Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Mae enw personol Duw sydd wedi ei ysgrifennu mewn llythrennau Hebraeg hynafol yn ymddangos yn aml iawn mewn llawysgrifau cynnar o’r Beibl

SAFBWYNT Y BEIBL

Enw Duw

Enw Duw

Mae miliynau o bobl yn siarad â Duw gan ddefnyddio teitlau parchus, fel Arglwydd, y Tragwyddol, Allah, neu Dduw. Fodd bynnag, mae gan Dduw enw personol. A ddylech chi ei ddefnyddio?

Beth yw enw Duw?

YR HYN MAE RHAI YN EI DDWEUD

 

Mae llawer sy’n honni bod yn Gristnogion yn credu mai Iesu yw enw Duw. Yn ôl eraill, gan mai dim ond un Duw Hollalluog sy’n bodoli, does dim angen defnyddio enw personol. Ac mae eraill hefyd yn dadlau bod defnyddio enw priod yn amhriodol.

YR HYN MAE’R BEIBL YN EI DDWEUD

 

Nid Iesu yw enw’r Hollalluog Dduw, oherwydd nid y Duw Hollalluog yw Iesu. Yn wir, gwnaeth Iesu ddysgu ei gyd-addolwyr i weddïo ar Dduw drwy ddweud: “Dad, dŷn ni eisiau i dy enw di gael ei anrhydeddu.” (Luc 11:2) Dywedodd Iesu hefyd mewn gweddi: “O Dad, gogonedda dy enw.”—Ioan 12:28, Beibl Cymraeg Diwygiedig.

Yn y Beibl, mae Duw yn dweud: “Myfi yw Jehofah: Dyna yw fy enw, a’m gogoniant i arall ni roddaf.” (Eseia 42:8, Jenkins a Morgan) Mae “Jehofah,” neu Jehofa, yn gyfieithiad Cymraeg o’r pedair cytsain Hebraeg IHWH, sy’n cynrychioli’r enw dwyfol. Mae’r enw yn ymddangos tua 7,000 o weithiau yn yr Ysgrythurau Hebraeg. * Mae hynny’n fwy aml nag unrhyw deitl, fel “Duw,” “yr Hollalluog,” neu “Arglwydd,” ac yn fwy aml nag unrhyw enw arall, fel Abraham, Moses, neu Dafydd.

Does yr un adnod yn y Beibl yn dweud bod Jehofa yn gwahardd rhywun rhag defnyddio ei enw mewn ffordd barchus. Yn hytrach, mae’r Ysgrythurau yn dangos bod gweision Duw wedi bod yn hapus i ddefnyddio’r enw dwyfol. Roedden nhw’n ei gynnwys yn yr enwau a roddon nhw i’w plant, fel Elias, sy’n golygu “Jehofa Yw Fy Nuw,” a Sechareia, sy’n golygu, “Mae Jehofa Wedi Cofio.” A doedden nhw ddim yn dal yn ôl rhag defnyddio enw Duw yn eu sgyrsiau bob dydd.—Salm 129:8, Thomas Briscoe.

Mae Duw eisiau inni ddefnyddio ei enw. Rydyn ni’n cael ein hannog i ddiolch i Jehofa a “galw ar ei enw!” (Salm 105:1) Mae Duw hyd yn oed yn edrych yn ffafriol ar y rhai sy’n “meddwl am ei enw.”—Malachi 3:16, BCND.

“Fel y gwypont mai tydi, yr hwn yn unig wyt JEHOFAH wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddaear.”—Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân.

Beth ydy ystyr enw Duw?

Mae rhai ysgolheigion yn credu bod yr enw Jehofa, yn yr Hebraeg, yn golygu “Mae Ef yn Peri i Fod.” Mae’r diffiniad hwnnw’n awgrymu bod Duw yn gallu peri iddo Ef ei hun, neu ei greadigaeth, fod yn beth bynnag sy’n rhaid iddo fod er mwyn cyflawni ei ewyllys. Y Creawdwr hollalluog yn unig sy’n gallu cyflawni ystyr ei enw yn y fath fodd.

YR HYN MAE’N EI OLYGU I CHI

 

Bydd gwybod am enw Duw yn newid y ffordd rydych chi’n meddwl amdano. Byddwch chi’n ei chael hi’n haws agosáu ato. Wedi’r cwbl, sut gallwch chi fod yn agos at rywun heb wybod ei enw? Ac mae’r ffaith fod Duw wedi datgelu ei enw i chi yn dangos ei fod eisiau ichi agosáu ato.—Iago 4:8.

Gallwch chi fod yn sicr y bydd Jehofa yn wastad yn cyflawni ystyr ei enw fel Duw sy’n gwneud i bethau ddigwydd. Dyna pam mae’r Beibl yn dweud: “Fel y bydd i’r rhai sy’n cydnabod dy enw ymddiried ynot.” (Salm 9:10, BCND) Rydych chi’n dod i ymddiried yn Nuw yn fwyfwy wrth ichi ddysgu bod enw Jehofa ynghlwm wrth ei rinweddau, fel cariad ffyddlon, trugaredd, tosturi, a chyfiawnder. (Exodus 34:5-7) Mor gadarnhaol yw gwybod y bydd Jehofa bob amser yn cadw at ei addewidion, ac, yr un pryd, ni fydd byth yn gweithredu’n groes i’w rinweddau.

Yn amlwg felly, braint yw adnabod y Duw Hollalluog wrth ei enw. Gall hynny ddod â bendithion ichi nawr ac yn y dyfodol. Mae Duw’n addo: “Fe’i diogelaf am ei fod yn adnabod fy enw.”—Salm 91:14, BCND.

“A bydd, pob un a alwo ar enw Iehofah fydd gadwedig.”—Actau 2:21, Thomas Briscoe.

Enw Duw mewn gwahanol ieithoedd

^ Par. 9 Mewn llawer o Feiblau, mae enw Duw wedi ei ddileu a’r teitl “ARGLWYDD” mewn priflythrennau wedi ei roi yn ei le. Mae Beiblau eraill yn cynnwys enw Duw dim ond mewn ychydig o adnodau penodol neu mewn troednodiadau. Mae’r New World Translation of the Holy Scriptures yn defnyddio’r enw dwyfol yn helaeth drwy gydol y testun.