A Fydd Pobl yn Dioddef am Byth?
Beth fyddech chi’n ei ddweud?
-
Byddan?
-
Na fyddan?
-
Efallai?
MAE’R BEIBL YN DWEUD:
“Bydd [Duw] yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen.”—Datguddiad 21:4, beibl.net.
MAE HYNNY’N GOLYGU
Gallwn fod yn sicr nad Duw sy’n achosi ein problemau.—Iago 1:13.
Gallwn fod yn hyderus bod Duw yn deall ac yn cydymdeimlo’n llwyr.—Sechareia 2:8.
Gallwn fod yn ffyddiog y bydd dioddefaint yn dod i ben.—Salm 37:9-11.
OND ALLWN NI GREDU BETH MAE’R BEIBL YN EI DDWEUD?
Gallwn, am o leiaf ddau reswm:
-
Mae Duw yn casáu dioddefaint ac anghyfiawnder. Ystyriwch sut roedd Jehofa Dduw yn teimlo pan gafodd ei bobl eu cam-drin yn greulon yn y gorffennol. Mae’r Beibl yn dweud ei fod “yn teimlo drostyn nhw.”—Barnwyr 2:18.
Mae Duw yn casáu creulondeb. Er enghraifft, mae’r Beibl yn dweud bod “dwylo sy’n tywallt gwaed pobl ddiniwed” yn ffiaidd ganddo.—Diarhebion 6:16, 17.
-
Mae Duw yn ein caru ni fel unigolion. Mae pob unigolyn yn “ymwybodol o’i glwy ei hun a’i boen,” ond mae Jehofa yn ymwybodol o’r poenau hynny hefyd!—2 Cronicl 6:29, 30, Beibl Cymraeg Diwygiedig.
Yn fuan iawn, bydd dioddefaint a phoen yn cael eu dileu gan Deyrnas Dduw. (Mathew 6:9, 10) Yn y cyfamser, mae Jehofa yn cefnogi ac yn cysuro pawb sy’n troi ato.—Actau 17:27; 2 Corinthiaid 1:3, 4.
CWESTIWN I FEDDWL AMDANO
Pam mae Duw yn gadael i bobl ddioddef?
Mae’r Beibl yn ateb y cwestiwn hwnnw yn RHUFEINIAID 5:12 ac yn 2 PEDR 3:9.