Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Ein Llawenydd Tragwyddol

Ein Llawenydd Tragwyddol

(Salm 16:11)

Lawrlwytho:

  1. 1. Gwefreiddiol yn y befriol nos

    Yw gemwaith y nen.

    Addurniad coeth i’r lleuad dlos

    Yw’r crefftwaith uwchben.

    Fe ffurfiaist, â dy ddwylo di,

    Ffurfafen, tir, a môr i ni—

    A llon oeddet ti.

    (CYTGAN)

    Mae llawenydd yn ein gobaith,

    Yn hyfrydwch creadigaeth,

    Ac yn ein calonnau ni.

    Ond dy gariad di yw’r trysor

    Sydd yn rhoi llawenydd cyson.

    Heddiw, a hyd byth, tydi

    Yw ein llawenydd ni.

  2. 2. Pob peraidd gân a llachar liw,

    Pob teimlad a sawr,

    O’th gariad, i’n sirioli ni,

    Agoraist dy law.

    A thragwyddoldeb roddaist ti

    Yn anian ein calonnau ni—

    A llon ydym ni.

    (CYTGAN)

    Mae llawenydd yn ein gobaith,

    Yn hyfrydwch creadigaeth,

    Ac yn ein calonnau ni.

    Ond dy gariad di yw’r trysor

    Sydd yn rhoi llawenydd cyson.

    Heddiw, a hyd byth, tydi

    Yw ein llawenydd ni.

    (PONT)

    Ei berffaith fywyd rodd dy Fab—

    Hyd byth, llawenhawn!

    Yn ddrudfawr talodd dros y byd—

    Llawenydd tragwyddol a gawn!

    (CYTGAN)

    Mae llawenydd yn ein gobaith,

    Yn hyfrydwch creadigaeth,

    Ac yn ein calonnau ni.

    Ond dy gariad di yw’r trysor

    Sydd yn rhoi llawenydd cyson.

    Heddiw, a hyd byth, tydi

    Yw ein llawenydd ni.

    (CYTGAN)

    Mae llawenydd yn ein gobaith,

    Yn hyfrydwch creadigaeth,

    Ac yn ein calonnau ni.

    Ond dy gariad di yw’r trysor

    Sydd yn rhoi llawenydd cyson.

    Heddiw, a hyd byth, tydi

    Yw ein llawenydd ni.

(Gweler hefyd Salm 37:4; 1 Cor. 15:28.)