Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

AR Y CLAWR | SUT I ELWA’N FWY O DDARLLEN Y BEIBL

Beth Fydd yn Gwneud Darllen y Beibl yn Ddiddorol?

Beth Fydd yn Gwneud Darllen y Beibl yn Ddiddorol?

Pan fyddwch chi’n darllen y Beibl, a fydd y profiad yn un diflas neu’n un diddorol? I raddau mawr, mae’n dibynnu ar sut rydych chi’n mynd ati. Dewch inni edrych ar beth y gallwch ei wneud i gael mwy o bleser o ddarllen y Beibl.

Dewiswch gyfieithiad dibynadwy, mewn iaith fodern. Os ydych chi’n darllen testun sy’n llawn geiriau anodd a hen ffasiwn, mae’n annhebyg y byddwch chi’n ei fwynhau. Felly chwiliwch am Feibl sy’n defnyddio iaith hawdd i’w deall a fydd yn cyffwrdd â’ch calon. Ond gwnewch yn siŵr ei fod hefyd yn gyfieithiad cywir. *

Defnyddiwch dechnoleg fodern. Heddiw mae’r Beibl ar gael, nid yn unig fel llyfr wedi ei argraffu, ond hefyd ar ffurf ddigidol. Gellir ei ddarllen ar y We neu ei lawrlwytho i’w ddarllen ar gyfrifiadur, ffôn symudol, neu ddyfais arall. Mae rhai fersiynau yn caniatáu ichi weld adnodau eraill ar yr un pwnc, neu i gymharu nifer o gyfieithiadau gwahanol. Os yw’n well gynnoch chi wrando yn hytrach na darllen, mae recordiadau o’r Beibl ar gael hefyd. Mae llawer o bobl yn mwynhau gwrando wrth deithio i’r gwaith, wrth wneud gwaith tŷ, neu bethau eraill sy’n caniatáu iddyn nhw wrando. Rhowch gynnig ar rywbeth sy’n apelio atoch chi.

Defnyddiwch adnoddau astudio. Byddwch chi’n cael mwy allan o ddarllen y Beibl drwy ddefnyddio adnoddau astudio. Bydd mapiau o wledydd yn y Beibl yn eich helpu chi i wybod lle digwyddodd yr hanesion yn y Beibl a deall y cyd-destun. Bydd erthyglau fel y rhai yn y cylchgrawn hwn, neu yn yr adran “Dysgeidiaethau’r Beibl” ar jw.org yn eich helpu chi i ddeall llawer o’r Beibl yn well.

Defnyddiwch ddulliau gwahanol. Os ydy darllen y Beibl o glawr i glawr yn ormod o dasg, beth am gychwyn gyda darn sy’n apelio’n arbennig atoch chi? Os ydych chi eisiau dysgu am bobl enwog yn y Beibl, gallwch ddarllen y rhannau hynny o’r Beibl lle mae sôn amdanyn nhw. Fe welwch chi enghraifft o hyn yn y blwch “ Adnabod y Beibl Drwy Adnabod y Bobl.” Neu efallai byddwch chi eisiau darllen y Beibl fesul thema neu yn nhrefn gronolegol y digwyddiadau. Beth am roi cynnig ar un o’r dulliau hyn?

^ Par. 4 Mae llawer yn teimlo bod y New World Translation of the Holy Scriptures yn gyfieithiad cywir, dibynadwy, ac yn hawdd ei ddarllen. Mae’r Beibl hwn, sydd wedi ei gynhyrchu gan Dystion Jehofa, ar gael mewn mwy na 160 o ieithoedd. Gellir lawrlwytho copi o’r wefan jw.org neu lawrlwytho’r ap JW Library. Neu os hoffech chi gael fersiwn printiedig, bydd Tystion Jehofa yn hapus i anfon copi i’ch cartref.

^ Par. 47 Ar gael mewn nifer o ieithoedd

^ Par. 48 Ar gael mewn nifer o ieithoedd

^ Par. 49 Ar gael mewn nifer o ieithoedd