Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Rwyt Ti Gyda Mi

Rwyt Ti Gyda Mi

Lawrlwytho:

  1. 1. Ar goll mewn byd o frad,

    Rwyf ar fy mhen fy hun,

    Heb gyfaill i’m cysuro,

    Tor-calon yw fy unig ffrind.

    Pwy all dawelu cur

    Ac ing f’unigrwydd i?

    Ar bwy y caf fi erfyn?

    A phwy a glyw f’angerddol gri?

    (CYTGAN)

    Ble bynnag ’r af,

    Ble bynnag rwyf,

    Beth bynnag ddaw,

    Wrth f’ymyl rwyt.

    Jehofa, ti

    Sydd gyda mi

    Drwy’r hyn a fydd,

    Drwy’r hyn a fu.

    Pob eiliad, awr, a dydd,

    Rwyt ti gyda mi.

  2. 2. Beth bynnag gollaf fi

    Wrth lynu wrthyt ti,

    Dy gariad fydd amdanaf

    A byth wnei di fy ngadael i.

    Rwyt ti o hyd gerllaw,

    Rwyt yma gyda mi,

    Fy Nuw, ti yw fy ngobaith,

    Fy nghyfaill calon ydwyt ti.

    (CYTGAN)

    Ble bynnag ’r af,

    Ble bynnag rwyf,

    Beth bynnag ddaw,

    Wrth f’ymyl rwyt.

    Jehofa, ti

    Sydd gyda mi

    Drwy’r hyn a fydd,

    Drwy’r hyn a fu.

    Pob eiliad, awr, a dydd,

    Rwyt ti gyda mi.

    Ble bynnag rwyf,

    Beth bynnag ddaw,

    Wrth f’ymyl rwyt.

    Jehofa, ti

    Sydd gyda mi

    Drwy’r hyn a fydd,

    Drwy’r hyn a fu.

    Pob eiliad, awr, a dydd,

    Rwyt ti gyda mi.