Fyddech Chi’n Hoffi Gwybod Rhagor Am y Beibl?
Fyddech Chi’n Hoffi Gwybod Rhagor Am y Beibl?
Beth am Ddarllen y Beibl?
Y BEIBL ydi’r unig lyfr sy’n rhoi cyfarwyddyd cariadus inni oddi wrth Dduw. (1 Thesaloniaid 2:13) Bydd byw yn ôl dysgeidiaeth y Beibl o fudd mawr i chi. Mi ddowch yn agosach at Dduw, Rhoddwr “pob rhoi da a phob rhodd berffaith,” ac i’w garu’n well. (Iago 1:17) Mi fydd yn haws i chi ddod ato mewn gweddi, ac os daw amser anodd cewch help ganddo. Os bydd eich byw bob dydd chi’n dilyn safonau uchel y Beibl, mi fydd Duw yn estyn bywyd tragwyddol i chi.—Rhufeiniaid 6:23.
Mae’r Beibl yn ein helpu ni i ddeall pethau’n well. Mae’r gwirioneddau sydd ynddo yn dangos fod miliynau heddiw’n gaeth i ddylanwad syniadau gau. Er enghraifft, pan ddown i ddeall y gwirionedd ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd inni ar ôl marw, ‘rydym ni’n gweld nad oes angen inni boeni ynghylch cyflwr anwyliaid a ffrindiau sy’ wedi marw—fedran’ nhw ddim bod yn diodde’. (Eseciel 18:4, Y Beibl Cysegr Lân) A dyna gysur mawr ydi addewid yr atgyfodiad! (Ioan 11:25) Wrth inni ddod i wybod am yr angylion drwg, a deall peryglon ysbrydegaeth, fe ddaw’n amlwg inni pam mae’r ddaear mewn cyflwr mor druenus heddiw.
Mae egwyddorion Duw yn y Beibl yn cynnig patrwm byw inni sy’n llesol i’r corff. Er enghraifft, dyna chi’r cyngor i gadw’n “sobr” ac yn wyliadwrus, ac i ymlanhau “oddi wrth bob peth sy’n halogi cnawd ac ysbryd.” (1 Timotheus 3:2; 2 Corinthiaid 7:1) Hefyd, os rhown gyngor Duw ar waith, mi fydd hapusrwydd yn dod i lenwi’n bywyd priodasol, a hunan barch yn cynyddu.—1 Corinthiaid 6:18.
Wrth i chi ganiatáu i Air Duw weithredu yn eich bywyd mi ddowch yn berson hapus, gyda meddwl tawelach, a gobaith sicr. Mi fyddwch yn fwy parod i ddangos tosturi, cariad a charedigrwydd at eraill. Hefyd, wrth afael mewn rhinweddau fel llawenydd, tangnefedd a ffydd, mi ddowch yn well gŵr neu wraig, yn well tad neu fam, yn well mab neu ferch.—Galatiaid 5:22,23; Effesiaid 4:24,32.
A beth am y dyfodol? Oeddech chi’n gwybod fod ‘na broffwydoliaethau yn y Beibl sy’n disgrifio i’r dim gyflwr y byd fel mae e heddiw, ac sy’n dangos ein bod ni’n byw yn ystod cyfnod tyngedfennol yn hanes dyn? Mae’r Beibl hefyd yn proffwydo y bydd Duw yn adfer y ddaear i’w chyflwr paradwysaidd.—Datguddiad 21:3,4.
Help i Ddeall y Beibl
Ydi’r Beibl yn rhy anodd i chi, yn rhy gymhleth i ganfod atebion i’ch cwestiynau? Peidiwch â phoeni. Mae llawer yn teimlo’r un fath. Y gwir ydi fod angen help ar bawb i ddeall Gair Duw. Ynglŷn â hyn mae Tystion Jehofah, mewn 235 o wledydd, yn brysur helpu miliynau i ddod i ddeall y Beibl. Mi fydden’ nhw’n falch o’r cyfle i’ch helpu chi hefyd.
Fel arfer, i gychwyn, trafod yr athrawiaethau sylfaenol sy’ ddoethaf, ac yna symud ymlaen at y “bwyd cryf”—y gwirioneddau mawr. (Hebreaid 6:1; 5:14) Y Beibl ydi’r awdurdod. Mi fydd cyhoeddiadau Beiblaidd fel Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni? yn eich helpu chi i ddeall adnodau sy’n sôn am y gwahanol bynciau.
Ydych Chi’n Fodlon Rhoi Amser Heibio Bob Wythnos er mwyn Dod i Ddeall y Beibl?
Ar amser sy’n gyfleus i chi mae’n bosib’ cynnal trafodaeth Feiblaidd yn eich cartre’, neu sgwrsio dros y ffôn os ydi hynny’n well gennych chi—trafodaeth wedi’i threfnu i siwtio’ch amgylchiadau personol chi, beth bynnag fo’ch cefndir, heb arholiad na phwysau o gwbl. Mi gewch atebion o’r Beibl i’ch cwestiynau, ac felly ddod yn nes at Dduw.
Mae’r cynnig yma’n rhad ac am ddim—’does dim gwahaniaeth be’ ‘di’ch crefydd neu’ch enwad chi, neu os ydych yn ddigrefydd. (Mathew 10:8) Ond mae disgwyl fod gennych chi ddiddordeb diffuant yng Ngair Duw a’ch bod chi’n awyddus i gynyddu yn eich gwybodaeth amdano.
Pwy all gael rhan yn y drafodaeth? Mae croeso i’ch teulu cyfan fod yn bresennol, a’ch ffrindiau hefyd. Neu fe all fod yn drafodaeth gyda chi yn unig.
Byddai neilltuo rhyw awr yr wythnos ar gyfer y drafodaeth Feiblaidd yn syniad da—dyna mae llawer yn ei wneud. Beth bynnag sy’n hwylus i chi, mi fydd y Tystion yn barod iawn i’ch helpu.
Gwahoddiad i Ddysgu
’Rydym yn eich gwahodd chi i gysylltu â Thystion Jehofah drwy ysgrifennu at un o’r cyfeiriadau isod. Gallwn drefnu wedyn i rywun gynnal trafodaeth am y Beibl gyda chi yn eich cartre’.
□ Anfonwch gopi o Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni? i mi. Nodwch ym mha iaith.
□ Cysylltwch â mi, os gwelwch yn dda ynglŷn â thrafod y Beibl gartre’ yn rhad ac am ddim.
Oni nodir yn wahanol, bob tro mae dyfynnu o’r Beibl o Y Beibl Cymraeg Newydd y daw.