Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 2

Gardd Brydferth

Gardd Brydferth

EDRYCHA ar y ddaear yn y llun yma! On’d ydy popeth yn dlws? Sylwa ar y glaswellt a’r coed a’r blodau a’r holl anifeiliaid. Wyt ti’n gweld yr eliffantod a’r llewod?

Pwy greodd yr ardd hyfryd hon? Duw. Gad inni weld beth a wnaeth Duw i baratoi’r ddaear ar gyfer pobl.

Yn gyntaf, fe wnaeth Duw laswellt i dyfu ar y ddaear. Creodd bob math o blanhigion a llwyni, a choed. Mae’r planhigion hyn yn gwneud y ddaear yn hardd. Ond yn fwy na hynny, mae llawer ohonyn nhw yn rhoi bwyd blasus inni.

Yn nes ymlaen, gwnaeth Duw’r pysgod i nofio yn y môr a’r adar i hedfan yn yr awyr. Fe wnaeth gŵn a chathod a cheffylau; anifeiliaid bach a mawr. Pa fath o anifeiliaid sy’n byw wrth ymyl dy dŷ di? Wyt ti’n meddwl y dylen ni ddiolch i Dduw am yr holl bethau da y mae wedi eu rhoi inni?

Yn olaf, mewn un rhan o’r ddaear, gwnaeth Duw le arbennig iawn. Gardd Eden oedd enw’r lle hwnnw. Roedd yr ardd yn berffaith. Roedd popeth ynddi’n brydferth. Ac roedd Duw am i’r holl ddaear fod yn debyg i ardd Eden.

Ond edrycha eto ar y llun. Roedd Duw yn meddwl bod rhywbeth ar goll. Wyt ti’n gwybod beth oedd ar goll? Gad inni weld.