Neidio i'r cynnwys

AR Y CLAWR

Sut i Wneud Defnydd Doeth o’ch Amser

Sut i Wneud Defnydd Doeth o’ch Amser

“Petasai ond gen i fwy o amser!” Pa mor aml ydych chi wedi dweud hynny? Mewn ffordd, mae amser yn gwneud ni i gyd yn gydradd, oherwydd mae gan y pwerus a’r cyfoethog yr un faint â’r tlawd. Hefyd, ni all y cyfoethog na’r tlawd gasglu amser. Unwaith mae wedi mynd, mae wedi mynd am byth. Y peth doeth felly, yw gwneud y defnydd gorau o’r amser sydd gynnon ni. Sut? Ystyriwch bedair strategaeth sydd wedi helpu llawer o bobl i ddefnyddio eu hamser yn ddoeth.

Strategaeth 1: Byddwch yn Drefnus

Blaenoriaethu. Ceisiwch “ddewis y peth gorau i’w wneud bob amser,” meddai’r Beibl. (Philipiaid 1:10) Gwnewch restr o bethau rydych chi angen eu gwneud sy’n bwysig neu’n fater o frys, neu’r ddau. Ond cofiwch nad ydy’r hyn sy’n bwysig bob amser yn fater o frys—er enghraifft, prynu bwyd ar gyfer swper. A dydy’r hyn sy’n ymddangos fel mater o frys—gweld cychwyn eich hoff raglen deledu—ddim bob amser yn bwysig. *

Meddwl o flaen llaw. Mae Pregethwr 10:10 yn dweud, “Os nad oes min ar y fwyell, os na chafodd ei hogi, rhaid i rywun ddefnyddio mwy o egni,” gan ychwanegu: “Mae doethineb bob amser yn helpu!” Y wers? Rhowch fin ar eich bwyell fel petai, drwy gynllunio o flaen llaw er mwyn gwneud y defnydd gorau o’ch amser. Gohiriwch neu anghofiwch am dasgau diangen sy’n gwneud dim ond llyncu amser ac egni. Os oes gynnoch chi amser ar eich dwylo ar ôl gorffen eich gwaith, beth am symud ymlaen i dasg oeddech chi wedi trefnu ei gwneud yn hwyrach? Drwy feddwl o flaen llaw, byddwch chi’n fwy cynhyrchiol, fel gweithiwr doeth sy’n rhoi min ar ei fwyell.

Symleiddio eich bywyd. Dysgwch ddweud na i bethau sydd ddim yn bwysig neu sydd ond yn llyncu amser. Gall gormod o weithgareddau ac apwyntiadau achosi straen diangen a dwyn eich llawenydd.

Strategaeth 2: Osgowch Ladron Amser

Gohirio a phetruso. “Fydd ffermwr sy’n disgwyl tywydd perffaith byth yn hau, a’r un sy’n gwylio pob cwmwl byth yn medi cynhaeaf.” (Pregethwr 11:4) Y wers? Mae gohirio yn lleidr amser sy’n ein gwneud ni’n llai cynhyrchiol. Efallai fydd ffermwr sy’n disgwyl am yr amgylchiadau perffaith byth yn hau hadau nac yn medi ei gynhaeaf. Mewn ffordd debyg, gallen ni betruso dros bethau ansicr mewn bywyd. Neu efallai ein bod ni’n teimlo bod rhaid inni gael pob darn o wybodaeth berthnasol cyn gwneud penderfyniad. Wrth gwrs, mae’n rhaid gwneud ymchwil a phwyso a mesur wrth wneud penderfyniadau pwysig. Mae Diarhebion 14:15, Beibl Cymraeg Diwygiedig, yn dweud, “Mae’r call yn ystyried pob cam.” Ond y realiti yw, mae llawer o benderfyniadau yn cynnwys rywfaint o ansicrwydd.—Pregethwr 11:6.

Perffeithio. Mae Diarhebion 13:16 yn dweud, “Mae pawb call yn gwneud beth sy’n ddoeth.” Wrth gwrs, mae’n beth da cael safonau uchel. Ond mae’n rhaid bod yn rhesymol. Efallai y byddwn ni’n gosod safonau mor uchel rydyn ni’n gofyn am siom neu hyd yn oed methiant. Er enghraifft, dylai rhywun sy’n dysgu iaith arall ddisgwyl gwneud camgymeriadau, gan gofio y bydd yn dysgu ohonyn nhw. Ond mae’n debyg y byddai perffeithiwr yn dychryn o feddwl am ddweud rhywbeth yn anghywir—agwedd a fyddai’n rhwystro ei gynnydd. Byddai’n llawer gwell bod yn wylaidd yn ein disgwyliadau! “Pobl wylaidd ydy’r rhai doeth.” (Diarhebion 11:2) Ar ben hynny, dydy’r rhai gwylaidd a gostyngedig ddim yn cymryd eu hunain ormod o ddifri a gallan nhw chwerthin am eu pennau eu hunain fel arfer.

“Mewn gwirionedd, dydych chi ddim yn talu am bethau ag arian. Rydych chi’n talu amdanyn nhw â’ch amser.”—What to Do Between Birth and Death

Strategaeth 3: Byddwch yn Gytbwys ac yn Realistig

Cydbwysedd rhwng gwaith a hamdden. “Mae un llond llaw gyda gorffwys yn well na dau lond llaw o ganlyniad i orweithio. Ydy, mae fel ceisio rheoli’r gwynt!” (Pregethwr 4:6) Dydy’r rhai sy’n gorweithio ddim fel arfer yn mwynhau canlyniadau eu gwaith caled. Does ganddyn nhw ddim yr amser na’r egni ar ôl i wneud hynny. Ar y llaw arall, mae’r diog yn dewis “dau lond llaw” o orffwys ac yn gwastraffu amser gwerthfawr. Mae’r Beibl yn annog agwedd gytbwys: Gweithio’n galed a mwynhau’r gwobrwyon. Mae’r fath lawenydd yn “rhodd gan Dduw.”—Pregethwr 5:19.

Cael digon o gwsg. “Bydda i’n gallu gorwedd i lawr a chysgu’n dawel,” meddai un ysgrifennwr y Beibl. (Salm 4:8) Mae rhan fwyaf o oedolion angen tua wyth awr o gwsg bob nos er mwyn i’r corff a’r meddwl gael digon o orffwys. Mae cael digon o gwsg yn ddefnydd da o’n hamser am ei fod yn gwella ein gallu i ganolbwyntio a chofio, gan ein helpu i ddysgu pethau newydd. Ond mae diffyg cwsg yn arafu’r broses o ddysgu ac yn cyfrannu at ddamweiniau, camgymeriadau, a thymer drwg.

Gosod amcanion realistig. “Mae bod yn fodlon gyda’r hyn sydd gynnoch chi yn well na breuddwydio am gael mwy o hyd.” (Pregethwr 6:9) Y pwynt? Dydy rhywun doeth ddim yn caniatáu i ddymuniadau reoli ei fywyd, yn enwedig os nad yw’r dymuniadau hynny’n realistig nac o fewn ei gyrraedd. Felly, dydy ef ddim yn cael ei hudo gan hysbysebion clyfar na benthyciadau deniadol. Yn hytrach, mae’n dysgu bod yn fodlon â’r hyn sydd o fewn ei gyrraedd—‘yr hyn sydd ganddo.’

Strategaeth 4: Gadewch i Werthoedd Da Eich Arwain

Ystyriwch eich gwerthoedd. Mae’ch gwerthoedd yn eich galluogi i bwyso a mesur beth sy’n dda, yn bwysig, ac yn werth chweil. Petasai eich bywyd yn saeth, byddai eich gwerthoedd yn ei anelu’r saeth honno. Felly, mae gwerthoedd da yn eich helpu i flaenoriaethu’n gall ac i wneud y defnydd gorau o’ch amser bob awr o bob dydd. Lle gallwch chi gael hyd i’r fath werthoedd? Mae llawer o bobl yn troi at y Beibl, gan gydnabod ei ddoethineb uwch.—Diarhebion 2:6, 7.

Rhowch gariad yn gyntaf. Mae Colosiaid 3:14 yn dweud: “Mae cariad yn clymu’r cwbl yn berffaith.” Allwn ni ddim bod yn gwbl hapus na theimlo’n hollol saff heb gariad, yn enwedig o fewn y teulu. Mewn gwirionedd, ni fydd pobl sy’n anwybyddu’r ffaith hon, efallai drwy flaenoriaethu cyfoeth a gyrfa, yn hapus. Am reswm da felly, mae’r Beibl yn rhoi cariad yn uwch na gwerthoedd eraill, gan sôn amdano gannoedd o weithiau.—1 Corinthiaid 13:1-3; 1 Ioan 4:8.

Neilltuwch amser i ofalu am eich anghenion ysbrydol. Roedd gan ddyn o’r enw Geoff wraig gariadus, dau blentyn hapus, ffrindiau da, a swydd dda fel parafeddyg. Er hynny, byddai ei waith yn aml yn dod ag ef wyneb yn wyneb â dioddefaint a marwolaeth. “Ai fel hyn mae bywyd i fod?” gofynnodd. Yna un diwrnod, fe ddarllenodd lenyddiaeth Feiblaidd wedi ei gyhoeddi gan Dystion Jehofa a chael atebion boddhaol.

Esboniodd Geoff yr hyn roedd yn ei ddysgu i’w wraig a’i blant, a dangoson nhwthau ddiddordeb hefyd. Dechreuodd y teulu astudio’r Beibl, a gwnaeth hynny gyfoethogi eu bywydau a’u helpu i wneud defnydd llawer gwell o’u hamser. Drwy eu hastudiaeth o’r Beibl, cawson nhw’r gobaith gwych o fyw am byth mewn byd heb ddioddefaint lle bydd bywyd yn llawn pwrpas.—Datguddiad 21:3, 4.

Mae profiad Geoff yn ein hatgoffa o eiriau Iesu Grist pan ddywedodd: “Hapus yw’r rhai sy’n ymwybodol o’u hangen ysbrydol.” (Mathew 5:3, New World Translation) Ydych chi’n fodlon neilltuo ychydig o amser i ofalu am eich anghenion ysbrydol? Yn sicr, does dim ffordd well o ddefnyddio eich amser!

^ Par. 5 Gweler 20 Ways to Create More Time,” yn rhifyn Ebrill 2010 y Deffrwch! Saesneg.