Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHAN 1

O Adeg y Creu hyd at y Dilyw

O Adeg y Creu hyd at y Dilyw

O ble daeth y nefoedd a’r ddaear? Sut dechreuodd yr haul, y lleuad, y sêr, a phopeth sydd ar y ddaear? Mae’r Beibl yn rhoi’r ateb. Mae’n dweud eu bod nhw i gyd wedi eu creu gan Dduw. Felly, mae’r llyfr hwn yn dechrau gyda hanes y creu.

Yn gyntaf, creodd Duw yr angylion yn y nef. Ysbryd yw Duw ac mae’r angylion yn debyg iddo ef. Ond fe greodd y ddaear ar gyfer pobl fel tithau a minnau. Gwnaeth Duw ddyn a dynes, Adda ac Efa, a rhoddodd ardd brydferth iddyn nhw fyw ynddi. Ond roedden nhw’n anufudd i Dduw ac fe gollon nhw’r hawl i fyw am byth.

O adeg creu Adda hyd at y Dilyw, roedd 1,656 o flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw roedd llawer o rai drwg yn byw. Yn y nef, roedd Satan a’i angylion drwg. Ac ar y ddaear, roedd Cain a llawer o bobl ddrwg. Roedd rhai o’r bobl hynny yn gryf ofnadwy. Ond roedd pobl dda yn byw ar y ddaear hefyd​—Abel, Enoch, a Noa. Yn RHAN 1 byddwn ni’n darllen am y bobl a’r digwyddiadau hynny i gyd.

 

YN Y RHAN HON

STORI 1

Duw yn Dechrau Creu

Mae hanes Genesis am y Creu yn ddealladwy ac yn hynod o ddiddorol​—hyd yn oed i blant bach.

STORI 2

Gardd Brydferth

Yn ôl Genesis, creodd Duw ardd arbennig o’r enw Eden. Mae Duw eisiau i’r holl ddeaer fod yn union debyg i’r ardd brydferth honno.

STORI 3

Y Bobl Gyntaf

Creuodd Duw Adda ac Efa a’u gosod yng ngardd Eden. Y nhw oedd y cwpl priod cyntaf.

STORI 4

Gadael Gardd Eden

Mae llyfr Genesis yn y Beibl yn egluro sut y collwyd y baradwys wreiddiol.

STORI 5

Bywyd yn Troi’n Anodd

Y tu allan i ardd Eden, wynebodd Adda ac Efa lawer o broblemau. Petai Adda ac Efa wedi aros yn ufudd i Dduw, byddai bywyd wedi bod yn hapus iddyn nhw ac i’w plant.

STORI 6

Mab Da a Mab Drwg

Mae stori Cain ac Abel, sydd i’w chael yn Genesis, yn dangos sut fath o bobl y dylen ni fod​—a pha agweddau sydd angen eu newid cyn iddi fod yn rhy hwyr.

STORI 7

Dyn Dewr

Mae esiampl Enoch yn dangos dy fod ti’n gallu gwneud yr hyn sy’n iawn, hyd yn oed os yw pawb arall yn gwneud pethau drwg.

STORI 8

Cewri ar y Ddaear

Mae Genesis 6 yn adrodd yr hanes am gewri yn brifo pobl. Plant oedd y Neffilimen i’r angylion drwg a adawodd y nefoedd a dod i fyw ar ddaear fel dynion.

STORI 9

Noa yn Adeiladu Arch

Goroesodd Noa a’i deulu y Dilyw oherwydd iddyn nhw wrando ar Dduw er bod eraill yn gwrthod gwrando.

STORI 10

Y Dilyw

Roedd pobl yn chwerthin ar rybuddion Noa. Ond, doedden nhw ddim yn chwerthin pan ddechreuodd hi fwrw glaw. Dysgwch sut gwnaeth arch Noa ei achud ef, ei deulu, a llawer o anifeiliaid.