydyn ni’n rhoi ein hunain i Jehofa. Cafodd Iesu’r hapusrwydd sy’n dod o roi yn ystod ei weinidogaeth. Weithiau roedd yn mynd heb orffwys, heb fwyd, a heb bethau cyfforddus er mwyn helpu eraill i ddod i adnabod Jehofa. (Ioan 4:34) Roedd Iesu wrth ei fodd yn llawenhau calon ei Dad, gan ddweud: “Dw i bob amser yn gwneud beth sy’n ei blesio.”—Ioan 8:29; Diar. 27:11.

17 Dangosodd Iesu i’w ddilynwyr sut i fod yn hapus pan ddywedodd: “Os ydy rhywun am fy nilyn i, rhaid iddyn nhw stopio rhoi nhw eu hunain gyntaf.” (Math. 16:24) Mae gwneud hynny yn ein helpu ni i glosio at Dduw. Ni allwn ni wneud dim byd gwell na rhoi ein hunain yn nwylo’r Duw sy’n gofalu amdanon ni mor dda.

18. Pam mae ymgysegru i Jehofa yn dod â mwy o hapusrwydd nag ymgysegru i unrhyw beth neu unrhyw un arall?

18 Mae ymgysegru i Jehofa a dal ati i wneud ei ewyllys yn dod â mwy o hapusrwydd nag unrhyw beth arall. Er enghraifft, mae llawer o bobl yn defnyddio eu hamser i wneud arian ond nid yw’n dod â hapusrwydd go iawn. (Math. 6:24) Mae’r fraint o fod yn gyd-weithwyr Duw yn ein gwneud ni’n hapus. Ond nid ydyn ni wedi ymgysegru i waith ond i Dduw ac mae ef yn gwerthfawrogi hynny. (1 Cor. 3:9, BCND) Mae Jehofa yn gwerthfawrogi yr holl waith rydyn ni’n ei wneud i’w wasanaethu. Fe fydd hyd yn oed yn gwneud ei bobl ffyddlon yn ifanc eto fel eu bod nhw’n gallu elwa ar ei ofal am byth.—Job 33:25; darllen Hebreaid 6:10.

19. Pa fraint sy’n dod i’r rhai sy’n ymgysegru i Jehofa?

19 Mae ymgysegru i Jehofa yn gadael inni fod yn agos ato. Mae’r Beibl yn dweud: “Closiwch at Dduw a bydd e’n closio atoch chi.” (Iago 4:8; Salm 25:14, BCND)

[Troednodyn]

^ Ni fydd y “defaid eraill” yn dod yn feibion i Dduw tan ddiwedd y Mil Blynyddoedd. Serch hynny, gan eu bod nhw wedi ymgysegru i Dduw, maen nhw’n galw Duw’n “Dad” ac yn cael eu hystyried yn rhan o deulu o addolwyr Jehofa.—Ioan 10:16; Esei. 64:8; Math. 6:9; Dat. 20:5.

Sut Byddet Ti’n Ateb?

• Beth mae ymgysegru i Dduw yn ei olygu?

• Pa fendithion sy’n dod o ymgysegru i Jehofa?

• Pam mae angen i Gristnogion ymgysegru i Jehofa?

[Cwestiynau’r Astudiaeth]

[Llun]

Bydd byw yn unol â’n hymgysegriad yn dod â hapusrwydd tragwyddol