Neidio i'r cynnwys

Mae’r Beibl yn Newid Bywydau

Mae’r Beibl yn Newid Bywydau

Mae’r Beibl yn Newid Bywydau

BETH wnaeth gymell dyn oedd yn Rastaffariad i dorri ei wallt hir ac i ddod dros ei ragfarn tuag at bobl wynion? A beth wnaeth helpu dyn ifanc treisgar oedd yn casglu arian i werthwyr cyffuriau i newid ei ffordd o fyw? Dewch inni weld beth sydd gan y ddau ddyn yma i’w ddweud.

“Gwnes i Hyd yn Oed Ddod Dros Fy Rhagfarn yn Erbyn Pobl Wynion.”—HAFENI NGHAMA

OED: 34

GWLAD ENEDIGOL: SAMBIA

HANES: RASTAFFARIAD

FY NGHEFNDIR: Ces i fy ngeni mewn gwersyll ffoaduriaid yn Sambia ar ôl i fy mam ffoi o Namibia yn ystod y rhyfel yno. Roedd hi hefyd wedi ymuno â Mudiad Pobl De-orllewin Affrica (SWAPO). Roedd y mudiad yn ymladd yn erbyn y llywodraeth o Dde Affrica oedd yn rheoli dros Namibia ar y pryd.

Yn ystod pymtheg mlynedd gyntaf fy mywyd, roeddwn i’n symud o un gwersyll ffoaduriaid i’r llall. Roedd pobl ifanc yn y gwersylloedd SWAPO yn cael eu dysgu i gymryd y blaen yn y gyfundrefn honno. Roedden y mudiad yn disgwyl y bydden ni’n eu helpu nhw i gael rhyddid. Ond roedden nhw’n gwthio eu syniadau gwleidyddol arnon ni ac yn ein dysgu i gasáu pobl wynion.

Pan oeddwn i’n 11 oed, roeddwn i eisiau bod yn Gristion a chael fy nerbyn fel aelod o un o’r eglwysi yn y gwersyll. Roedd yr eglwys honno yn gyfuniad o Gatholigion Rhufeinig, Lwtheriaid, Anglicaniaid, ac eraill. Fe wnes i siarad â’r gweinidog ond dywedodd ef wrtho i am beidio ag ymuno â’r eglwys. Felly gwnes i stopio credu yn Nuw. Ond pan oeddwn i’n 15 oed gwnes i ymuno â’r Rastaffariaid am fy mod i wrth fy modd gyda cherddoriaeth reggae ac eisiau dad-wneud yr anghyfiawnder roedd pobl dduon yn Affrica yn ei ddioddef. Fe wnes i dyfu fy ngwallt yn hir a’i blethu a rhoi’r gorau i fwyta cig. Dechreuais smocio mariwana a siarad ag eraill am ryddid i bobl dduon. Ond doeddwn i ddim wedi rhoi’r gorau i fyw yn anfoesol, gwylio ffilmiau treisgar, na defnyddio iaith anweddus.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD: Ym 1995 pan oeddwn i tua ugain oed, gwnes i ddechrau meddwl o ddifri am beth oeddwn i eisiau ei wneud â fy mywyd. Roeddwn i’n astudio pob cyhoeddiad gan y Rastaffariaid roeddwn i’n gallu cael gafael arno. Er bod llawer ohonyn nhw’n cyfeirio at y Beibl, doedden nhw ddim yn gwneud llawer o synnwyr imi. Felly gwnes i benderfynu darllen y Beibl drosto i fy hun.

Yn ddiweddarach, dyma ffrind oedd hefyd yn Rastaffariad yn rhoi llawlyfr astudio’r Beibl imi oedd wedi ei gyhoeddi gan Dystion Jehofa. Gwnes i ddefnyddio hwn i ddechrau astudio’r Beibl ar fy mhen fy hun. Ond wedyn, gwnes i gyfarfod Tystion Jehofa a pharhau i astudio gyda nhw.

Roedd angen ymdrech fawr imi stopio smocio a meddwi. (2 Corinthiaid 7:1) Gwnes i hefyd dwtio fy hun, torri fy ngwallt, stopio gwylio pornograffi a ffilmiau treisgar, a dal yn ôl rhag defnyddio iaith anweddus. (Effesiaid 5:3, 4) Yn y pen draw, gwnes i hyd yn oed ddod dros fy rhagfarn yn erbyn pobl wynion. (Actau 10:34, 35) Ond er mwyn gwneud hynny, roedd rhaid imi stopio gwrando ar gerddoriaeth oedd yn annog pobl i fod yn hiliol. Hefyd roedd rhaid imi stopio treulio amser gyda fy hen ffrindiau oedd yn ddylanwad drwg arna i ac yn ceisio gwneud imi fynd yn ôl i fy hen ffordd o fyw.

Ar ôl gwneud y newidiadau hynny, gwnes i chwilio am Neuadd y Deyrnas achos roeddwn i eisiau bod yn un o Dystion Jehofa. Gwnaethon nhw astudio’r Beibl gyda fi. Ond pan benderfynais gael fy medyddio yn un o Dystion Jehofa, doedd fy nheulu ddim yn hapus. Dywedodd fy mam ei bod hi’n hapus imi ddewis unrhyw grefydd “Gristnogol” arall, heblaw am Dystion Jehofa. Roedd gen i un ewythr oedd yn aelod adnabyddus o’r llywodraeth. Roedd hwnnw’n aml iawn yn lladd arna i am benderfynu bod yn un o Dystion Jehofa.

Ond roeddwn i’n dysgu sut roedd Iesu’n trin pobl ac yn ceisio dilyn ei esiampl. Roedd hynny’n fy helpu i ymdopi â’r gwrthwynebiad a’r gwawdio. Drwy gymharu beth roedd y Tystion yn ei ddysgu â beth mae’r Beibl yn ei ddweud, teimlais yn sicr fy mod i wedi cael hyd i’r wir grefydd. Er enghraifft, maen nhw’n dilyn gorchymyn y Beibl i bregethu i eraill. (Mathew 28:19, 20; Actau 15:14) A dydyn nhw ddim yn cymryd ochr mewn materion gwleidyddol.​—Salm 146:3, 4; Ioan 15:17, 18.

FY MENDITHION: Mae dysgu i fyw yn ôl safonau’r Beibl wedi fy helpu mewn llawer o ffyrdd. Er enghraifft, mae rhoi’r gorau i smocio mariwana wedi fy helpu i osgoi gwastraffu cannoedd o ddoleri bob mis. Dydw i ddim yn dioddef sgil-effeithiau’r cyffuriau bellach ac mae fy iechyd meddwl a fy iechyd chorfforol wedi gwella.

Ers fy arddegau, rydw i wedi bod eisiau cael bywyd hapus a llawn pwrpas. Ac rydw i’n teimlo fy mod i wedi cael hyd i hynny. Ond yn bwysicach byth, rydw i’n teimlo fy mod i wedi gallu closio at Dduw.—Iago 4:8.

“Dw i Wedi Dysgu Rheoli Fy Nhymer.”—MARTINO PEDRETTI

OED: 43

GWLAD ENEDIGOL: AWSTRALIA

HANES: GWERTHWR CYFFURIAU

FY NGHEFNDIR: Roedd fy nheulu yn symud o un lle i’r llall pan oeddwn i’n tyfu i fyny. Gwnaethon ni fyw mewn trefi bychan, dinas fawr, a hyd yn oed yng nghefn gwlad gyda’r bobl frodorol am gyfnod. Mae gen i atgofion melys o’r adeg honno, yn pysgota, yn hela, yn gwneud bwmerangau, a cherfio pethau eraill gyda fy nghefndryd ac ewythrod.

Bocsiwr oedd fy nhad, a gwnaeth ef fy nysgu i baffio pan oeddwn i’n ifanc iawn. Felly des i’n berson treisgar iawn. Yn fy arddegau, roeddwn i’n treulio llawer o amser yn yfed mewn tai tafarn. Roeddwn i a fy ffrindiau wastad yn ysu am frwydr ac yn defnyddio cyllyll a batiau pêl-fas i ymosod ar grwpiau o ugain o bobl neu fwy.

Roeddwn i’n gwneud bywoliaeth drwy werthu cyffuriau a nwyddau oedd wedi eu dwyn gan y gweithwyr cei. Hefyd roeddwn i’n casglu arian i werthwyr cyffuriau, a defnyddio gynnau i fygwth pobl ar eu rhan. Yn y pen draw, roeddwn i eisiau bod yn asasin. Roeddwn i wastad yn dweud wrtho i fy hun: “Rhaid imi ladd eraill cyn iddyn nhw fy lladd i.”

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD: Roeddwn i wedi clywed am Dystion Jehofa wrth imi dyfu i fyny. Dw i’n cofio gofyn i Mam pan oeddwn i yn fy ugeiniau cynnar a oedd hi’n gwybod lle gallwn ni eu ffeindio nhw. Ddeuddydd wedyn, gwnaeth Tyst o’r enw Dixon gnocio ar fy nrws. Ar ôl sgwrsio am sbel, fe wnaeth fy ngwahodd i un o’r cyfarfodydd. Dyma fi’n mynd i’r cyfarfod hwnnw, ac rydw i wedi bod yn mynd i’r cyfarfodydd am fwy nag ugain mlynedd erbyn hyn. Roedd y Tystion yn ateb pob cwestiwn oedd gen i, a hynny o’r Beibl.

Roeddwn i wrth fy modd yn dysgu bod gan Jehofa ddiddordeb mewn unigolion, hyd yn oed rhai annuwiol. (2 Pedr 3:9) Gwelais hefyd ei fod yn Dad cariadus sy’n barod i edrych ar fy ôl, hyd yn oed pan nad oedd neb arall yn barod i wneud hynny. Roedd dysgu y byddai’n maddau imi am fy mhechodau petaswn i’n newid fy ffordd o fyw yn rhyddhad mawr. Cafodd yr adnoddau yn Effesiaid 4:​22-​24 effaith fawr arna i a fy nghymell “i roi heibio’r hen bersonoliaeth,” ac i roi amdana i’r “bersonoliaeth newydd a gafodd ei chreu yn unol ag ewyllys Duw.”

Cymerodd amser imi newid fy ffordd o fyw. Yn ystod yr wythnos fyddwn i ddim yn mynd ar gyfyl cyffuriau, ond ar y penwythnosau, yng nghwmni fy ffrindiau, byddwn i’n ildio. Fe wnes i sylweddoli y byddai’n rhaid imi symud i ffwrdd os oeddwn i wir eisiau newid, ac felly penderfynais symud i dalaith arall. Gwnes i dderbyn cynnig gan rai o fy ffrindiau i ddod gyda mi ar y daith. Ar hyd y ffordd, dechreuon nhw smocio mariwana a chynnig peth i mi. Dywedais wrthyn nhw fy mod i’n cefnu ar arferion felly, ac fe wnaethon ni ffarwelio â’n gilydd ar ôl cyrraedd ffin y dalaith. Yn ddiweddarach, clywais eu bod nhw wedi dwyn o fanc yn fuan ar ôl hynny, gan ddefnyddio gwn.

FY MENDITHION: Ar ôl imi dorri cysylltiad â fy hen ffrindiau daeth hi’n llawer haws imi wneud newidiadau yn fy mywyd. Ym 1989, des i’n un o Dystion Jehofa a chael fy medyddio. Ar ôl hynny, gwnaeth fy mam, fy nhad, a fy chwaer hefyd ddechrau gwasanaethu Jehofa.

Erbyn hyn, rydw i’n briod ers 17 o flynyddoedd, ac mae gen i dri o blant hyfryd. Rydw i wedi dysgu rheoli fy nhymer, hyd oed pan fydd eraill yn trio codi fy ngwrychyn. Ac rydw i wedi dysgu i garu pobl o bob “llwyth a hil ac iaith.” (Datguddiad 7:9) Teimlaf fod y geiriau yn Ioan 8:31, 32, yn wir yn fy achos i. Dywedodd Iesu: “Os gwnewch chi aros yn fy ngair, rydych chi’n wir yn ddisgyblion imi, a byddwch chi’n gwybod y gwir, ac fe fydd y gwir yn eich rhyddhau chi.”

[Pwt o’r paragraff]

Er mwyn gwneud newidiadau, roedd rhaid imi gael gwared ar gerddoriaeth oedd yn annog pobl i fod yn hiliol

[Pwt o’r paragraff]

Roeddwn i a fy ffrindiau wastad yn ysu am frwydr ac yn defnyddio cyllyll a batiau pêl-fas i ymosod ar grwpiau o ugain o bobl neu fwy