Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gallwch Ymladd yn Erbyn Pesimistiaeth

Gallwch Ymladd yn Erbyn Pesimistiaeth

Gallwch Ymladd yn Erbyn Pesimistiaeth

SUT rydych chi’n teimlo am y siomedigaethau yn eich bywyd? Mae llawer o arbenigwyr yn meddwl bod yr ateb i’r cwestiwn hwn yn datgelu a ydych chi’n optimistaidd neu’n besimistaidd. Rydyn ni i gyd yn cael anawsterau, rhai yn fwy nag eraill. Felly, pam mae rhai pobl yn codi yn ôl ar eu traed, yn barod i roi cynnig arall arni, tra bod eraill, sy’n wynebu problemau llai difrifol, yn rhoi’r gorau iddi?

Er enghraifft, dychmygwch eich bod chi’n chwilio am swydd. Rydych yn mynd i’r cyfweliad ond yn cael eich gwrthod. Sut rydych chi’n teimlo am fethu cael y swydd? Efallai byddwch chi’n dechrau credu mai chi ydy’r broblem, a dweud ‘Fydd neb yn cyflogi rhywun fel fi. Fydda’ i byth yn cael swydd.’ Neu, yn waeth byth, gallech chi adael i’ch siom effeithio ar eich agwedd tuag at bob rhan o’ch bywyd, gan feddwl, ‘Dw i’n fethiant llwyr. Yn dda i ddim.’ Dyma’r math o feddyliau sy’n llethu pobl besimistaidd.

Brwydro yn Erbyn Pesimistiaeth

Sut gallwch chi ymladd yn ôl? Y cam pwysig cyntaf yw dysgu adnabod meddyliau negyddol. Y cam nesaf yw ymladd yn eu herbyn. Chwiliwch am esboniadau rhesymol eraill. Er enghraifft, ydy hi’n wir i chi fethu cael y swydd oherwydd nad ydych chi’n ddigon da i gael unrhyw swydd? Neu ydy hi’n bosib bod y cyflogwr yn chwilio am rywun oedd â chymwysterau gwahanol?

Trwy edrych ar ffeithiau penodol, fe welwch chi nad yw eich meddyliau pesimistaidd yn ddilys. A ydy cael eich gwrthod ar un achlysur yn golygu eich bod chi’n fethiant llwyr? Neu a allwch chi feddwl am rannau eraill o’ch bywyd lle rydych chi’n llwyddo—yn eich bywyd ysbrydol, er enghraifft, neu yn eich bywyd teuluol neu gymdeithasol? Dysgwch beidio â meddwl y bydd popeth a wnewch yn drychineb. Wedi’r cwbl, mae’n amhosib ichi wybod na fyddwch chi byth yn cael swydd. Mae mwy y gallwch ei wneud i wrthod meddyliau negyddol.

Byddwch yn Bositif am Beth y Gallwch ei Wneud

Yn ddiweddar, mae ymchwilwyr wedi creu diffiniad diddorol, os braidd yn gul, o beth yw gobaith. Maen nhw’n diffinio gobaith fel y gred y gallwch gyrraedd y nod. Bydd yr erthygl nesaf yn esbonio bod mwy i obaith na hynny, ond mae’r diffiniad hwn yn ddefnyddiol mewn sawl ffordd. Mae’n gallu ein helpu ni i fod yn fwy positif am y pethau y gallwn ni eu gwneud.

Er mwyn credu bod cyrraedd y nod yn bosib, mae angen gosod a chyrraedd amcanion symlach. Os ydych chi’n teimlo nad ydych chi erioed wedi cyrraedd nod, mae’n debyg y byddai’n werth ichi feddwl am y math o amcanion rydych chi yn eu gosod. Yn gyntaf, ydych chi erioed wedi gosod nod? Mae bywyd mor brysur, hawdd yw anghofio meddwl am beth sydd o wir bwys inni. Mae’r Beibl yn ein helpu yn hyn o beth, gan ddweud: “Dw i eisiau i chi ddewis y peth gorau i’w wneud bob amser.”—Philipiaid 1:10.

Ar ôl penderfynu beth sydd o bwys inni, fe fydd hi’n haws i ni osod amcanion yn ein bywyd ysbrydol, ein bywyd teuluol ac yn ein bywyd yn gyffredinol. Mae’n bwysig inni beidio â gosod gormod o amcanion, a dewis rhai sy’n weddol hawdd eu cyrraedd. Os dewiswn nod sy’n rhy uchelgeisiol, efallai byddwn ni’n digalonni ac yn rhoi’r gorau iddi. Gan amlach, peth da yw rhannu amcanion mawr, hirdymor, yn rhai llai, tymor byr.

“Ceffyl da yw ewyllys” meddai’r hen ddihareb, ac mae rhywfaint o wirionedd yn hynny. Ar ôl penderfynu beth yw ein hamcanion, mae angen yr ewyllys​—sef yr awydd a’r penderfyniad​—i’w cyrraedd. Pan feddyliwn ni am y wobr a gawn o gyrraedd y nod, byddwn ni hyd yn oed yn fwy penderfynol. Wrth gwrs, bydd problemau’n codi, ond pethau i’w goresgyn ydyn nhw, nid diwedd y ffordd.

Sut bynnag, mae angen inni hefyd feddwl am ffyrdd ymarferol i gyflawni ein hamcanion. Dywed yr awdur C. R. Snyder, sydd wedi gwneud astudiaeth helaeth o obaith, y dylwn ni geisio meddwl am nifer o ffyrdd i gyrraedd pob nod. Wedyn, os bydd un cynllun yn methu, fe allwn ni ddefnyddio ail neu drydydd cynllun ac yn y blaen.

Mae Snyder hefyd yn awgrymu y dylen ni ddysgu pryd mae angen newid ein hamcanion. Os nad oes unrhyw ffordd inni gyrraedd rhyw nod, bydd poeni am y peth yn ein digalonni. Ar y llaw arall, bydd gosod nod mwy realistig yn rhoi rhywbeth arall inni obeithio amdano.

Cawn enghraifft dda o hyn yn y Beibl. Roedd y Brenin Dafydd wir eisiau adeiladu teml i’w Dduw, Jehofa. Ond dywedodd Duw wrth Dafydd y byddai’n rhoi’r fraint honno i’w fab Solomon. Yn lle pwdu a mynnu bwrw ymlaen gyda’i gynlluniau, gosododd Dafydd nod newydd i’w hunain. Aeth ati i gasglu’r arian a’r adnoddau y byddai Solomon yn eu defnyddio i orffen y prosiect.—1 Brenhinoedd 8:17-19; 1 Cronicl 29:3-7.

Hyd yn oed os ydyn ni wedi dysgu bod yn bositif ac yn optimistaidd yn ein bywydau personol, efallai bydd hi’n dal yn anodd i ni fod yn wir obeithiol. Pam felly? Y rheswm yw bod llawer o’r problemau sy’n gwneud i bobl ddigalonni yn y byd heddiw y tu hwnt i’n gallu i’w rheoli. Felly sut gallwn ni aros yn obeithiol mewn byd sy’n llawn tlodi, rhyfel, anghyfiawnder, a’r ofn sy’n gysylltiedig â salwch a marwolaeth?

[Llun]

Petaech chi’n methu cael un swydd, a fyddech chi’n credu na fyddwch chi byth yn cael swydd arall?

[Llun]

Roedd y Brenin Dafydd yn gallu addasu i sefyllfa newydd a newid ei amcanion