Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Sut Mae Technoleg yn Effeithio ar Eich Perthynas â’ch Ffrindiau?

Sut Mae Technoleg yn Effeithio ar Eich Perthynas â’ch Ffrindiau?

Diolch i decstio, e-byst, fideo-gynadledda, a chyfryngau cymdeithasol, gall dau berson gyfathrebu’n hawdd, hyd yn oed os ydyn nhw’n byw ar gyfandiroedd gwahanol. Iddyn nhw, mae technoleg yn ddefnyddiol.

Ond mae rhai pobl sy’n cadw cysylltiad â’u ffrindiau yn bennaf drwy dechnoleg, yn tueddu i . . .

  • ddangos llai o empathi tuag at eu ffrindiau.

  • teimlo’n wag ac yn unig.

  • canolbwyntio’n fwy ar eu hunain nag ar eraill.

BETH DDYLECH CHI EI WYBOD?

EMPATHI

Er mwyn dangos empathi, mae’n rhaid inni arafu a meddwl am sut mae’r person arall yn teimlo. Gall hyn fod yn anodd os ydyn ni’n brysur yn edrych ar gyfryngau cymdeithasol, ac yn ateb pentwr o negeseuon.

Ymhen amser, os ydy technoleg yn eich rheoli chi, gall ateb negeseuon eich ffrindiau deimlo fel tasg arall ar eich rhestr o bethau i’w gwneud. Yn y pen draw, eich nod yw gwagio’ch mewnflwch yn hytrach na helpu ffrind sydd mewn angen.

RHYWBETH I’W YSTYRIED: Sut gallwch chi ddangos eich bod chi’n cydymdeimlo â’ch ffrindiau pan fyddwch chi’n cyfathrebu gan ddefnyddio technoleg?—1 PEDR 3:8.

TEIMLO’N WAG

Mae rhai ymchwilwyr wedi sylwi bod pobl yn teimlo’n waeth ar ôl treulio amser ar gyfryngau cymdeithasol. Daethon nhw i’r casgliad bod gweld beth mae eraill wedi ei wneud yn gallu gwneud i rywun deimlo “yn anfodlon â’i fywyd.”

Ar ben hynny, mae edrych ar luniau cyffrous mae eraill wedi eu postio yn gallu arwain at gymariaethau negyddol. Wedi’r cwbl, mae’n gallu ymddangos bod pawb arall yn cael amser da, tra ydych chi’n byw bywyd diflas.

RHYWBETH I’W YSTYRIED: Wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, sut gallwch chi osgoi cymharu eich hun ag eraill?—GALATIAID 6:4.

AGWEDD HUNANOL

Sylwodd un athrawes fod gan rai o’i myfyrwyr agwedd hunanol, a’u bod nhw ond eisiau bod yn ffrindiau â phobl oedd yn gwneud pethau drostyn nhw. * Mae perthynas o’r fath braidd yn unochrog! Gall rhywun ddechrau gweld ei ffrindiau fel apiau—yn gallu eu defnyddio pan fydd angen ond wedyn eu hanwybyddu.

RHYWBETH I’W YSTYRIED: Ydy’r hyn rydych chi’n ei bostio ar lein yn awgrymu eich bod chi’n gystadleuol neu’n hunanol?—GALATIAID 5:26.

BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?

YSTYRIWCH SUT RYDYCH CHI’N DEFNYDDIO TECHNOLEG

Pan fydd technoleg yn eich helpu yn hytrach na’ch rheoli, bydd yn ei gwneud hi’n haws cadw cysylltiad â’ch ffrindiau, a hyd yn oed closio atyn nhw.

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Mae cariad yn rhoi y person arall yn gyntaf.”—1 CORINTHIAID 13:4, 5.

Nodwch y pethau rydych chi eisiau eu rhoi ar waith, neu ysgrifennwch eich syniadau eich hun.

  • Cael mwy o sgyrsiau wyneb yn wyneb (yn hytrach na dibynnu ar decstio neu e-byst yn unig)

  • Cadw’r ffôn (neu’i dewi) wrth sgwrsio ag eraill

  • Treulio llai o amser yn sgrolio drwy gyfryngau cymdeithasol

  • Gwrando’n well

  • Cysylltu â ffrind sy’n mynd drwy gyfnod anodd

^ Par. 17 Yn y llyfr Reclaiming Conversation.