Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 1

Duw yn Dechrau Creu

Duw yn Dechrau Creu

MAE pob peth da sydd gennyn ni wedi dod oddi wrth Dduw. Fe greodd Duw’r haul i oleuo’r dydd, a’r lleuad a’r sêr i oleuo’r nos. Ac fe greodd y ddaear i fod yn gartref inni.

Ond nid yr haul na’r lleuad, ac nid y sêr na’r ddaear oedd y pethau cyntaf i Dduw eu creu. Wyt ti’n gwybod beth oedd y pethau cyntaf a greodd Duw? Wel yn gyntaf, gwnaeth Duw yr angylion. Mae’r angylion yn anweledig fel y mae Duw yn anweledig. Gwnaeth Duw’r angylion i fyw gydag ef yn y nefoedd.

Roedd yr angel cyntaf a greodd Duw yn un arbennig iawn. Ef oedd mab cyntaf Duw, ac fe weithiodd ochr yn ochr â’i Dad yn gwneud pob peth arall—yr haul, y lleuad, y sêr, a’r ddaear hefyd.

Sut fath o le oedd y ddaear bryd hynny? Yn y dechrau doedd neb yn gallu byw ar y ddaear. Roedd un môr mawr yn gorchuddio’r tir i gyd. Ond roedd Duw yn dymuno i bobl fyw ar y ddaear. Felly aeth ati i baratoi’r ddaear ar ein cyfer. Beth a wnaeth?

Yn gyntaf, roedd angen goleuni ar y ddaear. Fe wnaeth Duw i’r haul ddisgleirio ar y ddaear, er mwyn cael golau dydd a thywyllwch nos. Wedyn, achosodd Duw i dir sych godi’n uwch na dyfroedd y môr.

Ar y dechrau, doedd dim byd ar y tir. Roedd yn debyg iawn i’r hyn a weli di yn y llun. Doedd dim blodau, dim coed, a dim anifeiliaid. Doedd dim pysgod yn y môr hyd yn oed. Roedd gan Dduw lawer mwy o waith i’w wneud cyn y byddai’r ddaear yn gartref hyfryd i anifeiliaid a phobl.