Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Un Dydd ar y Tro

Un Dydd ar y Tro

Lawrlwytho:

  1. 1. Dwi’n gwybod y bydd Teyrnas Dduw yn hebrwng newydd fyd.

    Dwi’n credu cawn ni fywyd gwell, a hynny cyn bo hir.

    Ond tyfu mae fy mhryder i,

    Ac yn fy nghalon cynnwrf sydd.

    Dwi’n trio ’ngore, ar fy ngwir,

    Dwi’n bell o weld fy ffordd yn glir.

    Ond Jehofa sydd gerllaw.

    (CYTGAN)

    Felly, trof yn syth, trof syth bin,

    Yr eiliad daw’r ofn drosof fi,

    Ato trof â’m pryder i.

    Wrth fwrw ’mol, ei heddwch gaf.

    O’i Air y caf ei gysur,

    A chaf gymorth ffrindiau da.

    Heb bryderu am ddoe, na fory chwaith,

    Dwi’n byw bob dydd yn ei dro,

    Gadael fory tan fore fory,

    Daw fy wên yn ôl,

    Un dydd ar y tro.

  2. 2. Hawdd yw dweud y geiriau hyn,

    Ond anodd yw eu gwneud.

    Mae’n cymryd sbel i’w rhoi ar waith,

    A ffeindio ffrindiau ffeind,

    A chanolbwyntio ar yr hyn

    Sydd gennym, nid ar beth sy’n brin,

    Ar gariad Crist, ar gariad Duw,

    Ar bopeth sy’n dda yn dy fyw.

    A hapusrwydd eto ddaw.

    (CYTGAN)

    Trown yn syth, trown syth bin,

    Yr eiliad daw’r ofn droson ni,

    Ato trown â’n pryder ni.

    Wrth fwrw’n bol, ei heddwch gawn.

    O’i Air y cawn ei gysur,

    A chawn ffrind i ddal ein llaw.

    Heb bryderu am ddoe, na fory chwaith,

    Rhaid byw bob dydd yn ei dro,

    Gad yfory tan fore fory,

    Daw dy wên yn ôl,

    Un dydd ar y tro.

    (CYTGAN)

    Trown yn syth, trown syth bin,

    Yr eiliad daw’r ofn droson ni,

    Ato trown â’n pryder ni.

    Wrth fwrw’n bol, ei heddwch gawn.

    O’i Air y cawn ei gysur,

    A chawn ffrind i ddal ein llaw.

    Heb bryderu am ddoe, na fory chwaith,

    Rhaid byw bob dydd yn ei dro,

    Gad yfory tan fore fory,

    Daw dy wên yn ôl,

    Un dydd ar y tro—

    Un dydd ar y tro.