Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Ni Fydd yn Hwyr! (Cân y Gynhadledd 2023)

Ni Fydd yn Hwyr! (Cân y Gynhadledd 2023)

(Habacuc 2:3)

Lawrlwytho:

  1. 1. Gwaith dy ddwylo di sy’n ein llonni ni.

    Cysurlon i ni yw grym d’amynedd di.

    Er cynddrwg yw’r byd, cyson wyt o hyd

    Wrth ddisgwyl bob dydd am gael ail-greu dy fyd.

    (CYTGAN)

    Hiraeth sydd arnon ni am dy Baradwys di.

    Dangos amynedd yr wyt.

    Heb os nac oni bai, gwyddon ni yn ddiau,

    Heb oedi, ni fydd dy ddydd

    R’un eiliad yn hwyr!

  2. 2. Rwyt ti yn dyheu am i’th ffrindiau lu

    Ddihuno o’u cwsg— Hiraethus wyt fel ni.

    Trugarha! O Dduw! Clyw ein heiriol gri:

    Plîs rho nerth a grym d’amynedd ynon ni!

    (CYTGAN)

    Hiraeth sydd arnon ni am dy Baradwys di.

    Dangos amynedd yr wyt.

    Heb os nac oni bai, gwyddon ni yn ddiau,

    Heb oedi, ni fydd dy ddydd

    R’un eiliad yn hwyr!

  3. 3. Chwilio rwyt o hyd am galonnau glân.

    Dal ati yr wyt i adfer defaid gwan.

    Yn dy gwmni di, gweithiwn law yn llaw,

    Yn nes daw dy ddydd, ac atat ti nesawn.

    (CYTGAN)

    Hiraeth sydd arnon ni am dy Baradwys di.

    Dangos amynedd yr wyt.

    Heb os nac oni bai, gwyddon ni yn ddiau,

    Heb oedi, ni fydd dy ddydd

    R’un eiliad yn hwyr!

    Ni fydd dy ddydd di yn hwyr!

(Gweler hefyd Col. 1:11.)