Neidio i'r cynnwys

Mae Diwedd Gau Grefydd yn Agos!

Mae Diwedd Gau Grefydd yn Agos!

Newyddion y Deyrnas Rhif. 37

Neges Fyd-Eang

Mae Diwedd Gau Grefydd yn Agos!

▪ Beth ydi gau grefydd?

▪ Ym mha ffordd daw ei diwedd hi?

▪ Sut gall hyn effeithio arnoch chi?

Beth ydi gau grefydd?

Ydych chi’n dychryn gweld addolwyr Duw yn mynd ati i dorri’r gyfraith? Ydi clywed am ryfel, brawychiaeth a llygredd yn cael eu cyflawni yn enw crefydd yn eich corddi chi? Onid dyrys yw gweld crefydd yn ymddangos yn gymaint rhan o broblemau’r dydd?

Ar gau grefydd mae’r bai, nid ar bob crefydd. Mi awgrymodd un person crefyddol, mawr ei barch, Iesu Grist, fod gau grefydd a’i gweithredoedd ysgeler yn debyg i “goeden wael yn dwyn ffrwyth drwg.”(Mathew 7:15-17) Pa fath o ffrwyth mae gau grefydd yn ei gynhyrchu?

Mae Gau Grefydd yn...

YMYRRYD MEWN RHYFEL A GWLEIDYDDIAETH: “Ar hyd a lled Asia a thu hwnt,” medd y cylchgrawn Asiaweek, “mae arweinwyr sy’n glafoeri am rym yn manteisio’n ystrywgar ar deimladau crefyddol pobl.” “Mae’r byd ar fin mynd yn wallgof,” rhybuddia’r cylchgrawn. “Er mwyn rhoi terfyn ar y lladd rhaid ichi ddienyddio’r brawychwyr,” oedd geiriau un arweinydd crefyddol amlwg yn yr Unol Daleithiau, gan ychwanegu: “Yn enw Duw, chwythwch nhw i ebargofiant.” Dyna’i ateb e i’r broblem. Ond yn ôl y Beibl: “Os dywed rhywun, ‘’Rwy’n caru Duw,’ ac yntau’n casáu ei gydaelod, y mae’n gelwyddog.” (1 Ioan 4:20) Anogaeth Iesu ydi “Carwch eich gelynion.” (Mathew 5:44) Fedrwch chi feddwl am grefydd nad yw ei haelodau’n cymryd rhan mewn rhyfel?

LLEDAENU ATHRAWIAETH GAMARWEINIOL: Mae llawer o grefyddau’n dysgu bod yr enaid neu’r ysbryd yn rhan anweledig o’r bod dynol a’i fod yn dal yn fyw wedi marwolaeth y corff. Mae’r fath athrawiaeth yn rhoi cyfle i’r crefyddau hynny ofyn am dâl i weddïo ar ran eneidiau’r ymadawedig. Ond geiriau’r Beibl Cysegr Lân yw: “Yr enaid a becho, hwnnw a fydd farw.” (Eseciel 18:4) Yn ogystal, dywed y Pregethwr fod y “byw yn gwybod y byddant farw, ond nid yw’r meirw yn gwybod dim.” (Pregethwr 9:5) Dysgodd Iesu y caiff y meirw eu hatgyfodi — addewid ddi-fudd petai enaid anfarwol eisoes gennym fel bodau dynol. (Ioan 11:11-25) Ydi’ch crefydd chi’n mynnu fod yr enaid yn anfarwol?

ESGUSODI ANFOESOLDEB RHYWIOL: Yng ngwledydd y Gorllewin, mae amryw o sefydliadau crefyddol yn fodlon ordeinio clerigwyr hoyw a gwrywgydwyr, ac yn annog llywodraethau i gydnabod priodasau cyplau o’r un rhyw. Hefyd ceir eglwysi sy’n condemnio anfoesoldeb yn goddef arweinwyr crefyddol a fu ar un adeg yn camdrin plant yn rhywiol. Cyngor y Beibl, fodd bynnag, yw: “Peidiwch â chymryd eich camarwain; ni chaiff puteinwyr, nac eilunaddolwyr, na godinebwyr, na rhai sy’n ymlygru âu rhyw eu hunain ... etifeddu teyrnas Dduw.” (1 Corinthiaid 6:9,10) Fedrwch chi feddwl am grefyddau sy’n caniatáu anfoesoldeb rhywiol?

Beth all crefyddau sy’n dwyn ffrwyth drwg ei ddisgwyl yn y dyfodol? Dangosodd Iesu y byddai “pob coeden nad yw’n dwyn ffrwyth da yn cael ei thorri i lawr a’i bwrw i’r tân.”(Mathew 7:19) Yn sicr, mi gaiff gau grefydd ei thorri i lawr a’i difa! Ond sut bydd hyn yn digwydd a phryd? Mae’r ateb i’w gael yn Llyfr y Datguddiad lle mae gweledigaeth broffwydol wedi’i chofnodi ym mhenodau 17 ac 18.

Beth fydd diwedd gau grefydd?

Dychmygwch yr olygfa — gwraig yn marchogaeth bwystfil arswydus. Mae gan y bwystfil saith ben a deg corn. (Datguddiad 17:1-4) Ond pwy yw’r wraig anfoesol hon? Mewn gwisg borffor, a chanddi arogldarth a chyfoeth mawr, mae hi’n dylanwadu “ar frenhinoedd y ddaear” ac yn twyllo’r “holl genhedloedd” drwy gyfrwng ei dewiniaeth. (Datguddiad 17:18; 18:12, 13,23) Gyda help y Beibl fe welwn mai cyfundrefn grefyddol fyd-eang yw’r butain a’i bod yn darlunio’r crefyddau hynny sy’n dwyn ffrwyth anweddus. Nid un grefydd mohoni.

Mae’r bwystfil ffigyrol mae’r butain yn ei farchogaeth yn cynrychioli grymoedd gwleidyddol y byd. * (Datguddiad 17:10-13) A hithau’n eistedd ar gefn y bwystfil gwleidyddol hwn, ceisia’r wraig ddylanwadu ar ei benderfyniadau a rheoli ei gyfeiriad.

Ond yn fuan, daw digwyddiad syfrdanol. “A’r deg corn a welaist, a’r bwystfil, byddant hwy’n casáu’r butain, ac yn ei gadael yn ddiffaith ac yn noeth. Bwytânt ei chnawd hi a’i llosgi’n ulw â thân.” (Datguddiad 17:16) Ag un symudiad ysgytwol mi fydd grymoedd gwleidyddol y byd yn ymosod ar gau grefydd a’i difa’n llwyr! Ond beth allai ysgogi’r fath weithred? Ateb Llyfr y Datguddiad yw: “Rhoddodd Duw yn eu calonnau gyflawni ei fwriad ef.” (Datguddiad 17:17) Bydd, mi fydd yn rhaid i gau grefydd ateb i Dduw am yr holl weithredoedd ffiaidd mae hi wedi’u cyflawni yn ei enw ef. Yn unol â’i gyfiawnder perffaith, mi fydd Duw yn defnyddio cariadon gwleidyddol y wraig hon fel arf i’w dinistrio.

Beth fedrwch chi’i wneud i osgoi bod yn rhan o dynged gau grefydd? “Dewch allan ohoni, fy mhobl,” yw anogaeth angel Duw. (Datguddiad 18:4) Yn wir, nawr yw’r amser i ffoi allan o gau grefydd! Ond ffoi i ble? Nid i gyfeiriad anffyddiaeth, gan mai llwm yw ei dyfodol hithau. (2 Thesaloniaid 1:6-9) Gwir grefydd yn unig sy’n cynnig noddfa. Sut medrwch chi nabod gwir grefydd?

Nabod gwir grefydd

Pa ffrwyth daionus ddylai gwir grefydd ei gynhyrchu?—Mathew 7:17.

Mae Gwir Grefydd yn...

RHOI CARIAD AR WAITH: Gan ‘nad ydynt yn perthyn i’r byd,’ ni cheir ymraniadau ar sail hil na diwylliant yng nghymdeithas gwir addolwyr. Dangos ‘cariad tuag at ei gilydd’ maen’ nhw. (Ioan 13:35; 17:16; Actau 10:34,35) Nid ydynt yn lladd neb, yn hytrach maent yn barod i farw y naill dros y llall.—1 Ioan 3:16.

YMDDIRIED YNG NGAIR DUW: Tra bod crefyddau’r byd yn rhoi pwyslais ar “draddodiad” ac yn dysgu “gorchmynion dynol fel athrawiaethau,” mae gwir grefydd yn gosod Gair Duw, Y Beibl, yn sail i’w chyfarwyddyd. (Mathew 15:6-9) Pam? Oherwydd fod “pob Ysgrythur wedi ei hysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol i hyfforddi, a cheryddu, a chywiro.”—2 Timotheus 3:16.

CADARNHAU TEULUOEDD A CHEFNOGI SAFONAU MOESOL UCHEL: Mae gwir grefydd yn annog y dylai “gwŷr garu eu gwragedd fel eu cyrff eu hunain,” y dylai’r wraig “barchu ei gŵr,” ac y dylai plant ‘ufuddhau i’w rhieni.’ (Effesiaid 5:28,33; 6:1) Yn ogystal, mae gofyn i’r rhai yr ymddiriedir iddyn’ nhw awdurdod a chyfrifoldeb sylweddol arddel safonau moesol o’r radd uchaf. —1 Timotheus 3:1-10.

Oes ‘na unrhyw grefydd yn ateb y disgwyliadau hyn? Mae’r llyfr Holocaust Politics, gyhoeddwyd yn 2001, yn dweud: “Petai rhagor o bobl yn ceisio dilyn y safonau mae Tystion Jehofah yn eu hargymell wrth bregethu, gellid bod wedi osgoi’r Holocaust, ac ni fyddai hil-laddiad yn bla yn y byd heddiw.”

Yn ogystal â phregethu egwyddorion moesol y Beibl mewn 235 gwlad, mae Tystion Jehofah yn ceisio byw yn ôl yr egwyddorion hynny. A gawn ni’ch annog i ofyn iddynt ddangos i chi beth yw gofynion Duw fel y medrwch ei addoli mewn ffordd dderbyniol. Dyma’r amser i weithredu. Peidiwch ag oedi. Mae diwedd gau grefydd yn agos!—Seffaneia 2:2,3.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am gynnwys Beiblaidd y neges mae Tystion Jehofah yn ei phregethu, gallwch gysylltu â nhw yn y cyfeiriad isod.

□ Heb ymrwymo i ddim, ‘rwy’n dymuno derbyn copi o’r llyfryn Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni?

□ Cysylltwch â mi os gwelwch yn dda ynglŷn ag astudio’r Beibl gartref yn rhad ac am ddim.

[Troednodyn]

^ Par. 17 Ceir sylwadau llawnach ar y pwnc hwn yn y llyfr Revelation—Its Grand Climax At Hand! a gyhoeddir gan Dystion Jehofah.

[Broliant ar dudalen 3]

Mae gau grefydd yn dylanwadu “ar frenhinoedd y ddaear”

[Broliant ar dudalen 3]

“Dewch allan ohoni, fy mhobl”