Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cyflwyniad

Cyflwyniad

MAE’R llyfr hwn yn cynnwys storïau gwir o’r llyfr pwysicaf erioed—y Beibl. Mae’r storïau hyn yn adrodd hanes y byd, o amser y creu hyd at ein dyddiau ni. Maen nhw hyd yn oed yn sôn am y pethau y bydd Duw yn eu gwneud yn y dyfodol.

Mae’r llyfr hwn yn cyflwyno cynnwys y Beibl, ei bobl, a’i ddigwyddiadau. Y mae hefyd yn dangos bod Duw yn dymuno i bobl gael bywyd tragwyddol mewn paradwys ar y ddaear.

Mae 116 o storïau yn y llyfr, mewn wyth rhan. Ar ddechrau pob rhan y mae crynodeb o’r hyn sydd i ddod. Mae’r storïau yn ymddangos yn nhrefn amser. Bydd hynny yn ein helpu ni i wybod pryd digwyddodd y pethau hyn.

Mae’r storïau wedi eu hysgrifennu mewn iaith syml. Bydd llawer o blant yn medru eu darllen ar eu pennau eu hunain. Bydd plant ifanc wrth eu boddau yn gwrando ar y storïau drosodd a throsodd. Bydd pobl o bob oedran yn mwynhau cynnwys diddorol y llyfr.

Ar ddiwedd pob stori mae cyfeiriadau at y Beibl, a pheth da fyddai darllen yr adnodau hynny er mwyn gweld sail y stori. Ar ôl darllen stori, edrychwch hefyd ar y cwestiynau sy’n ymddangos ar ddiwedd y llyfr, a cheisiwch gofio’r atebion.