Neidio i'r cynnwys

Pryd Gwnaeth Moesau Ddechrau Dirywio’n Sydyn?

Pryd Gwnaeth Moesau Ddechrau Dirywio’n Sydyn?

Pryd Gwnaeth Moesau Ddechrau Dirywio’n Sydyn?

PRYD byddwch chi’n dweud gwnaeth moesau ddechrau dirywio’n sydyn? Yn eich bywyd chi, neu efallai yn ystod bywydau eich perthnasau neu’ch ffrindiau hŷn? Mae rhai yn dweud bod hyn wedi digwydd ym 1914 pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf. Ysgrifennodd yr Athro hanes, Robert Wohl, yn ei lyfr The Generation of 1914: “Doedd y rhai wnaeth fyw drwy’r rhyfel ddim yn gallu peidio â chredu bod un byd wedi gorffen ac un arall wedi cychwyn ym mis Awst 1914.”

“Ym mhobman, cafodd safonau o ymddygiad cymdeithasol—oedd eisoes yn dirywio​—eu chwalu’n gyfan gwbl,” meddai’r haneswr Norman Cantor. “Os oedd y gwleidyddion a’r cadfridogion yn trin y miliynau o dan eu gofal fel anifeiliaid wedi’u hanfon i’r lladd-dy, yna pa safonau crefyddol neu foesol allai rwystro pobl rhag trin ei gilydd fel anifeiliaid yn eu bywydau bob dydd? . . . Cafodd gymaint o bobl eu lladd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf [1914 -18], cafodd bywyd ei ddibrisio.”

Dywedodd yr haneswr H. G. Wells, yn ei lyfr The Outline of History, bod y syniad o dda a drwg wedi newid yn fawr pan wnaeth pobl ddechrau credu mewn esblygiad. Pam? Am eu bod nhw’n ystyried pobl fel dim ond anifeiliaid clyfar. Roedd rhai hyd yn oed yn cymharu pobl â chŵn gwyllt, gan resymu ei bod hi’n normal felly i’r rhai cryfaf ymosod ar y gwannaf.

Fel dywedodd Cantor, cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf effaith drychinebus ar foesau pobl. Esboniodd: “Doedd pobl yn malio dim bellach am beth oedd gan y rhai hŷn i’w ddweud am wleidyddiaeth, gwisg a thrwsiad, a rhyw.” Digwyddodd hynny hefyd am fod yr eglwysi wedi difetha dysgeidiaethau Cristnogol drwy dderbyn theori esblygiad a drwy annog pobl i fynd i ryfel. Ysgrifennodd y Swyddog Prydeinig Frank Crozier, fod y fyddin yn falch o gefnogaeth yr eglwysi a’u bod nhw wedi manteisio’n llawn ar hynny.

Safonau Moesol yn Cael eu Gwrthod

Yn y degawd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf—y Dauddegau Gwyllt, fel mae’n cael ei alw​—gwnaeth pobl wrthod hen safonau da a drwg ac roedd popeth yn dderbyniol. Rhoddodd yr haneswr Frederick Lewis Allen yr enw “Y Degawd Digywilydd” i’r deg mlynedd ar ôl y rhyfel. A dywedodd: “Gan fod gymaint o bobl wedi gwrthod yr hen safonau, roedd hi’n anodd gwybod pa reolau i’w dilyn.”

Gwnaeth creisis economaidd y 30au sobri llawer drwy eu taflu nhw i dlodi. Ond erbyn diwedd y degawd hwnnw, roedd rhyfel gwaeth wedi cychwyn—yr Ail Ryfel Byd. Dechreuodd gwledydd gwahanol gynhyrchu arfau dychrynllyd, ac er bod hyn wedi helpu’r economi, gwnaeth y byd ddioddef yn ofnadwy. Erbyn diwedd y rhyfel, roedd cannoedd o ddinasoedd wedi’u difetha. Cafodd dwy ddinas yn Japan eu dinistrio gan un bom atomig yr un! Bu farw miliynau mewn gwersylloedd crynhoi erchyll. Ar y cyfan, cafodd tua 50 miliwn o ddynion, menywod, a phlant eu lladd oherwydd y rhyfel hwnnw.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd pobl yn gwneud fel roedden nhw eisiau a ddim bellach yn parchu safonau traddodiadol. Dywedodd y llyfr Love, Sex and War—Changing Values, 1939-45: “Yn ystod y cyfnod hwnnw, doedd pobl ddim yn gadael i unrhyw beth eu rhwystro nhw rhag cael rhyw. Am fod ’na ddim byd i reoli eu hymddygiad ar faes y gad, doedd pobl ddim yn gadael i unrhyw beth eu rheoli yn eu cartrefi chwaith.”

Gwnaeth y rhyfel wneud i bobl feddwl bod bywyd yn fyr ac yn ddiwerth. Ac ar ôl y rhyfel, gwnaethon nhw ddechrau gweld priodas a theulu yn yr un ffordd. Am fod pobl yn gallu marw ar unrhyw adeg, roedden nhw angen teimlo bod rhywun yn eu caru, hyd yn oed os oedd hynny am gyfnod byr. Dywedodd un wraig tŷ Brydeinig wrth gyfiawnhau rhyddid rhywiol y blynyddoedd dramatig hynny: “Doedden ni ddim wir yn anfoesol, oedden ni ynghanol rhyfel.” Gwnaeth un milwr Americanaidd gyfaddef, “Oedden ni’n anfoesol yn ôl safonau’r rhan fwyaf o bobl, ond oedden ni’n ifanc ac yn gallu marw fory.”

Gwnaeth llawer a wnaeth oroesi’r rhyfel hwnnw ddioddef o ganlyniad i’r pethau erchyll gwnaethon nhw eu gweld. Mae rhai, gan gynnwys rhai oedd yn blant ar y pryd, yn dal i ddioddef hyd heddiw am eu bod nhw’n teimlo bod y pethau hynny’n digwydd eto wrth gofio’n ôl. Collodd llawer eu ffydd, a gyda hynny, eu syniad o beth oedd yn dda ac yn ddrwg. O ganlyniad, roedden nhw’n teimlo bod beth oedd yn dda ac yn ddrwg yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

Ffordd Newydd o Ymddwyn

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, cafodd adroddiadau am ryw eu cyhoeddi. Un adroddiad o’r fath oedd adroddiad Kinsey. Roedd yn cynnwys 800 tudalen ac fe gafodd ei ryddhau yn yr Unol Daleithiau yn y 1940au. Ar ôl hynny, dechreuodd pobl siarad yn fwy agored am ryw. Er ei fod wedi gor-ddweud llawer o bethau yn ei adroddiad, roedd yn dangos bod moesau wedi dirywio yn ystod y rhyfel.

Am gyfnod, roedd rhai pobl yn ceisio rhoi’r argraff eu bod nhw’n ymddwyn yn weddus. Er enghraifft, roedden nhw’n sensro unrhyw beth anweddus o’r radio, y sinema, a’r teledu. Ond wnaeth hynny ddim para’n hir. Esboniodd William Bennett, oedd arfer bod yn Ysgrifennydd Addysg yn yr Unol Daleithiau: “Erbyn y 1960au, roedd America ar lethr llithrig tuag at ddiffyg moesau llwyr.” A dyna oedd yr achos mewn llawer o wledydd eraill hefyd. Pam digwyddodd hynny yn y 60au?

Yn ystod y degawd hwnnw, cafodd merched lawer mwy o ryddid a gwnaeth pobl newid eu hagwedd tuag at ryw. Hefyd, roedd tabledi atal cenhedlu ar gael, felly roedd hi’n bosib cael rhyw heb y risg o feichiogi. Felly, daeth hi’n gyffredin i bobl gael rhyw heb fod yn briod.

Ar yr un pryd, dechreuodd y wasg, ffilmiau, a’r teledu dderbyn a dangos pethau doedden nhw erioed wedi eu caniatáu o’r blaen. Yn nes ymlaen, wrth sôn am y moesau sy’n cael eu portreadu ar y teledu, dywedodd un o swyddogion llywodraeth America: “Maen nhw’n rhoi’r argraff mai pleser yw’r peth pwysicaf, bod trais yn normal, a’i bod hi’n beth da i gael mwy nag un partner rhywiol.”

Erbyn y 1970au, roedd casetiau fideo eisoes yn boblogaidd. Felly, roedd llawer o bobl yn gallu gwylio ffilmiau anfoesol yn eu cartrefi na fyddan nhw byth wedi mynd i’r sinema i’w gwylio’n gyhoeddus. Bellach, os oes gynnoch chi gyfrifiadur, mae’n bosib gwylio pornograffi o’r math mwyaf afiach ni waeth lle rydych chi’n byw.

Rydyn ni’n gweld effeithiau hyn heddiw. Er enghraifft, dywedodd un swyddog carchar, “Pan oedd rhywun ifanc yn mynd i’r carchar ddeg mlynedd yn ôl, o’n i’n gallu siarad â nhw am beth oedd yn dda ac yn ddrwg. Ond bellach, dydyn nhw ddim yn deall y gwahaniaeth.”

At Bwy Gallwn Ni Droi?

Allwn ni ddim troi at yr eglwysi am arweiniad moesol. Yn hytrach na dilyn beth oedd Iesu a’i ddisgyblion yn ei ddysgu, maen nhw bellach wedi gwneud eu hunain yn rhan o’r byd drwg hwn. Gofynnodd un ysgrifennwr: “Oes ’na unrhyw ryfel lle dydy’r ddwy ochr ddim wedi honni bod Duw yn eu cefnogi?” Rai blynyddoedd yn ôl, dywedodd clerigwr yn Efrog Newydd: “Mae ’na lai o ofynion i ymuno â’r eglwys na sydd ’na i fynd ar y bws.”

Yn amlwg, mae’n rhaid gwneud rhywbeth am gyflwr y byd. Ond beth? Beth sydd angen ei newid? Pwy all ei wneud, a sut?

[Broliant]

“Cafodd gymaint o bobl eu lladd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf [1914 -18], cafodd bywyd ei ddibrisio”

[Blwch]

MOESAU YN ERBYN GWERTHOEDD

Roedd moesau arfer bod yn ddu a gwyn. Un ai roedd rhywun yn onest, yn ffyddlon, yn bur, ac yn barchus, neu ddim. Bellach, mae “gwerthoedd” wedi disodli “moesau.” Ond mae ’na broblem â hyn, fel dywedodd yr haneswraig Gertrude Himmelfarb yn ei llyfr The De-Moralization of Society: “Allwn ni ddim dweud yr un peth am foesau ag y gallwn ni am werthoedd, . . bod gan bawb yr hawl i’w foesau ei hun.”

Dywedodd hi fod gwerthoedd “yn gallu cynnwys daliadau, agweddau, teimladau, arferion, rhagfarnau, yn ogystal â barn a dewis personol—beth bynnag mae unigolyn, grŵp, neu gymdeithas yn digwydd ei werthfawrogi ar unrhyw adeg, ac am unrhyw reswm.” Yn y gymdeithas rydd sydd ohoni, mae pobl yn teimlo eu bod nhw’n gallu dewis a dethol eu gwerthoedd eu hunain, yn union fel maen nhw’n dewis bwyd yn y farchnad. Ond yn yr achos hwnnw, beth sy’n digwydd i foesau go iawn?

[Llun]

Mae hi’n dod yn haws ac yn haws cael gafael ar adloniant anweddus