Neidio i'r cynnwys

A Oes Rhaid Talu Trethi?

A Oes Rhaid Talu Trethi?

A Oes Rhaid Talu Trethi?

PRIN iawn yw’r bobl sy’n hoffi talu trethi. Mae llawer yn teimlo bod yr arian yn cael ei ddefnyddio’n wastraffus, ei gamddefnyddio neu hyd yn oed ei ddwyn. Ond mae rhai’n gwrthwynebu talu trethi am resymau moesol. Mewn un dref yn y Dwyrain Canol, penderfynodd y trigolion beidio â thalu eu trethi, gan esbonio: “Fyddwn ni ddim yn talu am y bwledi sy’n lladd ein plant.”

Nid rhywbeth newydd nac unigryw ydy hyn. Dyma a ddywedodd yr arweinydd Hindŵ Mohandas K. Gandhi am ei safiad moesol yntau: “Mae’r sawl sy’n cefnogi Gwladwriaeth sy’n defnyddio lluoedd arfog yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn cael rhan yn y pechod. Mae pob dyn, hen ac ifanc, yn cymryd rhan yn y pechod drwy dalu trethi sy’n cynnal y Wladwriaeth honno.”

Dywedodd yr athronydd Henry David Thoreau hefyd mai rhesymau moesol oedd y tu ôl i’w benderfyniad yntau i wrthod talu trethi a fyddai’n cael eu defnyddio i gefnogi rhyfel. Gofynnodd: “A ddylai’r dinesydd ildio ei gydwybod i’r rhai sy’n llunio’r gyfraith, hyd yn oed am eiliad neu i’r radd leiaf? Os felly, pam mae cydwybod gan bob dyn?”

Mae’r cwestiwn hwn yn bwysig i Gristnogion oherwydd mae’r Beibl yn dangos yn eglur bod angen cadw’r gydwybod yn lân. (2 Timotheus 1:3) Ar y llaw arall, mae’r Beibl hefyd yn cydnabod bod hawl gan lywodraethau i gasglu trethi. Mae’n dweud: “Dylai pawb fod yn atebol i awdurdod y llywodraeth. Duw sy’n rhoi awdurdod i lywodraethau, ac mae’r awdurdodau presennol wedi eu rhoi yn eu lle gan Dduw. Felly dylid bod yn atebol i’r awdurdodau, dim yn unig i osgoi cosb, ond hefyd i gadw’r gydwybod yn lân. Dyna pam dych chi’n talu trethi hefyd—gweision Duw ydyn nhw, ac mae ganddyn nhw waith i’w wneud. Felly talwch beth sy’n ddyledus i bob un—trethi a thollau.”—Rhufeiniaid 13:1, 5-7.

Dyna pam roedd Cristnogion y ganrif gyntaf yn adnabyddus am dalu eu trethi, er bod swm sylweddol yn cael ei ddefnyddio i gynnal y fyddin. Mae’r un peth yn wir am Dystion Jehofa heddiw. A yw hyn yn anghyson? A ddylai’r Cristion anwybyddu ei gydwybod pan ddaw hi’n amser i dalu trethi?

Trethi a’r Gydwybod

Yn y ganrif gyntaf, roedd canran o’r trethi yr oedd Cristnogion i’w talu yn mynd tuag at y fyddin. Dyna’r union sefyllfa a greodd broblem i gydwybod Gandhi a Thoreau ac a wnaeth iddyn nhw atal eu trethi.

Sylwch fod y Cristnogion wedi ufuddhau i’r gorchymyn yn Rhufeiniaid pennod 13, nid yn unig er mwyn osgoi cael eu cosbi ond hefyd “i gadw’r gydwybod yn lân.” (Rhufeiniaid 13:5) Yn wir, mae cydwybod y Cristion yn mynnu iddo dalu trethi, hyd yn oed pan fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pethau sydd yn gas ganddo. Efallai bydd hyn yn ymddangos yn anghyson. Ond mae angen inni ddeall ffaith bwysig am y gydwybod, sef y llais mewnol sy’n dweud a yw rhywbeth yn dda neu’n ddrwg.

Fel dywedodd Thoreau, mae gan bawb lais mewnol o’r fath, ond nid yw’r llais hwnnw o reidrwydd yn ddibynadwy. Er mwyn inni blesio Duw, mae’n rhaid i’n cydwybod gydymffurfio â’i safonau moesol ef. Gan fod Duw yn ddoethach o lawer na ni, mae’n anochel y bydd rhaid inni newid ein safbwynt i gyd-fynd â’i safbwynt yntau. (Salm 19:7) Call felly yw ceisio deall safbwynt Duw tuag at lywodraethau dynol. Beth yw ei safbwynt?

Sylwch fod yr apostol Paul yn dweud mai “gweision Duw” yw’r llywodraethau dynol. (Rhufeiniaid 13:6) Beth mae hynny yn ei feddwl? Yn y bôn, mae’n golygu eu bod nhw’n cadw trefn ac yn darparu gwasanaethau sydd o les i’r gymdeithas. Mae hyd yn oed llywodraethau llwgr yn dal i ddarparu gwasanaethau post, addysg, plismona, a gwasanaethau brys. Er bod Duw yn ymwybodol iawn o ddiffygion yr awdurdodau dynol hyn, eto mae’n caniatáu iddyn nhw fodoli dros dro. Ac mae’n gorchymyn i ni dalu trethi er mwyn dangos parch at ei ffordd ef o wneud pethau.

Sut bynnag, dim ond dros dro y bydd Duw yn caniatáu i lywodraethau dynol reoli’r byd. Bydd Teyrnas Dduw yn disodli pob llywodraeth ddynol ac yn y pen draw bydd Duw yn dad-wneud yr holl ddrwg y maen nhw wedi ei achosi dros y canrifoedd. (Daniel 2:44; Mathew 6:10) Ond yn y cyfamser nid yw Duw wedi rhoi caniatâd i Gristnogion gymryd rhan mewn ymgyrchoedd anufudd-dod sifil drwy wrthod talu trethi neu drwy wneud unrhyw beth arall.

Ond beth os ydych chi, fel Gandhi, yn dal i deimlo mai pechod fyddai talu trethi sy’n cefnogi rhyfel? Fel y byddwn ni’n gallu gweld ardal yn well drwy ddringo i dir uwch, bydd hi’n haws inni newid ein syniadau os cofiwn fod safbwynt Duw yn llawer uwch na’n safbwynt ni. Dywedodd Duw drwy’r proffwyd Eseia: “Fel y mae’r nefoedd yn uwch na’r ddaear, y mae fy ffyrdd i yn uwch na’ch ffyrdd chwi, a’m meddyliau i na’ch meddyliau chwi.”—Eseia 55:8, 9, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

Awdurdod Llwyr?

Er bod y Beibl yn dweud y dylen ni dalu trethi, nid yw hynny yn golygu bod gan lywodraethau dynol awdurdod llwyr dros eu dinasyddion. Dysgodd Iesu mai dim ond hyn a hyn o awdurdod y mae Duw wedi ei roi i lywodraethau dynol. Pan ofynnwyd i Iesu a fyddai’n iawn i dalu trethi i’r llywodraeth Rufeinig neu beidio, ateb Iesu oedd: “Rhowch beth sydd biau Cesar i Cesar, a’r hyn biau Duw i Dduw.”—Marc 12:13-17.

Mae “Cesar” yn cynrychioli llywodraethau dynol, a nhw sy’n bathu arian ac yn pennu ei werth. Felly yng ngolwg Duw mae ganddyn nhw’n hawl i ofyn am i’r arian gael ei dalu’n ôl ar ffurf trethi. Ond dangosodd Iesu nad oes gan yr un sefydliad dynol hawl dros yr “hyn biau Duw,” sef ein bywydau a’n haddoliad. Pan fydd deddfau dynol yn mynd yn groes i gyfraith Duw, mae’n rhaid i Gristnogion “ufuddhau i Dduw, dim i ddynion meidrol.”—Actau 5:29.

Efallai na fydd Cristnogion heddiw yn hoffi’r ffordd y mae eu trethi’n cael eu gwario, ond ni fyddan nhw’n gwrthwynebu’r llywodraeth drwy wrthod talu trethi. Byddai hynny yn dangos diffyg ffydd yn y ffordd mae Duw yn dewis datrys problemau’r ddynolryw. Yn lle hynny, maen nhw’n fodlon aros yn amyneddgar nes i Dduw newid pob peth ar y ddaear drwy deyrnasiad ei Fab. Dywedodd Iesu’n glir: “Dydy nheyrnas i ddim yn dod o’r byd yma.”—Ioan 18:36.

Y Bendithion Sy’n Dod o Ddilyn Dysgeidiaeth y Beibl

Mae nifer o fendithion i’w cael drwy ddilyn cyngor y Beibl o ran talu trethi. Fyddwch chi ddim yn cael eich cosbi am dorri’r gyfraith, nac yn gorfod poeni am gael eich dal. (Rhufeiniaid 13:3-5) Yn bwysicach fyth, bydd eich cydwybod yn lân a bydd eich gonestrwydd yn dod â chlod i Dduw. Efallai na fyddwch mor dda eich byd yn ariannol, o’ch cymharu â’r rhai sy’n osgoi talu neu yn twyllo’r dyn treth, ond gallwch ddibynnu ar Dduw i gadw ei addewid i edrych ar ôl ei weision. Yn y Beibl, dywedodd Dafydd: “Roeddwn i’n ifanc ar un adeg, ond bellach dw i mewn oed. Dw i erioed wedi gweld rhywun sy’n byw yn iawn yn cael ei siomi gan Dduw, na’i blant yn gorfod chwilio am fwyd.”—Salm 37:25.

Yn olaf, bydd deall a dilyn y gorchymyn yn y Beibl i dalu trethi yn rhoi tawelwch meddwl ichi. Fel nad ydych chi’n gyfrifol am beth mae eich landlord yn ei wneud gyda’ch rhent, nid yw Duw yn eich dal chi’n gyfrifol am bopeth y mae’r llywodraeth yn ei wneud gyda’ch trethi. Cyn iddo ddysgu’r gwirioneddau yn y Beibl, roedd dyn o’r enw Stelvio wedi gweithio am flynyddoedd i newid y sefyllfa wleidyddol yn Ne Ewrop. Esboniodd y rhesymau iddo roi’r gorau i’w ymdrechion drwy ddweud: “Roedd yn rhaid imi wynebu’r ffaith nad yw dyn yn gallu dod â chyfiawnder, heddwch, a brawdgarwch i’r byd. Dim ond Teyrnas Dduw all greu cymdeithas newydd a gwell.”

Fel Stelvio, os ydych chi’n talu’r “hyn biau Duw i Dduw,” gallwch chi fod yr un mor hyderus. Byddwch chi’n gweld y dydd pan fydd Duw yn dod â llywodraeth gyfiawn i’r ddaear ac yn cywiro’r holl ddrwg y mae llywodraethau dynol wedi ei wneud.

[Broliant]

Mae angen inni newid ein safbwynt i gyd-fynd â safbwynt Duw, oherwydd mae ei feddyliau ef yn uwch na’n meddyliau ni

[Broliant]

Drwy dalu trethi mae Cristnogion yn ufuddhau i Dduw, yn cadw cydwybod lân, ac yn dangos eu bod nhw’n ymddiried yn Nuw i ofalu am eu hanghenion

[Lluniau]

“Rhowch beth sydd biau Cesar i Cesar, a’r hyn biau Duw i Dduw”

[Llinell Gydnabyddiaeth]]

Copyright British Museum