Sut Gall Diarddel Fod yn Gariadus?
MAE tad o’r enw Julian yn cofio sut roedd yn teimlo pan gafodd ei fab ei ddiarddel. “Roeddwn i’n teimlo bod y byd ar ben,” meddai. “Ef oedd fy mab hynaf. Roedden ni’n agos iawn ac yn treulio llawer o amser gyda’n gilydd. Roedd ef wastad wedi bod yn esiampl dda, ond yn sydyn newidiodd ei ymddygiad yn llwyr. Roedd fy ngwraig yn torri ei chalon a doeddwn i ddim yn gwybod sut i’w chysuro. Roedden ni’n gofyn i ni’n hunain, ‘A allwn ni fod wedi gwneud mwy?’”
Pa resymau mae’r Beibl yn eu rhoi am ddiarddel Cristion? A sut gall rhywbeth mor boenus fod yn gariadus?
PAM BYDDAI RHYWUN YN CAEL EI DDIARDDEL
Os bydd un o Dystion Jehofa, sydd wedi ei fedyddio, yn pechu’n ddifrifol, ac nid yw’n edifarhau, bydd yn cael ei ddiarddel.
Er nad yw Jehofa yn disgwyl inni fod yn berffaith, y mae’n gosod safonau y mae’n disgwyl i’w weision eu dilyn. Er enghraifft, mae Jehofa yn ein gorchymyn i osgoi pechodau difrifol fel anfoesoldeb rhywiol, addoli eilunod, dwyn, twyllo, llofruddio, ac ysbrydegaeth.—1 Cor. 6:9, 10; Dat. 21:8.
Mae safonau Jehofa yn deg ac maen nhw’n ein hamddiffyn ni. Er enghraifft, rydyn ni i gyd eisiau byw mewn byd llawn pobl heddychlon a gonest. A dyna sydd ar gael inni yng nghwmni ein brodyr a’n chwiorydd sydd wedi ymgysegru i Jehofa ac addo byw yn unol â’i safonau.
Ond beth petai Cristion sydd wedi ei fedyddio yn pechu’n ddifrifol oherwydd ei fod yn amherffaith? Digwyddodd hyn i rai o weision Jehofa yn y gorffennol, ond roedd Jehofa yn fodlon maddau iddyn nhw. Er enghraifft, roedd y Brenin Dafydd wedi godinebu a llofruddio, ond dywedodd y proffwyd Nathan wrtho: “Mae’r ARGLWYDD . . . wedi maddau dy bechod.”—2 Sam. 12:13.
Fe wnaeth Jehofa faddau i Dafydd oherwydd ei fod yn gallu gweld bod Dafydd yn edifar. (Salm 32:1-5) Yn yr un modd heddiw, bydd rhywun yn cael ei faddau os yw’n edifarhau ac yn stopio gwneud beth sy’n ddrwg. (Act. 3:19; 26:20) Os bydd yr henuriaid ar y pwyllgor barnwrol yn gweld nad yw’r person wedi edifarhau, yna bydd yn rhaid ei ddiarddel.
Os ydy aelod o’ch teulu neu un o’ch ffrindiau agos wedi cael ei ddiarddel, efallai byddwch chi’n ei chael hi’n anodd derbyn y penderfyniad ac yn teimlo ei fod yn rhy lym. Serch hynny mae gair Duw yn rhoi rhesymau da inni gredu mai peth cariadus ydy diarddel.
SUT GALL DIARDDEL FOD O LES I BAWB?
Dywedodd Iesu: “Mae doethineb yn cael ei brofi’n gyfiawn gan ei ganlyniadau.” (Math. 11:19, tdn) Gad inni ystyried tri rheswm pam mae diarddel rhywun sydd ddim yn edifarhau yn beth doeth i’w wneud.
Mae diarddel yn anrhydeddu enw Jehofa. Gan ein bod ni’n Dystion Jehofa, rydyn ni’n cynrychioli ei enw. (Esei. 43:10) Felly mae ein hymddygiad naill ai’n anrhydeddu ei enw neu’n dwyn gwarth arno. Fel y bydd ymddygiad mab yn effeithio ar sut bydd pobl yn teimlo am ei rieni, gall ein hymddygiad ni effeithio ar farn pobl tuag at Jehofa. Yn nyddiau Eseciel, roedd pobl yn cysylltu’r Iddewon ag enw Jehofa. (Esec. 36:19-23) Mewn ffordd debyg heddiw, mae pobl yn cysylltu Tystion Jehofa ag enw Jehofa. Felly pan fyddwn ni’n dilyn safonau Jehofa, rydyn ni’n anrhydeddu ei enw.
Fe wnaeth yr apostol Pedr gynghori Cristnogion: “Fel plant ufudd, stopiwch gael eich mowldio gan y chwantau oedd gynnoch chi gynt yn eich anwybodaeth, ond fel yr Un Sanctaidd a wnaeth eich galw chi, byddwch chithau yn sanctaidd yn eich holl ymddygiad, oherwydd mae’n ysgrifenedig: ‘Mae’n rhaid ichi fod yn sanctaidd, oherwydd fy mod i’n sanctaidd.’” (1 Pedr 1:14-16) Er enghraifft, petasen ni’n rhywiol anfoesol, byddai hynny yn dwyn gwarth ar enw Jehofa. Ond pan fyddwn ni’n cadw ein hymddygiad yn lân, mae hynny yn dod â chlod i’w enw.
Os bydd un o Dystion Jehofa yn gwneud beth sy’n ddrwg, mae’n debyg bydd y rhai sy’n ei adnabod yn dod i wybod am hyn. Felly pan na fydd y person yn cael bod yn rhan o’r gynulleidfa rhagor, byddan nhw’n sylweddoli bod Tystion Jehofa yn dilyn beth mae’r Beibl yn ei ddweud ac yn cadw’r gynulleidfa’n lân. Un tro, cerddodd dyn i mewn i Neuadd y Deyrnas yn y Swistir a dweud ei fod eisiau ymuno â’r gynulleidfa. Roedd ei chwaer wedi cael ei diarddel oherwydd anfoesoldeb. Dywedodd ef ei fod eisiau ymuno â chyfundrefn “sydd ddim yn goddef ymddygiad drwg.”
Mae diarddel yn cadw’r gynulleidfa Gristnogol yn lân. Rhybuddiodd Paul y Corinthiaid am ba mor beryglus yw gadael i rai sy’n pechu heb edifarhau aros yn y gynulleidfa. Cymharodd eu dylanwad drwg i lefain sy’n gwneud i does godi, gan ddweud bod “ychydig o lefain yn lledu drwy’r holl does.” Yna dywedodd: “Bwriwch y person drwg allan o’ch mysg.”—1 Cor. 5:6, 11-13.
Roedd y “person drwg” wnaeth Paul gyfeirio ato yn byw bywyd anfoesol yn hollol ddigywilydd. Ac roedd rhai yn y gynulleidfa hyd yn oed wedi dechrau gwneud esgusodion dros ei ymddygiad drwg. (1 Cor. 5:1, 2) Roedd hyn yn beryglus iawn, oherwydd fe allai ymddygiad anfoesol pobl Corinth fod wedi dechrau dylanwadu ar y Cristnogion eraill. Mewn ffordd debyg heddiw, os bydd pobl sy’n pechu’n ddifrifol yn cael aros yn y gynulleidfa, mae peryg y bydd eraill yn dechrau teimlo nad yw safonau Jehofa yn bwysig. (Preg. 8:11) Yn union fel y gall “creigiau sy’n cuddio o dan y dŵr” ddinistrio llong, mae’r rhai sy’n pechu heb edifarhau yn gallu dinistrio ffydd pobl eraill yn y gynulleidfa.—Jwd. 4, 12.
Mae diarddel yn gallu gwneud i rywun gefnu ar ei bechod. Rhoddodd Iesu eglureb am ddyn ifanc a wnaeth adael ei deulu a gwario ei holl arian ar fywyd anfoesol. Yn y pen draw, sylweddolodd y dyn ifanc nad oedd dim ystyr i’w fywyd. Felly fe wnaeth edifarhau a mynd yn ôl i’w deulu. Roedd ei dad wrth ei fodd i weld bod ei fab wedi newid a rhoddodd groeso cynnes iddo. (Luc 15:11-24) Mae’r eglureb hon yn ein helpu ni i ddeall sut mae Jehofa yn teimlo pan fydd rhywun yn edifarhau. Mae’n dweud: “Dydy gweld pobl ddrwg yn marw yn rhoi dim pleser i mi. Byddai’n well gen i iddyn nhw newid eu ffyrdd a chael byw.”—Esec. 33:11.
Y gynulleidfa Gristnogol yw ein teulu ysbrydol. Pan fydd rhywun yn cael ei ddiarddel, nid yw bellach yn rhan o’r teulu hwnnw. Ond ar ôl iddo brofi canlyniadau ei gamgymeriadau, efallai bydd yn cofio pa mor hapus oedd ei fywyd pan oedd ganddo berthynas dda â Jehofa a’r gynulleidfa. Gall hynny ei ysgogi i ddod yn ôl at ei deulu ysbrydol.
Er mwyn helpu rhywun sydd wedi cael ei ddiarddel i ddod yn ôl i’r gynulleidfa, mae’n rhaid inni ddangos cariad drwy fod yn gadarn. Er enghraifft, dychmyga fod dau ddyn wedi mynd ar goll yn yr eira. Mae un yn dechrau dioddef o hypothermia ac eisiau mynd i gysgu. Ond os yw’n gwneud hynny, fe fydd yn colli ei fywyd. Er mwyn ei gadw’n effro, mae ei ffrind yn ei slapio. Er bod hyn yn brifo, mae’n gallu achub ei fywyd. Dywedodd Dafydd: “Boed i rywun sy’n byw’n gywir ddod i’m taro i, a’m ceryddu mewn cariad!” (Salm 141:5) Roedd Dafydd yn gwybod bod disgyblaeth yn boenus, ond ei bod yn fuddiol iddo.
Mewn llawer o achosion, mae cael ei ddiarddel yn ysgogi rhywun i ddod yn ôl at Jehofa. Dyna ddigwyddodd i fab Julian y soniwyd amdano ar ddechrau’r erthygl. Deng mlynedd ar ôl iddo gael ei ddiarddel, newidiodd ei fywyd a daeth yn ôl i’r gynulleidfa. Heddiw mae’n gwasanaethu fel henuriad. Mae’n cyfaddef: “Roedd cael fy niarddel yn gwneud imi wynebu canlyniadau fy newisiadau drwg. Dyna’r math o ddisgyblaeth roedd ei angen arna i.”—Heb. 12:7-11.
SUT GALLWN NI DDANGOS EIN BOD NI’N CARU’R RHAI SYDD WEDI EU DIARDDEL?
Mae’n drist iawn pan fydd rhywun yn cael ei ddiarddel. Ond dydy hi ddim yn golygu nad yw’n bosib iddo ddod yn ôl at Jehofa. Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn gadael i’r ddisgyblaeth wneud ei waith. Sut gallwn ni wneud hynny?
Mae’r henuriaid wastad yn ceisio efelychu cariad Jehofa, yn enwedig pan fydd angen iddyn nhw ddweud wrth rywun ei fod yn cael ei ddiarddel. Byddan nhw’n esbonio iddo mewn ffordd glir a charedig beth fydd yn rhaid iddo ei wneud er mwyn dod yn ôl at Jehofa a bod yn rhan o’r gynulleidfa unwaith eto. Os bydd rhywun sydd wedi ei ddiarddel yn dangos ei fod eisiau dod yn ôl i’r gynulleidfa, bydd yr henuriaid yn ymweld ag ef o bryd i’w gilydd i’w atgoffa am beth sydd yn rhaid iddo ei wneud.
Mae aelodau teulu yn dangos cariad tuag at y gynulleidfa ac at yr un sydd wedi ei ddiarddel drwy gefnogi penderfyniad yr henuriaid. Mae Julian yn esbonio: “Ro’n i’n dal i garu fy mab, ond roedd ei ymddygiad wedi codi wal rhyngddon ni.”
Gall pawb yn y gynulleidfa ddangos gwir gariad at yr un sydd wedi ei ddiarddel drwy gefnogi’r ddisgyblaeth y mae Jehofa wedi ei rhoi iddo drwy’r henuriaid. Mae hyn yn golygu peidio â threulio amser gydag ef na siarad ag ef. (1 Cor. 5:11; 2 Ioan 10, 11) Mae’n bwysig i’r gynulleidfa gyfan ddangos cariad tuag at deulu’r un sydd wedi ei ddiarddel, a’u cefnogi. Mae hyn yn amser anodd iawn iddyn nhw. Ddylen ni byth wneud iddyn nhw deimlo eu bod nhw ar eu pennau eu hunain.—Rhuf. 12:13, 15.
Mae Julian yn dweud: “Pan fydd rhywun yn pechu heb edifarhau mae’n bwysig ei fod yn cael ei ddiarddel. Mae hyn yn ein helpu ni i gyd i fyw yn ôl safonau Jehofa Er ei bod yn broses boenus, daeth ein mab yn ôl i Jehofa yn y pen draw. Fyddai hyn ddim wedi digwydd petasen ni wedi parhau i dreulio amser gydag ef.”