Neidio i'r cynnwys

Jehofah—Pwy Ydi E?

Jehofah—Pwy Ydi E?

Jehofah—Pwy Ydi E?

WRTH dorri’i ffordd drwy’r jyngl yn Cambodia yn y 19eg ganrif, cyrhaeddodd y Ffrancwr, Henri Mouhot, ar un o’i deithiau ymchwil ffos lydan oedd yn amgylchynu teml. Angkor Wat, y gofeb grefyddol fwyaf ar y ddaear ydoedd. Medrai Mouhot ddweud ar unwaith mai gwaith dwylo dyn oedd yr adeilad, erbyn hynny â mwsog drosto i gyd. “Wedi’i godi gan ryw Michelangelo o’r henfyd,” ysgrifennodd, “mae’n fwy mawreddog nag unrhyw beth a adawyd inni gan Roeg neu Rufain.” Er cael ei adael a’i ddiystyru am ganrifoedd, ’roedd yn amlwg iddo fod ’na gynllunydd yn gyfrifol am yr adeilad cymhleth.

Mae’n ddiddorol fod llyfr doethineb a ysgrifennwyd ganrifoedd yn ôl wedi defnyddio rhesymu tebyg, wrth ddweud: “Y mae pob tŷ yn cael ei sylfaenu gan rywun, ond Duw yw sylfaenydd pob peth.” (Hebreaid 3:4) Ond fe allai rhai ddweud, ‘Mae’r ffordd mae natur yn gweithio yn wahanol i waith dyn.’ Ond ’dyw pob gwyddonydd ddim yn cytuno efo’r gwrthwynebiad hwnnw.

Wedi iddo gydnabod “nad pethau difywyd yw systemau biocemegol,” mae Michael Behe, darlithydd cyswllt mewn biocemeg ym Mhrifysgol Lehigh, Pennsylvania, U.D.A., yn gofyn: “’Ydi hi’n bosib’ cynllunio systemau biocemegol byw yn ddeallus?” Mae’n mynd ati i ddangos fod gwyddonwyr ’nawr yn cynllunio newidiadau sylfaenol mewn organebau byw trwy ddulliau fel trin genynnau. Ydi, mae hi’n bosib’ “adeiladu” pethau difywyd a phethau byw hefyd! Wrth archwilio byd meicrosgopig celloedd byw, sylwodd Behe ar gymhlethdod rhyfeddol systemau yn cynnwys elfennau oedd yn gyd-ddibynnol er mwyn gweithredu. Ei gasgliad? “Canlyniad yr ymdrechion cynyddol hyn i ymchwilio i’r gell—ymchwilio i fywyd ar y lefel folecwlaidd—ydi bloedd eglur, fyddarol, ‘cynllun!’”

Pwy, felly, ydi Cynllunydd yr holl systemau cymhleth hyn?

Pwy Ydi’r Cynllunydd?

Mae’r ateb i’w gael yn yr hen lyfr doethineb hwnnw y dyfynnwyd ohono eisoes—y Beibl. Yn hynod syml ac eglur, gyda’i eiriau agoriadol, mae’r Beibl yn enwi cynllunydd pob peth: “Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a’r ddaear.”—Genesis 1:1.

Ond er mwyn ei wahaniaethu ei hun oddi wrth eraill y dywedir mai Duw ydyn’ nhw, mae’r Creawdwr yn cyfeirio ato’i hun gan ddefnyddio enw unigryw: “Fel hyn y dywed Duw, yr ARGLWYDD, (“Jehofah,” New World Translation) a greodd y nefoedd . . . , a luniodd y ddaear a’i chynnyrch, a roddodd anadl i’r bobl sydd arni.” (Eseia 42:5, 8) Jehofah ydi enw’r Duw a gynlluniodd y bydysawd ac a wnaeth ddynion a gwragedd ar y ddaear. Ond pwy ydi Jehofah? Sut Dduw ydi e? A pham dylech chi wrando arno?

Arwyddocâd Ei Enw

I gychwyn, beth ydi ystyr enw’r Creawdwr, Jehofah? Mae’r enw dwyfol yn cael ei ysgrifennu â phedair llythyren Hebraeg (יהוה) sy’n digwydd bron i 7,000 o weithiau yn rhan Hebraeg y Beibl. Mae’r enw hwn yn cael ei ystyried yn ffurf achosol y ferf Hebraeg ha·wahʹ (“peri bod”) ac mae felly’n golygu “Mae E’n Peri Bod.” Hynny yw, mae Jehofah yn ddoeth achosi iddo’i hun ddod yn beth bynnag sydd angen iddo fod er mwyn cyflawni’i fwriadau. Mae e’n dod yn Greawdwr, yn Farnwr, yn Waredwr, yn Gynhaliwr bywyd, ac yn y blaen, er mwyn cyflawni’i addewidion. Ar ben hyn, mae’r ferf Hebraeg yn cymryd ffurf ramadegol sy’n dynodi gweithred sydd yn y broses o gael ei chyflawni. Mae hyn yn golygu fod Jehofah yn dal i achosi iddo’i hun ddod yn gyflawnwr ei addewidion. Ie, Duw byw ydi e!

Nodweddion Amlycaf Jehofah

Mae’r Beibl yn dangos mai person deniadol iawn ydi’r Creawdwr hwn sy’n cyflawni’i addewidion. Fe ddatguddiodd Jehofah ei hun ei nodweddion arbennig gan ddweud: “Yr ARGLWYDD, yr ARGLWYDD, (“Jehofah, Jehofah,” NW) Duw trugarog a graslon, araf i ddigio, llawn cariad a ffyddlondeb; yn dangos cariad i filoedd, yn maddau anwiredd a chamwedd a phechod.” (Exodus 34:6, 7) Mae Jehofah yn cael ei ddarlunio yn Dduw caredigrwydd cariadus. Mae’n bosib’ hefyd cyfieithu’r gair Hebraeg sy’n cael ei ddefnyddio yma, yn “cariad teyrngar.” Wrth gyflawni’i fwriad tragwyddol, mae Jehofah yn deyrngar barhau i ddangos cariad at ei greaduriaid. Oni fyddech chi’n gwerthfawrogi’r fath gariad yn fawr?

Mae Jehofah hefyd yn araf i ddigio ac yn barod i faddau ein hanwireddau. Mae cael bod yn agos at berson sy’n barod i faddau inni yn hytrach na chwilio am feiau yn cynhesu’r galon. Ond ’dyw hynny ddim yn golygu fod Jehofah yn caniatáu drwgweithredu. Fe ddywedodd: “’Rwyf fi, yr ARGLWYDD, (“Jehofah,” NW) yn hoffi cyfiawnder, ac yn casáu trais a chamwri.” (Eseia 61:8) Ac yntau’n Dduw cyfiawnder, nid am byth y bydd e’n goddef pechaduriaid sy’n parhau’n ddigywilydd yn eu drygioni. Cawn ein sicrhau, felly, y bydd Jehofah, yn ei amser ei hun, yn cywiro anghyfiawnder yn y byd o’n cwmpas.

Mae gofyn cael doethineb i gynnal cydbwysedd perffaith rhwng nodweddion cariad a chyfiawnder. Yn ei ymwneud â ni mae Jehofah yn cydbwyso’r ddwy nodwedd hyn mewn ffordd ryfeddol. (Rhufeiniaid 11:33-36) Wrth gwrs, mae ei ddoethineb i’w weld ymhobman. Mae rhyfeddodau natur yn dangos hyn.—Salm 104:24; Diarhebion 3:19.

Ac eto, ’dyw doethineb ddim yn ddigon. Er mwyn llwyr gyflawni yr hyn sy’n dod i’w feddwl, mae’n rhaid i’r Creawdwr feddu ar allu cyflawn. Mae’r Beibl yn dangos mai dyna’r math o Dduw ydi e: “Codwch eich llygaid i fyny; edrychwch, pwy a fu’n creu’r pethau hyn? Pwy a fu’n galw allan eu llu fesul un? . . . Gan faint ei nerth, . . . nid oes yr un ar ôl.” (Eseia 40:26) Yn wir, “gan faint ei nerth” mae Jehofah yn gallu cyflawni’i ewyllys yn ôl ei orchymyn. Onid ydi nodweddion fel hyn yn eich denu chi at Jehofah?

Buddion ’Nabod Jehofah

“Nid i fod yn afluniaidd,” y creodd Jehofah y ddaear, ond fe’i “ffurfiodd i’w phreswylio” gan fodau dynol sydd â pherthynas dda ag ef. (Eseia 45:18; Genesis 1:28) Mae gofal ganddo dros ei greaduriaid ar y ddaear. Fe roddodd e gychwyn perffaith i’r ddynoliaeth mewn cartref tebyg i ardd, paradwys. Mae bodau dynol, hwythau, yn ei ddifetha, gan ennyn dicter Jehofah. Ac eto, yn ffyddlon i’r hyn mae ei enw’n ei olygu, fe fydd Jehofah yn cyflawni ei fwriad gwreiddiol ar gyfer y ddynoliaeth a’r ddaear. (Salm 115:16; Datguddiad 11:18) Fe fydd e’n adfer Paradwys ar y ddaear i’r rhai sy’n barod fel ei blant i ufuddhau iddo.—Diarhebion 8:17; Mathew 5:5.

Mae llyfr olaf y Beibl yn disgrifio ansawdd y bywyd y medrwch chi ei fwynhau yn y Baradwys honno: “Fe sych bob deigryn o’u llygaid hwy, ac ni bydd marwolaeth mwyach, na galar na llefain na phoen. Y mae’r pethau cyntaf wedi mynd heibio.” (Datguddiad 21:3, 4) Dyna’r bywyd yn wir mae Jehofah eisiau i chi ei fwynhau. Dyna Dad haelfrydig! Ydych chi’n barod i ddysgu mwy amdano a’r hyn mae gofyn i chi ei wneud er mwyn byw yn y Baradwys?

Oni nodir yn wahanol, daw’r dyfyniadau Ysgrythurol o Y Beibl Cymraeg Newydd.