Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Bobl Ifanc—Cyfathrebwch yn Agored â’ch Rhieni

Bobl Ifanc—Cyfathrebwch yn Agored â’ch Rhieni

Pam dylet ti geisio rhannu dy deimladau’n agored gyda dy rieni? (Dia 23:26) Achos mae Jehofa wedi rhoi’r cyfrifoldeb iddyn nhw ofalu amdanat ti a dy arwain di. (Sal 127:3, 4) Byddai’n anodd iddyn nhw dy helpu di petaset ti’n cuddio dy bryderon rhagddyn nhw. Hefyd, byddet ti’n colli allan ar ddysgu o’u holl brofiad bywyd. Ydy hi’n anghywir i gadw rhai teimladau i ti dy hun? Nid o reidrwydd—cyn belled nad wyt ti’n twyllo dy rieni.—Dia 3:32.

Sut gelli di siarad â dy rieni? Ceisia ddewis amser sy’n siwtio ti a nhw. Os ydy hynny’n rhy anodd, gallet ti ysgrifennu llythyr at un ohonyn nhw i rannu dy deimladau. Beth os ydyn nhw eisiau siarad am rywbeth byddai’n well gen ti beidio â’i drafod? Cofia eu bod nhw wir eisiau helpu. Mae dy rieni ar dy ochr, nid yn dy erbyn. Os wyt ti’n ymdrechu i gyfathrebu’n agored â dy rieni, byddi di ar dy ennill am weddill dy fywyd—dy fywyd tragwyddol!—Dia 4:10-12.

GWYLIA’R FIDEO FY MYWYD FEL PERSON IFANC—SUT GALLA I SIARAD Â FY RHIENI? AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Beth sylweddolodd Esther a Partik amdanyn nhw eu hunain?

  • Beth gelli di ei ddysgu o esiampl Iesu?

  • Sut mae dy rieni wedi dangos eu bod nhw’n gofalu amdanat ti?

  • Mae dy rieni eisiau iti lwyddo

    Pa egwyddorion y Beibl all dy helpu di i siarad â dy rieni?