Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Pam Mae Angen Gobaith?

Pam Mae Angen Gobaith?

Pam Mae Angen Gobaith?

BETH petai Daniel, y bachgen gyda chanser y mae sôn amdano yn yr erthygl flaenorol, wedi medru aros yn obeithiol? A fyddai wedi trechu ei ganser? A fyddai’n fyw heddiw? Mae’n debyg na fyddai hyd yn oed y rhai sydd yn credu’n gryf bod gobaith yn gwneud lles yn mynd mor bell â hynny. Ac mae hwn yn bwynt pwysig. Ddylen ni ddim meddwl mai ffisig at bob clwyf yw gobaith.

Mewn cyfweliad â CBS News, rhybuddiodd Dr. Nathan Cherney y gall gorbwysleisio effaith gobaith fod yn beryglus wrth drin cleifion sy’n wael iawn. Dywedodd: “Rydyn ni wedi gweld gwŷr yn dweud y drefn wrth eu gwragedd am beidio â myfyrio digon neu am fethu meddwl yn ddigon positif.” Ychwanegodd Dr. Cherney: “Mae’r meddylfryd hwn wedi creu’r gamargraff bod modd rheoli’r salwch, ond wedyn pan fydd cleifion yn gwaethygu, y neges yw eu bod nhw wedi methu gwneud digon i reoli’r canser, a dydy hynny ddim yn deg.”

Y gwir yw, mai brwydr anodd a blinedig yw ymdopi â salwch terfynol. Ni fyddai neb am ychwanegu at faich trwm anwylyn drwy wneud iddo deimlo’n euog. Felly, a ddylen ni ddod i’r casgliad nad oes unrhyw werth i obaith?

Dim o gwbl. Mae Dr. Cherney yn arbenigo mewn gofal lliniarol, sy’n canolbwyntio, nid ar ymladd yn erbyn y salwch neu hyd yn oed ar ymestyn oes, ond ar sicrhau bod bywyd y claf mor gyfforddus â phosib tan y diwedd. Mae meddygon yn y maes hwn yn credu’n gryf bod triniaethau sy’n helpu pobl i deimlo’n hapusach yn werthfawr, hyd yn oed i gleifion sâl iawn. Mae tystiolaeth yn dangos bod gobaith yn gwneud hynny—a llawer mwy.

Gwerth Gobaith

“Mae gobaith yn therapi effeithiol,” meddai’r newyddiadurwr meddygol, Dr. W. Gifford-Jones. Edrychodd ef ar nifer o astudiaethau a gynhaliwyd i asesu gwerth y gefnogaeth emosiynol a roddwyd i gleifion terfynol wael. Y dybiaeth yw bod cefnogaeth o’r fath yn helpu pobl i gadw agwedd fwy positif. Yn ôl un astudiaeth ym 1989, roedd cleifion oedd yn derbyn y gefnogaeth hon yn byw’n hirach, ond mae ymchwil mwy diweddar yn llai pendant. Sut bynnag, mae astudiaethau wedi cadarnhau bod cleifion sy’n derbyn cefnogaeth emosiynol yn cael llai o iselder a llai o boen na’r rhai sydd heb gael y gefnogaeth honno.

Ystyriwch astudiaeth arall a oedd yn canolbwyntio ar effaith optimistiaeth a phesimistiaeth ar gleifion sydd â chlefyd y galon (CHD). Cafodd grŵp o fwy na 1,300 o ddynion eu hasesu i weld pa mor optimistaidd oedden nhw. Dangosodd astudiaeth ddilynol, ddeng mlynedd yn ddiweddarach, fod mwy na 12 y cant o’r dynion wedi dioddef o CHD mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. O fewn y grŵp hwn, roedd bron dau draean yn bobl besimistaidd. Dywed Laura Kubzansky, darlithydd ym maes iechyd ac ymddygiad cymdeithasol yn Ysgol Iechyd Cyhoeddus Harvard: “Mae’r rhan fwyaf o’r dystiolaeth sy’n awgrymu bod ‘meddwl yn bositif’ yn dda i’ch iechyd, wedi ei seilio ar adroddiadau anecdotaidd. Ond mae’r astudiaeth hon yn cynnig y dystiolaeth feddygol gadarn gyntaf o blaid y syniad ym maes clefyd y galon.”

Mae rhai astudiaethau wedi darganfod bod pobl sy’n credu bod eu hiechyd yn wael yn gwneud yn waeth ar ôl llawdriniaeth na’r rhai sy’n credu bod eu hiechyd yn dda. Gwelir hefyd bod cysylltiad rhwng optimistiaeth a hir oes. Edrychodd un astudiaeth ar y ffordd mae agweddau positif a negyddol tuag at heneiddio yn effeithio ar bobl mewn oed. Ar ôl gweld negeseuon yn gwibio heibio a oedd yn cysylltu heneiddio â doethineb a phrofiad, roedd pobl hŷn i’w gweld yn cerdded yn fwy sionc. Yn wir, roedd y canlyniadau cystal â gwneud ymarfer corff am 12 wythnos!

Pam mae pethau fel gobaith, optimistiaeth, ac agwedd gadarnhaol yn gwneud gwahaniaeth i’n hiechyd? Efallai nad yw gwyddonwyr a meddygon yn deall y corff a’r meddwl yn ddigon da i roi ateb pendant i’r cwestiwn hwnnw ar hyn o bryd. Eto, mae arbenigwyr yn y maes yn gallu dyfalu ar sail profiad. Er enghraifft, mae darlithydd ym maes niwroleg yn awgrymu: “Peth da yw bod yn hapus ac yn obeithiol. Mae’n deimlad braf sydd ddim yn achosi straen fawr, ac mae’r corff yn gwneud yn well mewn amgylchiadau o’r fath. Dyma rywbeth arall y gall pobl ei wneud i geisio aros yn iach.”

Efallai bydd rhai meddygon, seicolegwyr a gwyddonwyr yn gweld y syniad hwn yn un arloesol, ond nid yw’n newydd i’r rhai sy’n gyfarwydd â’r Beibl. Tua 3,000 o flynyddoedd yn ôl, cafodd y Brenin Solomon ei ysbrydoli i ysgrifennu: “Calon lawen a wna les fel meddyginiaeth: ond meddwl trwm a sych yr esgyrn.” (Diarhebion 17:22, Y Beibl Cysegr-lân) Sylwch ar y cydbwysedd yn yr adnod hon. Nid yw’n dweud y bydd llawenydd yn gwella pob salwch, ond bod llawenydd yn gwneud lles.

Yn wir, petai gobaith yn feddyginiaeth, oni fyddai pob meddyg yn ei roi i’w gleifion? Ond mae gan obaith fanteision sy’n ymestyn yn bell y tu hwnt i faes iechyd.

Optimistiaeth, Pesimistiaeth, a’ch Bywyd Chi

Mae ymchwilwyr wedi darganfod bod agwedd bositif yn help mawr i bobl optimistaidd. Maen nhw’n tueddu i wneud yn well yn yr ysgol, yn y gwaith, a hyd yn oed ym myd y campau. Er enghraifft, ar gyfer un astudiaeth, fe wnaeth hyfforddwyr asesu galluoedd athletaidd y merched mewn tîm trac a maes. Ar yr un pryd, cafodd lefel gobaith y merched ei asesu. O ran rhagweld eu perfformiad, roedd lefel gobaith y merched yn llawer mwy dibynadwy na holl ystadegau’r hyfforddwyr. Pam mae gobaith mor ddylanwadol?

Rydyn ni wedi dysgu llawer trwy astudio pesimistiaeth hefyd. Yn ystod y 1960au, yn sgil canlyniadau annisgwyl i arbrofion ynglŷn ag ymddygiad anifeiliaid, bathodd ymchwilwyr yr ymadrodd “dysgu bod yn ddiymadferth.” Mae hyn yn gallu effeithio ar bobl hefyd. Er enghraifft, mewn cyfres o arbrofion, dywedodd ymchwilwyr wrth y bobl oedd yn cymryd rhan eu bod nhw’n gallu rhoi taw ar sŵn ofnadwy drwy bwyso botymau mewn trefn arbennig. Llwyddon nhw i stopio’r sŵn.

Cafodd grŵp arall yr un wybodaeth ond y tro hwn, nid oedd y botymau’n gweithio. Fel y gallwch ddychmygu, dechreuodd llawer yn yr ail grŵp deimlo’n ddiymadferth. Mewn profion eraill yn nes ymlaen, roedden nhw’n gyndyn i gymryd unrhyw gamau i geisio datrys y broblem, gan gredu na fyddai’n gwneud unrhyw wahaniaeth. Ond hyd yn oed yn yr ail grŵp, roedd y bobl optimistaidd yn gwrthod rhoi’r gorau i’r dasg.

Roedd Dr. Martin Seligman yn un o’r tîm a greodd rhai o’r arbrofion cynnar hynny, ac aeth ymlaen i ddilyn gyrfa yn astudio optimistiaeth a phesimistiaeth. Astudiodd feddylfryd pobl sy’n dueddol o deimlo eu bod nhw’n ddiymadferth. Ei gasgliad oedd bod meddylfryd pesimistaidd yn gallu rhwystro pobl yn eu bywydau, neu hyd yn oed yn gallu eu parlysu. Mae Seligman yn crynhoi effeithiau meddyliau negyddol fel hyn: “Mae pobl besimistaidd yn credu mai nhw sydd ar fai am y pethau drwg sy’n digwydd iddyn nhw a bod y pethau drwg yn parhau i ddigwydd ni waeth beth maen nhw’n ei wneud. Ar ôl astudio’r maes am 25 o flynyddoedd, rydw i wedi dod i’r casgliad bod y bobl hyn yn cael mwy o helyntion na’r rhai sy’n credu fel arall.”

Efallai bydd casgliadau fel hyn yn newydd i rai heddiw, ond maen nhw’n gyfarwydd i’r rhai sy’n astudio’r Beibl. Sylwch ar y ddihareb hon: “Os torri dy galon yn nydd cyfyngder, yna y mae dy nerth yn wan.” (Diarhebion 24:10, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Mae’r Beibl yn esbonio’n glir bod digalondid a meddyliau negyddol yn gwneud i ni golli nerth. Felly, beth allwch chi ei wneud i ymladd yn erbyn pesimistiaeth a dod â mwy o optimistiaeth a gobaith i’ch bywyd?

[Llun]

Gall gobaith wneud byd o les