Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Mae disgyblaeth yn cyfeirio plentyn fel y mae llyw yn cyfeirio llong ac yn ei chadw ar y trywydd cywir

AR GYFER RHIENI

6: Disgyblaeth

6: Disgyblaeth

BETH MAE’N EI OLYGU?

Gall y gair disgyblaeth olygu arwain neu ddysgu. Ar adegau, mae hynny’n cynnwys cywiro ymddygiad drwg plentyn. Ond, yn aml, mae’n cynnwys hyfforddi plentyn am faterion moesol sy’n ei helpu i wneud penderfyniadau da yn y lle cyntaf.

PAM MAE’N BWYSIG?

Yn y degawdau diweddar, mae disgyblaeth wedi diflannu’n gyfan gwbl bron, gan fod rhieni yn ofni bod cywiro eu plentyn yn gallu achosi iddo golli ei hunan-barch. Ond, mae rhieni doeth yn gosod rheolau rhesymol ac yn hyfforddi eu plant i ddilyn y rheolau hynny.

“Mae angen ffiniau ar blant er mwyn iddyn nhw dyfu i fyny i fod yn bobl aeddfed. Heb ddisgyblaeth, mae plant fel llong sydd heb lyw—a fydd yn y pen draw yn mynd i’r cyfeiriad anghywir neu hyd yn oed yn troi drosodd.”—Pamela.

BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?

Byddwch yn gyson. Os dydy eich plentyn ddim yn cadw at eich rheolau, sicrhewch fod ’na ganlyniadau. Ar y llaw arall, byddwch yn barod bob amser i ganmol eich plentyn pan fydd ef neu hi yn gwrando arnoch chi.

“Rydw i’n aml yn canmol fy mhlant am fod yn ufudd mewn byd sy’n brin o ufudd-dod. Mae canmoliaeth yn ei gwneud hi’n haws iddyn nhw dderbyn cael eu rhoi ar ben ffordd pan fydd angen.”—Christine.

EGWYDDOR FEIBLAIDD: “Beth bynnag mae rhywun yn ei hau, hynny hefyd y bydd yn ei fedi.”—Galatiaid 6:7.

Byddwch yn rhesymol. Pan fydd disgyblaeth yn cael ei rhoi, ystyriwch oed y plentyn, ei allu, a difrifoldeb yr hyn a ddigwyddodd. Mae canlyniadau yn fwy effeithiol pan fyddan nhw’n gysylltiedig â’r drwg sydd wedi cael ei wneud—er enghraifft, gall camddefnyddio’r ffôn achosi iddyn nhw golli’r fraint o ddefnyddio’r ffôn am gyfnod. Ar yr un pryd, osgowch wneud môr a mynydd dros bethau bach.

“Dw i’n ceisio penderfynu a oedd anufudd-dod fy mhlentyn yn fwriadol neu a oedd wedi gwneud camgymeriad yn unig. Mae ’na wahaniaeth rhwng tueddiad drwg sy’n gorfod cael ei chwynnu a chamgymeriad sy’n gorfod cael ei amlygu.”—Wendell.

EGWYDDOR FEIBLAIDD: “Peidiwch ag achosi i’ch plant gynhyrfu, fel nad ydyn nhw’n mynd yn ddigalon.”—Colosiaid 3:21.

Byddwch yn gariadus. Mae disgyblaeth yn llawer haws i blant ei derbyn a’i rhoi ar waith pan fyddan nhw’n gwybod mai cariad sydd y tu ôl i ddisgyblaeth eu rhieni.

“Pan oedd fy mab yn gwneud camgymeriadau, roedden ni’n ei gysuro drwy ddweud ein bod ni’n prowd o’r holl benderfyniadau da y mae wedi eu gwneud yn y gorffennol. Esbonion ni na fyddai’r camgymeriad yn ei ddiffinio cyn belled y byddai’n cywiro’r cam ac y byddwn ninnau hefyd yn barod i’w helpu.”—Daniel.

EGWYDDOR FEIBLAIDD: “Mae cariad yn amyneddgar a charedig.”—1 Corinthiaid 13:4.