Neidio i'r cynnwys

Ydy Dy Adloniant yn Dda iti?

Ydy Dy Adloniant yn Dda iti?

Ydy Dy Adloniant yn Dda iti?

“Parhewch i wneud yn siŵr o’r hyn sy’n dderbyniol i’r Arglwydd.”—EFF. 5:10.

1, 2. (a) Sut mae Gair Duw yn dangos bod Jehofa eisiau inni fwynhau bywyd? (b) Os ydyn ni’n gweld amser hamdden fel rhodd gan Dduw, beth byddwn ni eisiau ei wneud?

 MAE’R Beibl yn dangos yn glir bod Jehofa am inni fwynhau bywyd. Er enghraifft, mae Salm 104:14, 15 yn dweud ei fod yn rhoi “planhigion i bobl eu tyfu iddyn nhw gael bwyd o’r tir​—gwin i godi calon, olew i roi sglein ar eu hwynebau, a bara i’w cadw nhw’n fyw.” Mae Jehofa yn rhoi planhigion inni er mwyn inni gael bwyd. Ac er nad ydy gwin yn angenrheidiol ar gyfer bywyd, mae Jehofa wedi ei roi inni er mwyn ‘codi ein calonnau.’ (Preg. 9:7; 10:19) Yn wir, mae Jehofa eisiau inni fod yn llawen.​—Act. 14:16, 17.

2 Felly, dydy hi ddim yn ddrwg inni gymryd amser bob hyn a hyn i edrych yn ofalus “ar adar y nefoedd” neu ar “lili’r maes” neu i fwynhau ein hamser hamdden mewn ffordd arall fydd yn codi ein calonnau. (Math. 6:26, 28; Salm 8:3, 4) Os ydyn ni’n cydnabod bod amser hamdden yn rhodd gan Dduw, byddwn ni eisiau ei ddefnyddio mewn ffordd sy’n ei blesio.—Preg. 3:12, 13.

Dewis dy Adloniant yn Ddoeth

3. Pam mae’n rhesymol i bobl ddewis yn wahanol o ran adloniant?

3 Mae’r rhai sydd ag agwedd gytbwys tuag at adloniant yn gwybod bod gan Gristnogion yr hawl i ddewis gwahanol fathau o adloniant. Ond ar yr un pryd, maen nhw’n cydnabod nad ydy pob math o adloniant yn fuddiol. Mae’n debyg i fwyd. Ym mha ffordd? Mewn gwahanol rannau o’r byd, mae pobl yn hoffi gwahanol fathau o fwyd. Yn yr un modd, mae Cristnogion mewn gwahanol rannau o’r byd yn mwynhau gwahanol fathau o adloniant. Mae hyd yn oed Cristnogion sy’n byw yn yr un wlad yn hoffi gwahanol bethau. Er enghraifft, mae rhai’n hoffi darllen ond i eraill mae hynny yn ddiflas. Mae rhai’n hoffi beicio, ond i eraill mae hynny yn cymryd gormod o egni. Eto, rydyn ni’n derbyn nad oes dim byd o’i le ar hynny.—Rhuf. 14:2-4.

4. Pam mae’n rhaid inni fod yn ofalus wrth ddewis adloniant? Rho eglureb.

4 Serch hynny, er bod gynnon ni’r hawl i ddewis ein hadloniant, dydy hynny ddim yn golygu ein bod ni’n cael gwneud popeth rydyn ni eisiau ei wneud. Meddylia am fwyd eto. Er ein bod ni’n mwynhau amrywiaeth o fwydydd, fydden ni ddim yn bwyta bwyd sydd wedi pydru. Fyddai bwyta bwyd o’r fath ddim yn syniad call o gwbl, gan ei fod yn gallu ein gwneud ni’n sâl. Yn yr un modd, fydden ni ddim eisiau dewis adloniant sydd yn beryglus, yn dreisgar, neu’n anfoesol. Byddai adloniant o’r fath yn mynd yn groes i egwyddorion y Beibl ac yn peryglu ein bywydau a’n cyfeillgarwch â Jehofa. Felly cyn inni ddewis unrhyw fath o adloniant, mae’n bwysig inni ofyn a fyddai’n plesio Duw neu beidio. (Eff. 5:10) Sut gallwn ni wneud hynny?

5. Sut gallwn ni wybod a ydy ein hadloniant yn cyd-fynd â safonau Duw?

5 Er mwyn i’n hadloniant fod yn dda inni a phlesio Jehofa, mae’n rhaid iddo gyd-fynd â safonau’r Beibl. (Salm 86:11) I’n helpu ni i wybod a ydy ein hadloniant yn addas, Gallwn ni ofyn tri chwestiwn syml​—beth, pryd a phwy? Gad inni eu hystyried nhw fesul un.

Beth Mae’r Adloniant yn ei Gynnwys?

6. Pa fath o adloniant dylen ni ei wrthod, a pham?

6 Cyn inni ddewis adloniant, y cwestiwn cyntaf i’w ofyn ydy, Beth?​—hynny yw, ‘Beth mae’r adloniant yn ei gynnwys?’. Er mwyn ateb y cwestiwn hwnnw, mae’n rhaid inni ddeall bod llawer o’r adloniant yn y byd hwn yn mynd yn groes i egwyddorion y Beibl. (1 Ioan 5:19) Mae gwir Gristnogion yn gwrthod adloniant sy’n cynnwys creulondeb, ysbrydegaeth, cyfunrhywiaeth, pornograffi, trais neu sy’n gwneud i bethau drwg edrych yn dda. (1 Cor. 6:9, 10; darllen Datguddiad 21:8.) Hyd yn oed pan fyddwn ni ar ein pennau ein hunain, rydyn ni eisiau dangos i Jehofa ein bod ni’n ‘casáu beth sy’n ddrwg’ drwy gadw draw oddi wrth adloniant o’r fath.—Rhuf. 12:9; 1 Ioan 1:5, 6.

7, 8. Sut gallwn ni benderfynu a yw ein hadloniant yn addas neu beidio? Rho eglureb.

7 Mae mathau eraill o adloniant sydd ddim yn mynd yn erbyn Gair Duw. Felly yn gyntaf, mae’n rhaid inni wybod beth sy’n dderbyniol i Jehofa yn ôl y Beibl. (Diar. 4:10, 11) Yna mae’n bwysig inni wneud penderfyniad sy’n cadw ein cydwybod yn lân. (Gal. 6:5; 1 Tim. 1:19) Sut gallwn ni wneud hynny? Meddylia am hyn: Yn aml, cyn trio bwyd newydd, byddwn ni eisiau gwybod beth yw’r prif gynhwysion. Mewn ffordd debyg, cyn dewis adloniant, byddwn ni eisiau gwybod beth mae’n ei gynnwys.—Eff. 5:17.

8 Er enghraifft, efallai dy fod ti, fel llawer o bobl eraill, yn hoffi chwaraeon. Ac mae hynny’n ddigon teg. Gall chwaraeon fod yn hwyl ac yn gyffrous. Ond beth os wyt ti’n cael dy ddenu at chwaraeon sy’n ymosodol neu’n beryglus, hybu agweddau cenedlaetholgar, neu sy’n gwneud i bobl ddathlu’n wyllt os bydd eu tîm yn ennill? Ar ôl ystyried y peth, efallai byddi di’n penderfynu na fyddai’n iawn iti wylio’r chwaraeon hynny ac wedyn bregethu i eraill am gariad a heddwch. (Esei. 61:1; Gal. 5:19-21) Ond ar y llaw arall, os ydy dy adloniant yn dderbyniol gan Jehofa, yna mae’n debyg byddi di’n cael lles ohono.—Gal. 5:22, 23; darllen Philipiaid 4:8.

Pryd Bydda i’n Mwynhau’r Adloniant?

9. Beth mae ein hateb i’r cwestiwn, ‘Pryd bydda i’n mwynhau’r adloniant?’ yn ei ddangos?

9 Yr ail gwestiwn i’w ofyn yw, Pryd?​—hynny yw, ‘Pryd bydda i’n mwynhau adloniant, a faint o amser bydda i’n ei dreulio arno?’ Bydd ein hateb i’r cwestiwn cyntaf yn dangos beth rydyn ni’n ei gredu sydd yn dda neu’n ddrwg. Bydd ein hateb i’r ail gwestiwn yn dangos beth sy’n cymryd y lle cyntaf yn ein bywydau. Felly, sut gallwn ni wybod a yw ein hagwedd tuag at adloniant yn un gytbwys?

10, 11. Sut mae geiriau Iesu ym Mathew 6:33 yn ein helpu ni i wybod faint o amser y dylen ni ei dreulio ar adloniant?

10 Dywedodd Iesu Grist wrth ei ddilynwyr: “Mae’n rhaid iti garu Jehofa dy Dduw â dy holl galon ac â dy holl enaid ac â dy holl feddwl ac â dy holl nerth.” (Marc 12:30) Felly mae ein cariad tuag at Jehofa yn cymryd y lle cyntaf yn ein bywydau. Rydyn ni’n dangos hynny drwy ddilyn cyngor Iesu: “Daliwch ati, felly, i geisio yn gyntaf y Deyrnas a chyfiawnder Duw, a bydd yr holl bethau eraill hyn yn cael eu rhoi ichi.” (Math. 6:33) Sut gall yr adnod honno ein helpu ni i wybod faint o amser y dylen ni ei dreulio ar adloniant?

11 Sylwa fod Iesu yn ein cynghori, nid i ‘geisio’r Deyrnas yn unig,’ ond i’w cheisio ‘yn gyntaf’. Yn amlwg, roedd Iesu’n gwybod y byddai angen inni geisio nifer o bethau mewn bywyd yn ogystal â’r Deyrnas. Mae pawb angen cartref, bwyd, dillad, addysg, gwaith, adloniant a phethau eraill. Ond dylai ein gwasanaeth i Jehofa fod yn bwysicach inni na phob un o’r pethau hyn. (1 Cor. 7:29-31) Er mwyn i’n hadloniant fod yn dda inni, mae’n rhaid inni ddefnyddio’r ein hamser yn ddoeth, fel ein bod ni’n gallu rhoi ewyllys Duw yn gyntaf yn ein bywydau.

12. Sut mae’r egwyddor yn Luc 14:18 yn berthnasol i adloniant?

12 Felly wrth ddewis adloniant, dylen ni ystyried faint o amser y bydd yn ei gymryd. (Luc 14:28) Wedyn dylen ni ystyried faint o amser fydd gynnon ni i’w dreulio ar yr adloniant hwnnw ar ôl inni wneud ein hastudiaeth bersonol o’r Beibl, addoliad teuluol, mynd i’r cyfarfodydd a chael rhan yn y weinidogaeth. (Marc 8:36) Ond bydd yn syniad da i dreulio ychydig o amser bob hyn a hyn yn mwynhau adloniant i dy helpu i ddal ati i wasanaethu Jehofa yn llawen.

Gyda Phwy Rydw i’n Cymdeithasu?

13. Pam mae’n bwysig inni feddwl yn ofalus am ba gwmni byddwn ni’n ei gadw wrth fwynhau adloniant?

13 Y trydydd cwestiwn i’w ofyn ydy, Pwy?​—hynny yw ‘Pa gwmni bydda i’n ei gadw wrth imi fwynhau’r adloniant?’ Mae hwn yn gwestiwn pwysig oherwydd gall ein cwmni fod yn ddylanwad da neu’n ddylanwad drwg arnon ni. Fel rydyn ni’n mwynhau pryd o fwyd yn well yng nghwmni ffrindiau, yn aml bydd rhannu adloniant gyda phobl eraill yn fwy o hwyl. Ond mae’n rhaid inni ddewis ein cwmni yn ofalus os ydyn ni am i’n hadloniant fod yn dda inni.​—2 Cron. 19:2; darllen Diarhebion 13:20; Iago 4:4.

14, 15. (a) Pa esiampl a osododd Iesu ynglŷn â dewis ffrindiau? (b) Pa gwestiynau dylen ni eu gofyn ynglŷn â’n ffrindiau?

14 Gall esiampl Iesu ein helpu ni’n fawr wrth inni ddewis ffrindiau. O ddechrau’r greadigaeth, roedd Iesu’n caru’r ddynoliaeth. (Diar. 8:31) Ar y ddaear, dangosodd gariad at bob math o bobl. (Math. 15:29-37) Sut bynnag dangosodd Iesu fod gwahaniaeth rhwng bod yn gyfeillgar a bod yn ffrindiau agos. Er ei fod yn garedig wrth bawb, roedd yn ofalus iawn yn ei ddewis o ffrindiau agos. Dywedodd wrth ei apostolion ffyddlon: “Rydych chi’n ffrindiau imi os ydych chi’n gwneud beth rydw i’n ei orchymyn ichi.” (Ioan 15:14; gweler hefyd Ioan 13:27, 30.) Dewisodd Iesu ffrindiau oedd yn ei ddilyn ef ac yn gwasanaethu Jehofa.

15 Felly wrth iti ddewis dy ffrindiau, cofia eiriau Iesu. Gofynna i ti dy hun: ‘Ydy’r person hwn yn dangos ei fod yn ufudd i Jehofa ac Iesu? A oes ganddo’r un gwerthoedd a moesau â mi? A fydd yn fy helpu i fod yn ffyddlon i Jehofa ac i’w roi yn gyntaf bob amser? Os wyt ti’n sicr y bydd yn gwneud hynny, rwyt ti wedi dod o hyd ffrind da y gelli di fwynhau adloniant yn ei gwmni.—Darllen Salm 119:63; 2 Cor. 6:14; 2 Tim. 2:22.

Ydy Dy Adloniant yn Dda iti

16. Beth mae’n rhaid inni ei ystyried ynglŷn â’n hadloniant?

16 Fel rydyn ni wedi gweld, os ydyn ni am i’n hadloniant fod yn dda inni, mae’n rhaid iddo gyd-fynd a safonau’r Beibl. Dylen ni ofyn, ‘Pa fath o adloniant ydyw? A fydd yn addas?’ (Diar. 4:20-27) Faint o amser bydda i’n ei dreulio arno? A fydd yn amharu ar fy ngwasanaeth i Jehofa? (1 Tim. 4:8) A gyda phwy y bydda i’n cymdeithasu wrth fwynhau’r adloniant? A fyddan nhw’n gwmni da neu’n ddylanwad drwg arna i?—Preg. 9:18, BCND; 1 Cor. 15:33.

17, 18. (a) Sut gallwn ni wybod a yw ein hadloniant yn cwrdd â safonau’r Beibl? (b) Beth rwyt ti’n benderfynol o’i wneud wrth ddewis adloniant?

17 Os nad yw ein hadloniant yn cwrdd â safonau’r Beibl yn un o’r agweddau hyn, nid yw’n addas. Ar y llaw arall, os ydy ein hadloniant yn cyd-fynd â’r Beibl yn y ffyrdd hyn, gall fod yn dda inni a dod â chlod i Jehofa.​—Salm 119:33-35.

18 Felly, wrth ddewis adloniant, gad inni wneud y peth iawn, ar yr amser iawn, gyda’r math iawn o ffrindiau. Yn wir, rydyn ni i gyd eisiau dilyn cyngor y Beibl: “P’run a ydych chi’n bwyta neu’n yfed neu’n gwneud unrhyw beth arall, gwnewch bopeth er gogoniant Duw.”​—1 Cor. 10:31.

Elli Di Esbonio?

Wrth ddewis adloniant, sut gelli di roi ar waith yr egwyddorion yn . . .

Philipiaid 4:8?

Mathew 6:33?

Diarhebion 13:20?

[Cwestiynau’r Astudiaeth]

[Diagram]

Beth

[Diagram]

Pryd

[Diagram]

Pwy

[Llun]

Sut gallwn ni ddilyn esiampl Iesu wrth ddewis ein ffrindiau a’n hadloniant?