Neidio i'r cynnwys

Mae’r Beibl yn Newid Bywydau

Mae’r Beibl yn Newid Bywydau

Mae’r Beibl yn Newid Bywydau

PAM wnaeth dynes yn ei 60au rhoi’r gorau i eilunaddoliaeth? Beth sbardunodd offeiriad Shinto i adael ei waith mewn creirfa a dod yn weinidog Cristnogol? Sut roedd dynes a gafodd ei mabwysiadu ar ei genedigaeth yn gallu trechu’r tristwch o gael ei gadael gan ei rhieni? Ystyriwch beth sydd gan y bobl ganlynol i’w ddweud.

“Dydw i Ddim Bellach yn Gaeth i Eilunod.”—ABA DANSOU

GANWYD: 1938

GWLAD ENEDIGOL: BENIN

HANES: EILUNADDOLWRAIG

FY NGHEFNDIR: Ces i fy magu yn So-Tchahoué, pentref mewn ardal gorsiog yn agos i lyn. Pysgotwyr a ffermwyr yw pobl y pentref, yn cadw gwartheg, geifr, defaid, moch, ac adar. Does ’na ddim heolydd yn yr ardal; mae pobl yn teithio mewn cychod a chanŵod. Fel arfer mae’r tai wedi eu gwneud allan o bren a gwair, er bod rhai yn defnyddio brics. Pobl dlawd yw’r mwyafrif. Er hynny, dyw troseddu ddim mor rhemp ag y mae hi yn y dinasoedd.

Pan oedden ni’n blant, anfonodd fy nhad fy chwaer a minnau i gwfaint ffetis, lle wnaethon ni ddysgu arfer y gred draddodiadol honno. Ar ôl imi droi’n oedolyn, wnes i ddechrau addoli Dudua (Oduduwa) sydd yn un o dduwiau llwyth yr Iorwba. Wnes i godi tŷ ar gyfer y duw hwn a byddwn yn offrymu iamau, olew palmwydd, malwod, ieir, colomennod, ac amryw anifeiliaid eraill iddo. Roedd yr aberthau hyn yn ddrud, ac yn aml doedd ’da fi ddim arian ar ôl.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD: Pan ddechreuais i astudio’r Beibl, wnes i ddysgu mai Jehofa yw’r unig wir Dduw. Dysgais i hefyd nad yw’n cael ei blesio gan y defnydd o eilunod mewn addoliad. (Exodus 20:4, 5; 1 Corinthiaid 10:14) Wnes i sylweddoli beth oedd rhaid imi ei wneud. Ces i wared â’r eilunod i gyd a glanhau’r tŷ o bopeth oedd yn perthyn i eilunaddoliaeth. Wnes i stopio mynd at yr oraclau i ofyn am eu cyngor, a wnes i roi’r gorau i gymryd rhan mewn defodau ac arferion claddu lleol.

Doedd hi ddim yn hawdd imi—menyw yn ei 60au—wneud y newidiadau hyn. Ces i wrthwynebiad gan fy ffrindiau, perthnasau, a chymdogion a bydden nhw’n gwneud hwyl am fy mhen. Ond wnes i droi at Jehofa mewn gweddi i ofyn am y nerth i wneud yr hyn sy’n iawn. Ces i lawer o gysur o eiriau Diarhebion 18:10, sy’n dweud: “Mae enw’r ARGLWYDD fel tŵr solet; mae’r rhai sy’n byw’n iawn yn rhedeg ato i fod yn saff.”

Rhywbeth arall wnaeth fy helpu oedd mynd i gyfarfodydd Tystion Jehofa. Yno welais i gariad Cristnogol ar waith; wnaeth y bobl hyn gryn argraff arna i am eu bod nhw’n byw yn ôl safonau uchel y Beibl. O’r hyn a welais i, ces i fy argyhoeddi bod Tystion Jehofa yn arfer y gwir grefydd.

FY MENDITHION: Mae rhoi ar waith egwyddorion y Beibl wedi helpu fi i wella fy mherthynas â mhlant. Dw i hefyd yn teimlo bod baich mawr wedi codi oddi ar fy ysgwyddau. Roeddwn i’n arfer gwastraffu fy arian ar eilunod difywyd nad oedd o unrhyw les imi. Nawr dw i’n addoli Jehofa, ffynhonnell datrysiad parhaol i’n problemau i gyd. (Datguddiad 21:3, 4) Dw i mor hapus nad ydw i bellach yn gwasanaethu eilunod, ond yn hytrach, dw i’n gwasanaethu Jehofa! Mae Ef wedi rhoi amddiffyniad a gwir ddiogelwch imi.

”Oeddwn i Wedi Bod yn Chwilio am Dduw Ers Fy Mhlentyndod.”—SHINJI SATO

GANWYD: 1951

GWLAD ENEDIGOL: JAPAN

HANES: OFFEIRIAD SHINTO

FY NGHEFNDIR: Ces i fy magu mewn tref wledig yn Rhanbarth Fukuoka. Roedd fy rhieni yn grefyddol iawn, mi wnaethon nhw fy magu o mhlentyndod i barchu’r duwiau Shinto. Pan oeddwn yn fachgen ifanc, byddwn i’n aml yn meddwl am fy iachawdwriaeth ac roedd gen i awydd cryf i helpu pobl mewn trafferthion. Dw i’n cofio unwaith yn yr ysgol gynradd pan ofynnodd yr athro inni beth oedden ni eisiau ei wneud ar ôl tyfu i fyny. Roedd gan fy nghyd-ddisgyblion syniadau pendant, fel bod yn wyddonydd. Dywedais i mai fy mreuddwyd oedd gwasanaethu Duw. Chwarddodd pawb am fy mhen i.

Ar ôl gorffen ysgol uwchradd, wnes i ymuno ag ysgol ar gyfer athrawon crefyddol. Yn ystod fy hyfforddiant, wnes i gyfarfod ag offeiriad Shinto a oedd yn treulio ei amser hamdden yn darllen llyfr efo clawr du. Un diwrnod wnaeth o ofyn imi, “Sato, wyt ti’n gwybod beth ydy’r llyfr ’ma?” Oeddwn i wedi gweld clawr y llyfr, felly atebais, “Y Beibl.” Dywedodd yntau, “Dylai pawb sydd eisiau bod yn offeiriad Shinto ddarllen hwn.”

Es i allan yn syth a phrynu Beibl. Wnes i roi’r Beibl yn y lle mwyaf amlwg ar y silff lyfrau a chymryd gofal mawr ohono. Ond wnes i ddim neilltuo amser i’w ddarllen, gan fod gwaith ysgol wedi fy nghadw i’n brysur. Ar ôl imi orffen yr ysgol, wnes i ddechrau gweithio mewn creirfa fel offeiriad Shinto. Roedd breuddwyd fy mhlentyndod wedi dod yn wir.

Ond, yn fuan iawn, wnes i ddarganfod nad oedd bod yn offeiriad Shinto yr hyn o’n i’n ei ddisgwyl. Doedd y rhan fwyaf o’r offeiriad ddim yn dangos cariad na chydymdeimlad tuag at eraill. Roedd ffydd llawer ohonyn nhw braidd yn sigledig. Gwnaeth un uwchoffeiriad hyd yn oed dweud wrtho i: “Os wyt ti eisiau llwyddo fa’ma, mae rhaid iti siarad am faterion athronyddol yn unig. Mae siarad am ffydd wedi ei wahardd.”

Mi wnaeth sylwadau o’r fath wneud imi ddadrithio â’r grefydd Shinto. Er imi barhau i weithio yn y greirfa wnes i ddechrau edrych i mewn i grefyddau eraill. Eto, doeddwn ni ddim yn teimlo bod yr un ohonyn nhw yn cynnig unrhyw beth gwell. Gyda phob crefydd o’n i’n edrych arni, oeddwn i jest yn anobeithio’n fwy. Des i i’r casgliad nad oedd ’na wirionedd mewn unrhyw grefydd.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD: Ym 1988, wnes i gyfarfod Bwdhydd a’m hanogodd i ddarllen y Beibl. Cofiais eiriau’r offeiriad Shinto flynyddoedd ynghynt a oedd wedi fy annog i wneud yr un peth. Penderfynais ddilyn ei gyngor. Wrth imi ddechrau darllen y Beibl, wnes i ffeindio fy hun yn ymgolli ynddo. Ar adegau byddwn i’n darllen drwy’r nos nes bod pelydrau haul y bore yn disgleirio trwy’r ffenestr.

Roedd yr hyn o’n i’n ei ddarllen yn gwneud imi eisiau gweddïo ar Dduw’r Beibl. Dechreuais gyda Gweddi’r Arglwydd yn Mathew 6:9-13. Wnes i ailadrodd y weddi bob dwy awr—hyd yn oed wrth wasanaethu wrth allor y greirfa Shinto.

Roedd gen i lawer o gwestiynau ynglŷn â’r hyn o’n i’n ddarllen. Erbyn hyn, o’n i’n briod, ac oeddwn i’n gwybod bod Tystion Jehofa yn dysgu pobl am y Beibl oherwydd eu bod nhw wedi ymweld â’m gwraig yn y gorffennol. Ces i hyd i un o’r chwiorydd a gofyn llawer o gwestiynau iddi. Roedd y ffaith ei bod hi wedi defnyddio’r Beibl i ateb bob un ohonyn nhw wedi creu argraff arna i. Trefnodd i ddau Dyst gynnal astudiaeth Feiblaidd efo fi.

Yn fuan wedyn, dechreuais fynd i gyfarfodydd Tystion Jehofa. Ar y pryd, doedd gen i ddim syniad fod ’na rai yn bresennol yr oeddwn i wedi bod yn anghwrtais iawn efo nhw yn y gorffennol. Er hynny, mi ges i groeso cynnes gan bawb.

Yn y cyfarfodydd hynny, dysgais fod Duw yn disgwyl i wŷr ddangos cariad ac anrhydedd tuag at aelodau eu teulu. Cynt, roeddwn i wedi canolbwyntio cymaint ar fy ngwaith fel offeiriad nes fy mod i wedi esgeuluso fy ngwraig a’m dau blentyn. Wnes i ddechrau sylweddoli fy mod i wedi bod yn gwrando’n astud ar beth oedd gan y bobl oedd yn dod i addoli yn y greirfa i’w ddweud ond doeddwn i erioed wedi gwrando ar beth oedd gan fy ngwraig i’w ddweud.

Wrth imi wneud cynnydd yn fy astudiaeth, dysgais lawer o bethau am Jehofa oedd yn fy helpu i glosio ato. Un peth yn arbennig wnaeth gyffwrdd â’m calon oedd Rhufeiniaid 10:13, sy’n dweud: “Bydd pwy bynnag sy’n galw ar enw’r Arglwydd yn cael ei achub.” Ers fy mhlentyndod o’n i wedi bod yn chwilio am Dduw, a rŵan, o’r diwedd, roeddwn i wedi cael hyd iddo!

O’n i’n dechrau teimlo’n anesmwyth yn y greirfa. I ddechrau, o’n i’n poeni am beth fyddai eraill yn meddwl petaswn i’n gadael y grefydd Shinto. Ond roeddwn i wastad wedi addo i fi fy hun y byddwn i’n gadael petaswn i’n cael hyd i’r gwir Dduw rhywle arall. Felly yng ngwanwyn 1989, penderfynais ddilyn fy nghydwybod. Wnes i adael y greirfa a rhoi fy hun yn nwylo Jehofa.

Doedd gadael y greirfa ddim yn hawdd. Gwnaeth yr uwch offeiriaid ddweud y drefn wrtho i a cheisio rhoi pwysau arna i i aros. Oedd hi’n anoddach byth dweud wrth fy rhieni. Ar y ffordd i’w tŷ, teimlais gymaint o bryder nes oedd gen i boenau yn fy mrest ac roedd fy nghoesau mor wan â nwdls! Roedd rhaid imi stopio lawer gwaith ar y ffordd i weddïo ar Jehofa am nerth.

Pan gyrhaeddais dŷ fy rhieni, ar y cychwyn oedd gen i ormod o ofn i godi’r pwnc. Aeth oriau heibio. O’r diwedd, ar ôl llawer o weddïo, esboniais i bopeth i fy nhad. Wnes i ddweud wrtho fy mod i wedi cael hyd i’r gwir Dduw a fy mod i’n gadael y grefydd Shinto er mwyn Ei addoli. Roedd hyn yn syndod a thestun tristwch i fy nhad. Daeth perthnasau eraill i’r tŷ a cheisio newid fy meddwl. Do’n i ddim eisiau brifo fy nheulu, ond ar yr un adeg, o’n i’n gwybod mai gwasanaethu Jehofa oedd y peth iawn i’w wneud. Ymhen amser, daeth fy nheulu i barchu fy mhenderfyniad.

Roedd gadael y greirfa yn gorfforol yn un peth; ond roedd ei gadael hi’n feddyliol yn rhywbeth arall. Roedd bywyd fel offeiriad wedi dod yn rhan ohono i. Wnes i drio fy ngorau i’w hanghofio, ond lle bynnag o’n i’n mynd roedd ’na rywbeth i f’atgoffa i am fy mywyd cynt.

Wrth imi geisio cael gwared ar y dylanwadau hyn roedd dau beth yn gymorth imi. Yn gyntaf, chwiliais yn drwyadl yn fy nghartref am unrhyw beth oedd yn gysylltiedig â fy nghrefydd flaenorol. Wedyn mi wnes i losgi’r cwbl—llyfrau, lluniau, a hyd yn oed mementos drud. Yn ail, wnes i achub pob cyfle i gymdeithasu â’r Tystion. Mi wnaeth eu cyfeillgarwch a’u cefnogaeth fy helpu’n fawr iawn. Fesul dipyn, diflannodd fy hen arferion o’m cof.

FY MENDITHION: Cynt, roeddwn i’n esgeuluso fy ngwraig a’m plant, ac roedd hynny’n gwneud iddyn nhw deimlo’n unig iawn. Ond pan wnes i ddechrau treulio amser efo nhw, fel mae’r Beibl yn dysgu gwŷr i’w wneud, wnaethon ni glosio at ein gilydd. Ymhen amser, gwnaeth fy ngwraig ymuno â mi mewn gwasanaeth i Jehofa. Heddiw mae ein mab, ein merch, a’i gŵr, bellach wedi uno â ni mewn gwir addoliad.

Wrth edrych yn ôl ar fy mhlentyndod a’r freuddwyd oedd gen i o wasanaethu Duw a helpu pobl eraill, dw i’n sylweddoli fy mod i wedi cael hyd i bopeth o’n i’n edrych amdano—a mwy. Alla i ddim diolch digon i Jehofa.

“O’n i’n Gwybod Bod Rhywbeth ar Goll.”—LYNETTE HOUGHTING

GANWYD: 1958

GWLAD ENEDIGOL: DE AFFRICA

HANES: TEIMLO’N GWBL AMDDIFAD

FY NGHEFNDIR: Ces i fy ngeni yn Germiston, tref fwyngloddio dosbarth canol heb lawer o drosedd. Gan eu bod yn teimlo nad oedden nhw’n gallu edrych ar fy ôl i, penderfynodd fy rhieni mai cael fy mabwysiadu gan eraill fyddai’r gorau imi. Pan oeddwn i dim ond yn 14 diwrnod oed, ces i fy mabwysiadu gan gwpl cariadus y des i i’w hystyried yn fam a thad imi. Ond eto, pan wnes i ddysgu am fy nghefndir, o’n i’n stryffaglu gyda theimladau o fod yn gwbl amddifad. Dechreuais deimlo nad oeddwn i’n perthyn i fy rhieni mabwysiadol a’u bod nhw ddim wir yn fy neall i.

Pan o’n i tua 16 oed, wnes i ddechrau mynd i fariau coctel, lle byddai fy ffrindiau a minnau yn dawnsio ac yn gwrando ar gerddoriaeth fyw. Wnes i ddechrau ysmygu pan o’n i’n 17 oed. O’n i eisiau bod yn denau fel y modelau o’n i’n gweld mewn hysbysiadau ysmygu. Wedi imi droi’n 19, dechreuais i weithio yn Johannesburg, ac yn fuan iawn o’n i’n cadw cwmni drwg. Mewn dim o dro roeddwn i’n rhegi, yn ysmygu’n drwm, ac yn yfed gormod ar y penwythnosau.

Er hynny, roeddwn i’n cadw’n weddol heini. Byddwn i’n gwneud aerobics ac yn chwarae sboncen a phêl droed i fenywod. Ar ben hynny wnes i weithio’n galed yn gwneud enw i fi fy hun yn y diwydiant cyfrifiaduron. O ganlyniad roeddwn i’n gyfforddus yn ariannol, ac yng ngolwg llawer o’n i’n llwyddiannus. Ond, mewn gwirionedd roeddwn i’n anhapus iawn—ar goll ac yn siomedig gyda fy mywyd. Roedd ’na ‘lais’ yn fy mhen i’n dweud bod ’na rywbeth ar goll.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD: Pan wnes i ddechrau astudio’r Beibl, dysgais fod Jehofa yn Dduw cariad. Dysgais hefyd ei fod wedi dangos y cariad hwnnw drwy roi ei Air, y Beibl inni. Mae hi fel petai ei fod wedi ysgrifennu llythyr personol i ni er mwyn ein harwain ni bob cam. (Eseia 48:17, 18.) Wnes i sylweddoli petaswn i eisiau elwa ar arweiniad cariadus Jehofa, byddai’n rhaid imi wneud newidiadau mawr yn fy mywyd.

Un newid oedd wir angen imi ei wneud oedd y cwmni o’n i’n cadw. Un adnod wnaeth gyffwrdd a’m calon oedd Diarhebion 13:20, sy’n dweud: “Mae cwmni pobl ddoeth yn eich gwneud chi’n ddoeth, ond mae cadw cwmni ffyliaid yn gofyn am drwbwl.” Wnaeth yr egwyddor honno fy sbarduno i adael fy hen gyfeillion a gwneud ffrindiau newydd ymhlith Tystion Jehofa.

Yr her fwyaf wnes i wynebu oedd stopio ysmygu; roedd fy nibyniaeth ar sigaréts yn gryf iawn. Wrth imi ddod dros y broblem honno yn raddol, cododd problem arall. Roedd rhoi’r gorau i sigaréts yn gwneud imi roi dros 2 stôn (13.6 kg) o bwysau arno! Roedd hynny’n ergyd go galed i fy syniad o hunan-werth, a chymerodd bron i ddeg mlynedd imi gael gwared â’r pwysau. Eto o’n i’n gwybod mai rhoi’r gorau i ysmygu oedd y peth iawn i’w wneud. Gweddïais ar Jehofa yn barhaol, a ches i’r nerth ganddo i lwyddo.

FY MENDITHION: Heddiw dw i’n iachach o lawer. Dw i hefyd yn fodlon fy myd—bellach dw i ddim yn rhedeg yn ofer ar ôl yr hapusrwydd sy’n cael ei addo gan yrfa seciwlar, statws, a chyfoeth. Yn lle hynny, byddaf yn cael llawenydd o rannu gwirioneddau’r Beibl ag eraill. Fel canlyniad, mae tair o fy nghyn gyd-weithwyr bellach yn gwasanaethu Jehofa gyda fy ngŵr a minnau. Cyn i fy rhieni mabwysiadol farw, mi ges i’r cyfle i ddweud wrthyn nhw am addewid y Beibl ynglŷn ag atgyfodiad i baradwys ar y ddaear.

Mae closio at Jehofa wedi fy helpu i ymdopi gyda’r teimlad mod i wedi cael fy amddifadu. Mae e wedi rhoi syniad o berthyn imi drwy gyflwyno fi i deulu byd-eang o gyd-gredinwyr. Yn eu mysg nhw, mae gen i lawer o famau, tadau, brodyr, a chwiorydd.—Marc 10:29, 30.

[Llun]

Yng nghwmni Tystion Jehofa, dw i wedi profi cariad Cristnogol

[Llun]

Y greirfa Shinto lle roeddwn i’n addoli gynt