Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

AR Y CLAWR | TEYRNAS DDUW—BETH GALL EI OLYGU I CHI?

Teyrnas Dduw—Pam Mae’n Bwysig i Iesu

Teyrnas Dduw—Pam Mae’n Bwysig i Iesu

Yn ystod ei weinidogaeth ar y ddaear, siaradodd Iesu am lawer o bynciau. Er enghraifft, dysgodd ei ddilynwyr sut i weddïo, sut i blesio Duw, a sut i gael hyd i hapusrwydd. (Mathew 6:5-13; Marc 12:17; Luc 11:28) Ond y pwnc a siaradodd Iesu fwyaf amdano—y pwnc agosaf at ei galon—oedd Teyrnas Dduw.—Luc 6:45.

Y peth pwysicaf ym mywyd Iesu oedd “cyhoeddi’r newyddion da am Dduw yn teyrnasu.” (Luc 8:1) Er enghraifft, cerddodd am gannoedd o filltiroedd o un pen o Israel i’r llall er mwyn dysgu pobl am Deyrnas Dduw. Cafodd gweinidogaeth Iesu ei chofnodi yn y pedair efengyl, sy’n cyfeirio dros 100 o weithiau at y Deyrnas. Mae’r rhan fwyaf o’r cyfeiriadau hynny i’w gael yng ngeiriau Iesu, ac eto mae’n rhaid eu bod nhw’n cynrychioli rhan fach yn unig o’r hyn a ddywedodd am Deyrnas Dduw!—Ioan 21:25.

Pam oedd y Deyrnas yn golygu cymaint i Iesu pan oedd ar y ddaear? Am un peth, roedd Iesu’n gwybod bod Duw wedi ei benodi ef i fod yn Rheolwr arni. (Eseia 9:6; Luc 22:28-30) Ond doedd Iesu ddim yn canolbwyntio ar geisio grym neu ogoniant iddo’i hun. (Mathew 11:29; Marc 10:17, 18) Doedd ef ddim yn hyrwyddo’r Deyrnas i’w les ei hun. O flaen popeth, roedd gan Iesu ddiddordeb yn Nheyrnas Dduw * ac mae’r un diddordeb ganddo heddiw oherwydd yr hyn y bydd yn ei wneud ar gyfer y rhai mae’n eu caru, sef ei Dad nefol a’i ddilynwyr ffyddlon.

YR HYN BYDD Y DEYRNAS YN EI GWNEUD AR GYFER TAD IESU

Mae Iesu yn caru ei Dad nefol yn fawr iawn. (Diarhebion 8:30; Ioan 14:31) Mae’n edmygu rhinweddau ei Dad, fel Ei gariad, Ei dosturi, a’i gyfiawnder. (Deuteronomium 32:4; Eseia 49:15; 1 Ioan 4:8) Felly, mae’n rhaid fod Iesu yn casáu clywed celwyddau am ei Dad—er enghraifft fod Duw yn malio dim am ddioddefaint pobl a bod Duw eisiau inni ddioddef. Dyma un rheswm roedd Iesu yn awyddus i gyhoeddi’r “newyddion da am deyrnasiad Duw”—roedd yn gwybod yn iawn y byddai’r Deyrnas mewn amser yn adennill enw da ei Dad. (Mathew 4:23; 6:9, 10) Sut bydd hynny’n digwydd?

Drwy gyfrwng y Deyrnas, bydd Jehofa yn gwneud newidiadau enfawr er lles y teulu dynol. “Bydd yn sychu pob deigryn” o lygaid pobl ffyddlon. Bydd Jehofa yn cael gwared ar yr hyn sy’n achosi’r dagrau hynny gan wneud yn siŵr na “fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen.” (Datguddiad 21:3, 4) Hefyd drwy gyfrwng y Deyrnas, bydd Duw yn cael gwared ar bob dioddefaint dynol. *

Does dim rhyfedd felly fod Iesu wedi bod mor awyddus i ddweud wrth bobl am y Deyrnas! Gwyddai y byddai’r Deyrnas honno’n datgelu yn union pa mor bwerus a thosturiol y mae ei Dad mewn gwirionedd. (Iago 5:11) Roedd Iesu hefyd yn gwybod y byddai’r Deyrnas yn dod â bendithion i eraill yr oedd yn eu caru, sef pobl ffyddlon.

YR HYN BYDD Y DEYRNAS YN EI WNEUD AR GYFER POBL FFYDDLON

Ymhell cyn iddo ddod i’r ddaear, roedd Iesu’n byw yn y nef gyda’i Dad. Gwnaeth y Tad ddefnyddio ei Fab i ddod â phopeth i fodolaeth​—o’r nefoedd ryfeddol gyda’u sêr a galaethau di-rif, i’n planed hardd ni a’r holl fywyd gwyllt sy’n byw arni. (Colosiaid 1:15, 16) Ond o’r cyfan oll, “roedd y ddynoliaeth yn rhoi pleser pur” i Iesu.—Diarhebion 8:31.

Roedd cariad at bobl yn nodwedd amlwg o weinidogaeth Iesu. O’r cychwyn cyntaf mi wnaeth yn glir ei fod wedi dod i’r ddaear i “gyhoeddi newyddion da” i’r rhai mewn angen. (Luc 4:18) Ond gwnaeth Iesu fwy na siarad am helpu pobl. Dro ar ôl tro, mi wnaeth pethau oedd yn dangos ei fod yn caru pobl. Er enghraifft, pan ddaeth tyrfa fawr i wrando ar Iesu’n siarad, a rhai anghenus yn eu mysg, gwnaeth hynny “ei gyffwrdd i’r byw, ac iachaodd y rhai oedd yn sâl.” (Mathew 14:14) Pan fynegodd dyn ag afiechyd difrifol ei ffydd yng ngallu Iesu i’w iacháu os oedd yn dymuno, wnaeth hynny gyffwrdd â’i galon. Aeth ati i iacháu’r dyn, gan ddweud wrtho’n dosturiol: “Dyna dw i eisiau, . . . bydd lân!” (Luc 5:12, 13) Pan welodd Iesu ei ffrind Mair yn galaru dros farwolaeth ei brawd, Lasarus, “cynhyrfodd Iesu drwyddo,” ac roedd “yn ei ddagrau.” (Ioan 11:32-36) A phwy fyddai wedi gallu dychmygu beth ddigwyddodd nesaf?—Daeth Iesu â Lasarus yn ôl yn fyw er bod Lasarus wedi bod yn farw ers pedwar diwrnod!—Ioan 11:38-44.

Wrth gwrs, gwyddai Iesu’n iawn mai dros dro yn unig oedd y rhyddhad yr oedd yn ei gynnig pryd hynny. Roedd yn deall y byddai pawb yr oedd yn eu hiacháu, yn hwyr neu’n hwyrach, yn mynd yn sâl eto a byddai pob un roedd wedi ei atgyfodi yn marw eto. Ond, roedd Iesu hefyd yn gwybod y byddai Teyrnas Dduw yn dod â rhyddhad parhaol o’r fath broblemau. Dyna pam nad gwyrthiau yn unig a wnaeth Iesu; ond aeth ati’n selog hefyd i gyhoeddi “newyddion da am deyrnasiad Duw.” (Mathew 9:35) Roedd ei wyrthiau yn dangos ar raddfa fechan yr hyn y bydd Teyrnas Dduw yn gwneud yn fyd-eang cyn bo hir. Ystyriwch beth mae’r Beibl yn ei addo ynghylch yr adeg honno.

  • Dim problemau iechyd mwyach.

    “Bydd llygaid pobl ddall yn cael eu hagor, a chlustiau pobl fyddar hefyd. Bydd y cloff yn neidio fel hydd, a’r mud yn gweiddi’n llawen!” Hefyd, “Fydd neb sy’n byw yno’n dweud, ‘Dw i’n sâl!’”—Eseia 33:24; 35:5, 6.

  • Dim marwolaeth mwyach.

    “Bydd y rhai sy’n byw yn iawn yn meddiannu’r tir, ac yn aros yno am byth.”—Salm 37:29.

    “Bydd marwolaeth wedi’i lyncu am byth. Bydd fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn sychu’r dagrau oddi ar bob wyneb.”—Eseia 25:8.

  • Bydd y rhai sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw.

    “Mae’r amser yn dod pan fydd pawb sy’n eu beddau yn clywed llais Mab Duw ac yn dod allan.”—Ioan 5:28, 29.

    “Dw i’n credu bod Duw yn mynd i ddod â phobl . . . yn ôl yn fyw.”—Actau 24:15.

  • Dim digartrefedd na diweithdra mwyach.

    “Byddan nhw’n adeiladu tai ac yn byw ynddyn nhw; byddan nhw’n plannu gwinllannoedd ac yn bwyta’u ffrwyth. Fyddan nhw ddim yn adeiladu tai i rywun arall fyw ynddyn nhw, nac yn plannu i rywun arall fwyta’r ffrwyth. . . . bydd y rhai dw i wedi eu dewis yn cael mwynhau’n llawn waith eu dwylo.”—Eseia 65:21, 22.

  • Dim rhyfel mwyach.

    “Mae’n dod â rhyfeloedd i ben drwy’r ddaear gyfan.”—Salm 46:9.

    “Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd, nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel.”—Eseia 2:4.

  • Dim prinder bwyd mwyach.

    “Yna y ddaear a rydd ei ffrwyth; a DUW, sef ein DUW ni, a’n bendithia.”—Salm 67:6, Beibl Cysegr-lân.

    “Boed digonedd o ŷd yn y wlad—yn tyfu hyd at ben y mynyddoedd.”—Salm 72:16.

  • Dim tlodi mwyach.

    “Fydd y rhai mewn angen ddim yn cael eu hanghofio am byth.”—Salm 9:18.

    “Mae’n achub y rhai sy’n galw arno mewn angen, a’r tlawd sydd heb neb i’w helpu. Mae’n gofalu am y gwan a’r anghenus, ac yn achub y tlodion.”—Salm 72:12, 13.

Pan fyddwch chi’n ystyried yr addewidion hynny ynghylch Teyrnas Dduw, a allwch chi weld pam roedd y Deyrnas yn golygu gymaint i Iesu? Tra oedd ar y ddaear, roedd yn awyddus i siarad am Deyrnas Dduw â phwy bynnag oedd yn barod i wrando, am ei fod yn gwybod y byddai’r Deyrnas yn dod â diwedd i’r holl broblemau sy’n ein poeni ni heddiw.

^ Par. 5 Mae’r erthygl hon yn cyfeirio at deimladau Iesu yn y presennol am fod Iesu yn fyw yn y nef, ac ers iddo ddychwelyd i’r nef, does dim dwywaith fod y Deyrnas wedi aros yn agos i’w galon.—Luc 24:51.

^ Par. 8 Am wybodaeth ynglŷn â pham mae Duw wedi caniatáu i fodau dynol ddioddef am gyfnod, gweler pennod 11 o’r llyfr Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu? a gyhoeddwyd gan Dystion Jehofa. Hefyd ar gael ar www.pr418.com/cy.