Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Jehofa Sy’ Gyda Mi

Jehofa Sy’ Gyda Mi

Lawrlwytho:

  1. 1. Wrth godi yn barod ar gyfer y dydd,

    Gweddïaf am ddewrder cyn gadael y tŷ.

    Ac er gwaetha’r gwaharddiad sydd ar fy ffydd,

    Duw yw fy Llyw yn hytrach na dyn.

    (CYTGAN)

    A dyma chwa’n chwythu’n dawel ag awel o hedd i mi.

    Pwy ddylwn ofni? Jehofa sy’ gyda mi.

    Pwy ddylwn ofni? Jehofa sy’ gyda mi.

  2. 2. Ac adre yr âf a meddwl dros y dydd,

    A’r boi ar y fainc, ei bryder, ei brudd.

    Pe bai ganddo y gwir . . . pe bai . . . pe bai . . .

    Ac felly gweddïaf i ddyfalbarhau.

    (CYTGAN)

    A dyma chwa’n chwythu’n dawel ag awel o hedd i mi.

    Pwy ddylwn ofni? Jehofa sy’ gyda mi.

    Pam dylwn ofni? Jehofa sy’ gyda mi.

    (PONT)

    Mae ’na rywbeth yn fy nghalon fel tân,

    Yn brwydro yn frwd, ffrwydro fel fflam.

    Fedra i ddim ymatal rhag sôn

    Am enw Jehofa, na’i gadw dan glo.

    Ysgwydd yn ysgwydd â’m brodyr drwy’r byd,

    Yn sefyll ein tir, cadarn ein ffydd.

    Trystio Jehofa, ymddiried yn llwyr,

    Ffyddiog na fydd ei Deyrnas yn hwyr.

  3. 3. Wrth ei throi hi dwi’n diolch i fy Nuw.

    Ef yw fy ngolau, f’achubwr, fy Llyw.

    Ac yfory? Be’ ddaw? Pwy â ŵyr?

    Ond bydd Duw gyda mi—Sicr yr wyf.

    (CYTGAN)

    A dyma chwa’n chwythu’n dawelag awel o hedd i mi.

    Pwy ddylwn ofni? Jehofa sy’ gyda mi.

    Pam dylwn ofni? Jehofa sy’ gyda mi.