Y Mileniwm Newydd Beˈ Syˈ Gan y Dyfodol Iˈw Gynnig i Chi?
Newyddion y Deyrnas Rhif. 36
Y Mileniwm Newydd Beˈ Syˈ Gan y Dyfodol Iˈw Gynnig i Chi?
Y MILENIWM NEWYDD Gwawr Oes Newydd?
AM HANNER NOS Rhagfyr 31, 1999, daeth yr 20fed ganrif i ben. * Canrif o helbul maeˈn wir, ond hefyd canrif a roddodd gychwyn i dechnolegau newydd, datblygiadau dramatig ym myd meddygaeth, cynnydd ffrwydrol mewn gwybodaeth, ac ehangu chwim yn yr economi fyd-eang. Dim rhyfedd fod llawer wedi croesawuˈr mileniwm newydd aˈi addewid am fyd gwell heb ryfel, tlodi, llygredd, ac afiechyd.
Dymaˈr hyn mae pobl yn gobeithio amdano. Ond pa mor debygol ydi hi y dawˈr mileniwm newydd âˈr newidiadau fydd o les i chi—newidiadau fydd yn rhoi sicrwydd a diogelwch iˈch bywyd chi aˈch teulu? Ystyriwch am funud mor fawr ydi rhai oˈr problemau sydd oˈn blaen.
Llygredd
Maeˈr gwledydd diwydiannol yn “niweidio amgylchedd y byd, yn llygru pob man ac yn difetha ecosystemau.” Os aiff hyn ymlaen, “fe fydd yr amgylchedd naturiol dan fwy a mwy o straen.”—“Global Environment Outlook—2000,” Rhaglen Amgylchedd Y Cenhedloedd Unedig.
Salwch
“Fe all y flwyddyn 2020 weld afiechydon anheintus yn gyfrifol am saith allan o bob deg marwolaeth yn y gwledydd syˈn datblygu, oˈi gymharu â llai naˈr hanner heddiw.”—“The Global Burden of Disease,” Gwasg Prifysgol Harvard, 1996.
Yn ôl rhai arbenigwyr “mi fydd ˈna 66 miliwn yn llai o bobl (yn fyw) yn y 23 gwlad lle mae (AIDS) ar ei waethaf.”—“Confronting AIDS: Evidence from the Developing World,” adroddiad Comisiwn Ewrop a Banc y Byd.
Tlodi
“Mae bron i 1.3 biliwn o bobl yn byw ar lai nag un doler (U.D.) y dydd ac mae ˈnaˈn agos i 1 biliwn heb y maeth angenrheidiol i gadwˈn fyw.”—“Human Development Report 1999,” Rhaglen Ddatblygu gan Y Cenhedloedd Unedig.
Rhyfel
“Fe allai trais mewn (amryw o wledydd) gynydduˈn fwy nag erioed oˈr blaen a hollti cymdeithas yn ethnig, yn llwythol, ac yn grefyddol .... Dyma fydd patrwm cyffredin gwrthdaro yn y chwarter canrif nesaˈ ... gyda channoedd o filoedd o bobl yn cael eu lladd bob blwyddyn.”—“New World Coming: American Security in the 21st Century,” Comisiwn U.D. ar Ddiogelwch Cenedlaethol/21ain Ganrif.
Er gwaethaˈr holl ddathlu aˈr cyffro wrth groesawuˈr mileniwm newydd, y gwir ydi fod llygredd, salwch, tlodi, a rhyfel yn bygwth yn waeth nag erioed. ˈDyw holl ddylanwad ymchwil gwyddonol, technoleg, a gwleidyddiaeth ddim yn cyffwrdd hyd yn oed âˈr problemau hyn, gan mai o ffaeleddau dynol fel barusrwydd, diffyg ymddiried, a hunanoldeb maenˈ nhwˈn deillio.
Y Mileniwm Fydd Yn Dod  Bendithion Iˈr Teulu Dynol
DYMA sylwadau ysgrifennwr ganrifoedd pell yn ôl: “Gwn, O ARGLWYDD, nad eiddo dyn ei ffordd; ni pherthyn iˈr teithiwr drefnu ei gamre.” (Jeremeia 10:23) ˈDoes gan ddyn moˈr hawl naˈr gallu chwaith i lywodraethu dros y ddaear. Dim ond gan ein Gwneuthurwr, Jehofah Dduw maeˈr hawl i wneud hyn—fe syˈn gwybod ore beˈ sydd ei angen i ddatrys problemauˈr ddynoliaeth.—Rhufeiniaid 11:33-36; Datguddiad 4:11.
Ond pryd? A sut? Mae ˈna fwy na digon o dystiolaeth ein bod niˈn dod i ddiwedd “y dyddiau diwethaf.” Os gwelwch yn dda, agorwch eich Beibl, a darllen 2 Timotheus 3:1-5. Yno mae ˈna ddisgrifiad byw oˈr fath o bersonoliaeth y byddai pobl yn ei hamlygu yn ystod yr “amserau enbyd” hyn. Mae Mathew 24:3-14 a Luc 21:10,11 hefyd yn disgrifioˈr “dyddiau diwethaf.” Maenˈ nhwˈn tynnu sylw at bethau syˈ wedi digwydd ers 1914, pethau fel rhyfel byd, heintiau, a newyn ar raddfa eang.
Cyn bo hir fe ddawˈr “dyddiau diwethaf” i ben. Yn ôl Daniel 2:44, “bydd Duwˈr nefoedd yn sefydlu brenhiniaeth nas difethir byth, ... Bydd hon yn dryllio ac yn rhoi terfyn ar yr holl freniniaethau eraill, ond bydd hi ei hun yn para am byth.” Dyma ragfynegi y byddai Duw yn sefydlu Teyrnas, neu lywodraeth, dros y ddaear. Mae Datguddiad 20:4 yn dweud y bydd y llywodraeth hon yn llywodraethu am fil o flynyddoedd—mileniwm! Dyma sampl i chi oˈr amodau byw llesol a ddaw yn rhan o brofiad y ddynoliaeth yn ystod y Milflwyddiant gogoneddus hwn:
Economeg. “Byddant yn adeiladu tai ac yn byw ynddynt, yn plannu gwinllannoedd ac yn bwytaˈu ffrwyth; ni fydd neb yn adeiladu i arall gyfanheddu, nac yn plannu ac arall yn bwyta.”—Eseia 65:21,22.
Iechyd. “Yna fe agorir llygaid y deillion a chlustiauˈr byddariaid; fe lamaˈr cloff fel hydd, fe gân tafod y mudan.” “Ni ddywed neb oˈr preswylwyr, ˈ ˈRwyˈn glaf.ˈ”—Eseia 33:24; 35:5,6.
Yr Amgylchedd. Mae Duw am “ddinistrioˈr rhai syˈn dinistrioˈr ddaear.”—Datguddiad 11:18.
Perthynas Pobl âˈi Gilydd. “Ni wnânt ddrwg na difrod yn fy holl fynydd sanctaidd, ... llenwir y ddaear â gwybodaeth yr ARGLWYDD.”—Eseia 11:9
Mae gan filiynau ˈnawr ffydd yn yr addewidion hyn syˈn y Beibl ac maenˈ nhwˈn edrych iˈr dyfodol yn obeithiol ac yn hyderus. O ganlyniad, maenˈ nhwˈn medru ymdopiˈn well â phroblemau a phwysau byw bob dydd. Sut gall y Beibl fod yn arweiniad cadarn iˈch bywyd chi?
GWYBODAETH Syˈn Arwain i Fywyd!
MAE cynnydd disglair gwyddoniaeth a thechnoleg yn ein dallu ni weithiau! Ond, ar y cyfan, ˈdywˈr holl wybodaeth ˈma ddim wedi gwneud pobl yn fwy diogel na hapus. Yr unig wybodaeth fedr wneud hynny ydiˈr hyn mae Ioan 17:3 yn sôn amdano: “A hyn yw bywyd tragwyddol: dy adnabod di, yr unig wir Dduw, aˈr hwn a anfonaist ti, Iesu Grist.”
Mae tudalennauˈr Beibl yn llawn oˈr wybodaeth hon. Er fod gan lawer farn bendant ynglŷn âˈr llyfr cysegredig hwn, ychydig syˈ wediˈi archwilio feˈn bersonol. Beth amdanoch chi? Maeˈn wir fod darllen y Beibl yn golygu ymdrech. Ond maeˈn werth yr ymdrech. Y Beibl ydiˈr unig lyfr syˈ “wedi ei ysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol i hyfforddi, a cheryddu, a chywiro, a disgyblu mewn cyfiawnder.”—2 Timotheus 3:16.
I ddod yn fwy cyfarwydd âˈr Beibl fyddech chiˈn fodlon i Dystion Jehofah eich helpu chi? Maenˈ nhwˈn darparu cyfarwyddyd i filiynau o bobl yn y cartre, yn ddi-dâl. Mae ganddynˈ nhw amryw o gyhoeddiadau iˈch helpu syˈn seiliedig ar y Beibl, fel y llyfryn Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni? Ynddo mae ˈna atebion cryno i lawer oˈch cwestiynau chi am y Beibl, er enghraifft: Pwy yw Duw? Beth yw pwrpas Duw ar gyfer y ddaear? Beth yw Teyrnas Dduw? Sut gall y Beibl wellaˈch bywyd teuluol?
Os hoffech chi i un o Dystion Jehofah alw yn eich cartreˈ, llanwch y cwpon isod os gwelwch yn dda. Mi fyddanˈ nhwˈn falch cael rhoi rhagor o wybodaeth ichi am Deyrnasiad gogoneddus Mil Blynyddoedd Teyrnas Dduw!
□ Mi hoffwn i dderbyn y llyfryn Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni? Nodwch ym mha iaith
□ Cysylltwch â mi os gwelwch yn dda ynglŷn ag astudioˈr Beibl yn y cartreˈ yn ddi-dâl
[Troednodyn]
^ Par. 4 Dyma farn boblogaidd y Gorllewin am y mileniwm. A bod yn fanwl gywir, fydd y mileniwm newydd ddim yn dechrau tan Ionawr 1af, 2001.