A Fydd y Meirw yn Cael Byw Eto?
Beth fyddech chi’n ei ddweud?
-
Byddan?
-
Na fyddan?
-
Efallai?
MAE’R BEIBL YN DWEUD:
“Bydd atgyfodiad y meirw.”—Actau 24:15, Y Beibl Cysegr-lân.
MAE HYNNY’N GOLYGU
Ein bod ni’n cael cysur pan fydd anwyliaid yn marw.—2 Corinthiaid 1:3, 4.
Na fydd ofn marw yn ein llethu ni.—Hebreaid 2:15.
Bod gynnon ni obaith sicr o weld ein hanwyliaid eto.—Ioan 5:28, 29.
OND ALLWN NI GREDU BETH MAE’R BEIBL YN EI DDWEUD?
Gallwn, am o leiaf dri rheswm:
-
Duw yw Creawdwr bywyd. Mae’r Beibl yn dweud mai Jehofa yw ffynnon bywyd. (Salm 36:9; Actau 17:24, 25) Heb os, mae’r un a roddodd fywyd i bob peth byw yn y lle cyntaf, yn gallu rhoi bywyd yn ôl i rywun sydd wedi marw.
-
Mae Duw wedi atgyfodi pobl yn y gorffennol. Mae’r Beibl yn sôn am wyth o bobl a gafodd eu hatgyfodi, yn cynnwys rhai hen ac ifanc, dynion a merched. Roedd rhai ohonyn nhw newydd farw pan gawson nhw eu hatgyfodi ond roedd un wedi bod yn y bedd am bedwar diwrnod!—Ioan 11:39-44.
-
Mae Duw yn awyddus i wneud yr un peth yn y dyfodol. Gelyn y mae Jehofa yn ei gasáu yw marwolaeth. (1 Corinthiaid 15:26) Y mae’n benderfynol o drechu’r gelyn cas hwnnw. Trwy’r atgyfodiad, fe fydd yn cael gwared ar farwolaeth. Mae Duw yn hiraethu am bawb sydd yn ei gof ac mae’n awyddus i’w gweld nhw yn fyw ar y ddaear unwaith eto.—Job 14:14, 15.
CWESTIWN I FEDDWL AMDANO
Pam rydyn ni’n mynd yn hen ac yn marw?
Mae’r Beibl yn ateb y cwestiwn hwnnw yn GENESIS 3:17-19 ac yn RHUFEINIAID 5:12.