Neidio i'r cynnwys

Mae’r Beibl yn Newid Bywydau

Mae’r Beibl yn Newid Bywydau

PAM gwnaeth dyn oedd â sawl gwraig, ac oedd yn arfer gwrthwynebu Tystion Jehofa ddod yn Dyst? Beth wnaeth gymell un o weinidogion yr Eglwys Bentecostaidd i newid ei ddaliadau? Beth wnaeth helpu dynes a gafodd blentyndod hynod o drist i stopio casáu ei hun a chlosio at Dduw? Pam gwnaeth rhywun oedd ag obsesiwn â cherddoriaeth metel trwm ddod yn un o Dystion Jehofa? Darllenwch yr hanesion canlynol i gael yr atebion.

“Dw i Wedi Dod yn Ŵr Gwell.”​—RIGOBERT HOUETO

  • GANWYD: 1941

  • GWLAD ENEDIGOL: BENIN

  • HANES: DYN Â MWY NAG UN WRAIG AC YN GWRTHWYNEBU TYSTION JEHOFA

FY NGHEFNDIR:

Dw i’n dod o Cotonou, dinas fawr yn Benin. Ces i fy magu fel Catholig, ond do’n i ddim yn mynd i’r eglwys yn aml. Roedd gan lawer o Gatholigion yn yr ardal fwy nag un wraig oherwydd roedd hynny’n gyfreithlon bryd hynny. Yn y pen draw, wnes i briodi pedair dynes.

Pan ddechreuodd y chwyldro yn y 1970au, o’n i’n meddwl y byddai’n gwneud lles i fy ngwlad. Wnes i ei gefnogi’n llwyr a dechrau cael rhan mewn gwleidyddiaeth. Doedd y chwyldrowyr ddim yn hoffi Tystion Jehofa am eu bod nhw’n aros yn niwtral o ran gwleidyddiaeth. O’n i ymysg y rhai oedd yn erlid y Tystion. Pan gafodd cenhadon y Tystion eu hanfon allan o’r wlad ym 1976, o’n i’n sicr na fydden nhw byth yn dod yn ôl.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD:

Daeth y chwyldro i ben ym 1990. Er mawr syndod i mi, daeth cenhadon y Tystion yn ôl. Wnes i ddechrau meddwl efallai bod Duw gyda’r bobl yma. Tua’r adeg honno, es i i weithio yn rhywle arall. Oedd un o fy nghyd-weithwyr newydd yn Dyst, a wnaeth ef ddim oedi rhag rhannu ei ddaliadau. Dangosodd adnodau o’r Beibl i mi sy’n disgrifio Jehofa fel Duw cariad a chyfiawnder. (Deuteronomium 32:4; 1 Ioan 4:8) Roedd y rhinweddau hynny yn apelio ata i. O’n i eisiau gwybod mwy am Jehofa, felly wnes i dderbyn y cynnig i astudio’r Beibl.

Ymhen dim, wnes i ddechrau mynd i gyfarfodydd Tystion Jehofa. Welais i’r cariad go iawn rhyngddyn nhw, a gwnaeth hynny argraff fawr arna i—doedd neb yn gwahaniaethu o ran hil na statws. Y mwyaf o amser o’n i’n treulio gyda’r Tystion, y mwyaf amlwg oedd hi mai nhw oedd gwir ddilynwyr Iesu.—Ioan 13:35.

Wnes i benderfynu y byddai’n rhaid imi adael yr Eglwys Gatholig os o’n i eisiau gwasanaethu Jehofa. Doedd hynny ddim yn hawdd achos oedd gen i ofn beth fyddai eraill yn ei feddwl. Ar ôl amser hir, a gyda help Jehofa, wnes i fagu dewrder a gadael yr eglwys.

Roedd ’na newid mawr arall oedd rhaid imi ei wneud. Drwy astudio’r Beibl, wnes i ddysgu bod cael mwy nag un wraig ddim yn dderbyniol i Dduw. (Genesis 2:18-24; Mathew 19:4-6) Yn ei olwg ef, dim ond fy mhriodas gyntaf oedd yn ddilys. Felly wnes i gofrestru’r briodas yna’n gyfreithiol, ac anfon fy ngwragedd eraill i ffwrdd gan sicrhau bod ganddyn nhw beth oedden nhw ei angen yn faterol. Ymhen amser daeth dwy o fy nghyn-wragedd yn Dystion Jehofa.

FY MENDITHION:

Er bod fy ngwraig yn dal yn Gatholig, mae hi’n parchu fy mhenderfyniad i wasanaethu Jehofa. Rydyn ni’n dau yn teimlo fy mod i wedi dod yn ŵr gwell.

O’n i’n arfer meddwl gallwn i wella fy nghymuned drwy wleidyddiaeth, ond yn y pen draw oedd yr ymdrechion hynny yn dda i ddim. Bellach dw i’n gweld mai Teyrnas Dduw yw’r unig ateb i broblemau’r ddynoliaeth. (Mathew 6:⁠9, 10) Dw i’n ddiolchgar i Jehofa am ddangos imi sut i gael bywyd sy’n wirioneddol hapus.

“Doedd Hi Ddim yn Hawdd Gwneud y Newidiadau Angenrheidiol.”​—ALEX LEMOS SILVA

  • GANWYD: 1977

  • GWLAD ENEDIGOL: BRASIL

  • HANES: GWEINIDOG PENTECOSTAIDD

FY NGHEFNDIR:

Ces i fy magu ar gyrion Itu, yn nhalaith São Paulo. Roedd gan y rhan honno o’r dref enw am fod yn llawn trosedd.

O’n i’n hynod o dreisgar ac yn anfoesol. Ar ben hynny, o’n i’n masnachu cyffuriau. Ymhen amser, wnes i sylweddoli y byddai bywyd o’r fath un ai yn fy arwain i’r carchar neu i’r bedd, felly wnes i stopio. Wedyn wnes i ymuno â’r Eglwys Bentecostaidd, a dod yn weinidog yn y pen draw.

O’n i’n teimlo y gallwn i wir helpu pobl drwy fy ngweinidogaeth gyda’r eglwys. O’n i hyd yn oed yn darlledu rhaglen grefyddol ar y radio lleol ac felly des i’n adnabyddus yn yr ardal. Ond eto, des i i gredu fesul tipyn bod yr eglwys ddim yn poeni am ei haelodau—ac yn poeni’n llai byth am anrhydeddu Duw. O’n i’n teimlo mai unig nod yr eglwys oedd codi arian. Felly wnes i benderfynu gadael yr eglwys.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD:

Pan wnes i ddechrau astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa, o’n i’n gallu gweld yn syth eu bod nhw’n wahanol i grefyddau eraill. I mi, oedd dau beth yn sefyll allan. Yn gyntaf, mae Tystion Jehofa yn gwneud mwy na dim ond siarad am garu Duw a chymydog, maen nhw’n ei ddangos. Yn ail, dydyn nhw ddim yn cael rhan mewn gwleidyddiaeth na rhyfeloedd. (Eseia 2:4) Gwnaeth y ddwy ffaith hynny roi sicrwydd i mi fy mod i wedi ffeindio’r gwir grefydd—y ffordd gul sy’n arwain i fywyd tragwyddol.—Mathew 7:13, 14.

Wnes i sylweddoli y byddai’n rhaid imi wneud newidiadau mawr os o’n i eisiau plesio Duw. O’n i angen gofalu am fy nheulu yn well a threulio mwy o amser gyda nhw. O’n i hefyd angen dysgu bod yn fwy gostyngedig. Doedd hi ddim yn hawdd gwneud y newidiadau angenrheidiol hynny, ond wnes i lwyddo gyda help Jehofa. Cafodd y newidiadau hyn argraff ar fy ngwraig. Oedd hi wedi dechrau astudio’r Beibl cyn fi, ond nawr oedd hi’n gwneud cynnydd cyflymach yn ei hastudiaethau. Yn fuan, oedden ni’n dau yn gwybod ein bod ni eisiau bod yn Dystion Jehofa. Cawson ni ein bedyddio ar yr un diwrnod.

FY MENDITHION:

Dw i a fy ngwraig wrth ein boddau yn helpu ein tri o blant i ddod yn ffrindiau i Jehofa. Rydyn ni’n deulu hapus. Dw i’n ddiolchgar iawn i Jehofa am roi’r cyfle imi ddysgu’r gwir o’i Air, y Beibl. Mae wir yn newid bywydau pobl! Dw i’n dystiolaeth fyw o hynny.

“Dw i’n Teimlo’n Lân, yn Fyw, ac yn Gyfan.”​—VICTORIA TONG

  • GANWYD: 1957

  • GWLAD ENEDIGOL: AWSTRALIA

  • HANES: PLENTYNDOD HYNOD O DRIST

FY NGHEFNDIR:

Ces i fy magu yn Newcastle, De Cymru Newydd. Fi ydy’r hynaf o saith o blant. Roedd ein rhieni yn dreisgar iawn, ac oedd ein Tad yn alcoholig hefyd. Byddai fy mam yn fy nghuro ac yn sgrechian arna i. Oedd hi’n dweud wrtho i fy mod i’n ddrwg, ac y byddwn i’n cael fy arteithio yn nhân uffern. Oedd bygythiadau o’r fath yn codi ofn mawr arna i.

Roedd yr anafiadau a achosodd fy mam yn aml yn gwneud imi fethu’r ysgol. Pan o’n i’n 11, gwnaeth yr awdurdodau fy nghymryd oddi ar fy rhieni, ac yna ges i fy rhoi mewn lleiandy. Pan wnes i droi’n 14, wnes i redeg i ffwrdd o’r lleiandy. Doeddwn i ddim eisiau mynd yn ôl adref, felly wnes i fyw ar strydoedd Kings Cross yn Sydney.

Tra o’n i’n byw ar y strydoedd, wnes i ddechrau cymryd cyffuriau, yfed gormod o alcohol, edrych ar bornograffi, a gweithio fel putain. Gwnaeth un profiad fy nychryn i go iawn. O’n i wedi bod yn aros mewn fflat perchennog un o’r clybiau nos. Un noson daeth dau ddyn i’w weld. Gwnaeth ef fy anfon i i’r ystafell wely, ond o’n i’n dal yn gallu clywed nhw’n sgwrsio. Roedd perchennog y clwb yn trefnu i fy ngwerthu i i’r dynion hynny. Oedden nhw am fy nghuddio i ar long cargo a mynd â fi i Japan i weithio mewn tafarn. Wnes i banicio, neidio o’r balconi, a rhedeg am help.

Des i ar draws dyn oedd yn ymweld â Sydney, a wnes i esbonio fy sefyllfa gan obeithio y byddai’n rhoi arian imi. Yn hytrach, gwnaeth ef fy ngwahodd i i le roedd yn aros, fel fy mod i’n gallu cael cawod a bwyta rhywbeth. Yn y pen draw, wnes i byth ei adael. Flwyddyn yn ddiweddarach, gwnaethon ni briodi.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD:

Pan wnes i ddechrau astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa, wnes i deimlo llawer o emosiynau gwahanol. I ddechrau, o’n i’n teimlo’n flin pan wnes i ddysgu mai Satan sy’n achosi dioddefaint, achos o’n i wastad wedi cael fy nysgu mai Duw sy’n gwneud i ni ddioddef. Hefyd, drwy gydol fy mywyd, o’n i wedi ofni mynd i uffern, felly o’n i’n teimlo rhyddhad mawr pan wnes i ddysgu nad ydy Duw yn anfon pobl i ddioddef yn uffern.

Gwnaeth y ffordd oedd y Tystion wastad yn seilio eu penderfyniadau ar egwyddorion y Beibl greu argraff arna i. Maen nhw’n byw’n unol â’u ffydd. O’n i’n berson annifyr, ond ni waeth beth o’n i’n ddweud neu’n ei wneud, oedd y Tystion yn fy nhrin i â chariad a pharch.

Yr her fwyaf i mi, oedd teimlo’n ddi-werth. O’n i’n casáu fy hun a gwnaeth y teimladau hyn barhau yn bell ar ôl imi gael fy medyddio yn un o Dystion Jehofa. O’n i’n gwybod mod i’n caru Jehofa, ond o’n i’n hollol sicr na fyddai ef byth yn gallu fy ngharu i.

Daeth trobwynt tua 15 mlynedd ar ôl imi gael fy medyddio. Mewn anerchiad yn Neuadd y Deyrnas Tystion Jehofa, gwnaeth y siaradwr gyfeirio at Iago 1:23, 24. Mae’r adnodau hynny yn cymharu Gair Duw â drych sy’n dangos inni sut mae Jehofa yn ein gweld ni. Wnes i ddechrau meddwl a oedd beth o’n i’n ei weld yno i fy hun yn wahanol i beth oedd Jehofa yn ei weld. Ar y cychwyn, wnes i wfftio’r syniad newydd hwn. O’n i’n dal i deimlo bod caru fi yn ormod i’w ddisgwyl gan Jehofa.

Ychydig o ddyddiau wedyn, wnes i ddarllen adnod wnaeth newid fy mywyd. Yr adnod oedd Eseia 1:18, lle mae Jehofa’n dweud: “Dewch, gadewch i ni ddeall ein gilydd, . . . os ydy’ch pechodau chi’n goch llachar, gallan nhw droi’n wyn fel yr eira.” O’n i’n teimlo fel petasai Jehofa ei hun yn dweud: “Tyrd rŵan Vicky, gad inni ddeall ein gilydd, dw i’n dy ’nabod di, dw i’n gwybod am dy bechodau, dw i’n gwybod beth sydd yn dy galon—a dw i’n dy garu di.”

O’n i’n troi a throsi’r noson honno. O’n i’n dal i amau nad oedd Jehofa yn gallu fy ngharu i, ond dechreuais feddwl am aberth pridwerthol Iesu. Yn fwyaf sydyn, dyma hi’n gwawrio arna i, oedd Jehofa wedi bod mor amyneddgar â fi am amser hir iawn, ac yn dangos i mi ei fod yn fy ngharu i mewn cymaint o wahanol ffyrdd. Ond eto, oedd hi fel petaswn i’n dweud wrtho: “Dydy dy gariad ddim digon mawr i fy nghyrraedd i. Dydy aberth dy Fab ddim yn ddigon i faddau imi am fy mhechodau.” Mewn ffordd, o’n i’n taflu’r pridwerth yn ôl at Jehofa. Ond, o’r diwedd, drwy fyfyrio ar y pridwerth, dechreuais deimlo bod Jehofa yn fy ngharu.

FY MENDITHION:

Dw i’n teimlo’n lân, yn fyw, ac yn gyfan. Mae fy mhriodas wedi gwella, a dw i’n hapus fy mod i’n gallu defnyddio fy mhrofiadau i helpu eraill. Dw i’n dechrau teimlo’n agosach at Jehofa nag erioed.

“Dyna Oedd yr Ateb i Fy Ngweddi.”​—SERGEY BOTANKIN

  • GANWYD: 1974

  • GWLAD ENEDIGOL: RWSIA

  • HANES: OBSESIWN Â CHERDDORIAETH METEL TRWM

FY NGHEFNDIR:

Ces i fy ngeni yn Votkinsk, yr un lle cafodd y cyfansoddwr enwog Pyotr Ilich Tchaikovsky ei eni. Roedd ein teulu yn dlawd. Oedd Dad yn ddyn da, ond oedd yn alcoholig, felly oedd pawb wastad ar bigau drain yn y tŷ.

Do’n i ddim yn gwneud yn dda yn yr ysgol, ac wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, wnes i ddechrau teimlo’n ddi-werth. O’n i’n cadw at fy hun, a do’n i ddim yn trystio eraill. Oedd mynd i’r ysgol yn anodd iawn imi. Er enghraifft, pan oedd rhaid imi siarad o flaen y dosbarth, o’n i mor nerfus o’n i methu hyd yn oed esbonio pethau syml. Mewn un adroddiad yn yr ysgol uwchradd, dywedodd fy athrawon: “Methu mynegi ei hun. Ddim yn dda am ddewis geiriau.” Gwnaeth y geiriau hynny fy mrifo i, a gwneud imi deimlo’n waeth byth. Wnes i ddechrau meddwl am bwrpas fy mywyd.

Yn fy arddegau, wnes i ddechrau yfed alcohol. I gychwyn, gwnaeth yfed wneud imi deimlo’n dda. Ond pan o’n i’n yfed gormod oedd fy nghydwybod yn fy mhigo. Oedd fy mywyd i weld yn ddi-ystyr. Gwnaeth iselder fy nharo i’n galed, ac weithiau do’n i ddim yn gadael y tŷ am ddyddiau. Wnes i ddechrau meddwl am ladd fy hun.

Pan o’n i’n 20 wnes i deimlo’n well am gyfnod, oherwydd wnes i ddechrau gwrando ar fetel trwm. O’n i’n teimlo’n llawn egni o wrando ar y gerddoriaeth honno, ac o’n i’n chwilio am gwmni eraill oedd yn gwrando ar yr un pethau. Wnes i adael i fy ngwallt dyfu’n hir, ges i dyllau yn fy nghlustiau, a dechrau gwisgo fel y cerddorion o’n i’n eu hedmygu. Fesul tipyn, des i’n ddigywilydd ac yn ymosodol, yn aml yn ffraeo â fy nheulu.

O’n i’n meddwl y byddai gwrando ar fetel trwm yn fy ngwneud i’n hapus, ond y gwrthwyneb oedd yn digwydd. Do’n i ddim yn ’nabod fy hun ddim mwy! A phan glywais fod rhai o’r cerddorion o’n i’n eu hedmygu wedi gwneud pethau ofnadwy, wnes i deimlo eu bod nhw wedi fy mradychu.

Unwaith eto, wnes i ddechrau meddwl am ladd fy hun​—ond o ddifri tro ’ma. Yr unig beth wnaeth stopio fi oedd yr effaith byddai hynny’n ei gael ar Mam. Oedd hi’n fy ngharu i’n fawr iawn, ac oedd hi wedi gwneud gymaint i fy helpu i. Roedd y sefyllfa yn hunllefus, do’n i ddim eisiau byw, ond o’n i methu rhoi diwedd ar fy mywyd chwaith.

I gadw fy meddwl yn brysur, wnes i ddechrau darllen clasuron Rwseg. Roedd arwr un stori yn gwasanaethu mewn eglwys. Yn sydyn o’n i ar dân eisiau gwneud rhywbeth dros Dduw a phobl eraill. Wnes i dywallt fy nghalon i Dduw mewn gweddi, rhywbeth do’n i erioed wedi ei wneud o’r blaen. Wnes i ofyn iddo ddangos imi sut alla i gael bywyd llawn pwrpas. Yn ystod y weddi honno, wnes i deimlo rhyddhad enfawr. Ond oedd beth ddigwyddodd nesaf yn fwy rhyfeddol byth. Dim ond dwy awr wedyn, cnociodd un o Dystion Jehofa ar fy nrws a chynnig astudiaeth Feiblaidd imi. Dw i’n credu mai dyna oedd yr ateb i fy ngweddi. Dyna oedd diwrnod cyntaf fy mywyd newydd hapus.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD:

Er oedd hi’n anodd iawn, wnes i daflu popeth oedd gen i oedd i wneud â metel trwm. Ond eto, arhosodd y gerddoriaeth yn fy meddwl am amser hir. Pryd bynnag o’n i’n digwydd cerdded rhywle oedd yn chwarae’r gerddoriaeth honno, aeth fy meddwl i’n syth yn ôl i’r gorffennol. Do’n i ddim eisiau cymysgu’r atgofion hyll hynny â phopeth da oedd yn dechrau gwreiddio yn fy nghalon a fy meddwl. Felly, o’n i’n mynd allan o fy ffordd i osgoi’r llefydd hynny. A phryd bynnag oedd fy meddwl yn crwydro yn ôl i’r gorffennol, o’n i’n gweddïo’n daer. Roedd gwneud hynny yn fy helpu i i brofi’r “heddwch perffaith mae Duw’n ei roi . . . sydd tu hwnt i bob dychymyg.”—Philipiaid 4:7.

Wrth imi astudio’r Beibl, wnes i ddysgu bod Cristnogion angen rhannu eu ffydd ag eraill. (Mathew 28:19, 20) O’n i wir yn credu na fyddwn i byth yn gallu gwneud hynny. Ond ar yr un pryd, oedd y pethau newydd o’n i’n eu dysgu yn fy ngwneud i’n hapus, ac yn rhoi heddwch mewnol imi. O’n i’n gwybod bod eraill angen dysgu’r gwirioneddau yma hefyd. Er gwaethaf fy ofnau, dechreuais siarad ag eraill am beth o’n i’n ei ddysgu. Er mawr syndod i mi, roedd sôn wrth eraill am y Beibl yn rhoi hwb i fy hunan hyder. Roedd ef hefyd yn cryfhau fy ffydd fy hun yn y pethau yma.

FY MENDITHION:

Bellach mae gen i briodas hapus a dw i wedi cael y fraint o helpu eraill i ddysgu am y Beibl, gan gynnwys fy chwaer a fy mam. Mae gwasanaethu Duw a helpu eraill i ddysgu amdano wedi rhoi gwir ystyr i fy mywyd.