Pwy Sy’n Rheoli’r Byd?
Beth fyddech chi’n ei ddweud?
-
Duw?
-
Dynolryw?
-
Rhywun arall?
MAE’R BEIBL YN DWEUD:
“Mae’r byd o’n cwmpas ni yn cael ei reoli gan yr un drwg.”—1 Ioan 5:19, beibl.net.
“Y rheswm pam ddaeth Mab Duw. . . oedd i ddinistrio gwaith y diafol.”—1 Ioan 3:8.
MAE HYNNY’N GOLYGU
Bod modd esbonio cyflwr y byd.—Datguddiad 12:12.
Bod rheswm dros gredu y bydd y byd yn newid er gwell.—1 Ioan 2:17.
OND ALLWN NI GREDU BETH MAE’R BEIBL YN EI DDWEUD?
Gallwn, am o leiaf dri rheswm:
-
Mae rheolaeth Satan yn sicr o ddod i ben. Mae Jehofa wedi penderfynu y bydd rheolaeth Satan dros y byd yn dod i ben. Mae Duw yn addo y bydd yn ‘dwyn y grym oddi ar . . . y diafol,’ ac yn dadwneud yr holl ddrwg y mae Satan wedi ei achosi.—Hebreaid 2:14.
-
Mae Duw wedi dewis Iesu Grist i reoli’r byd. Mae Iesu yn hollol wahanol i reolwr presennol y byd. Mae Satan yn greulon a hunanol, ond mae Duw yn addo y bydd Iesu yn Frenin a fydd yn “gofalu am y gwan a’r anghenus” ac yn “eu rhyddhau nhw o afael gormes a thrais.”—Salm 72:13, 14.
-
Ni all Duw ddweud celwydd. Mae’r Beibl yn dweud yn glir “ei bod yn amhosib i Dduw ddweud celwydd.” (Hebreaid 6:18) Pan fydd Jehofa yn addo gwneud rhywbeth, y mae fel petai eisoes wedi ei wneud! (Eseia 55:10, 11) “Bydd Satan, tywysog y byd hwn, yn cael ei daflu allan.”—Ioan 12:31.
CWESTIWN I FEDDWL AMDANO
Sut bydd pethau ar y byd ar ôl cael gwared ar ei reolwr, Satan?
Mae’r Beibl yn ateb y cwestiwn hwnnw yn SALM 37:10, 11 ac yn DATGUDDIAD 21:3, 4.