Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 4

Gadael Gardd Eden

Gadael Gardd Eden

SYLWA ar beth sy’n digwydd nawr. Mae Adda ac Efa’n gorfod gadael gardd Eden. Wyt ti’n gwybod pam?

Maen nhw wedi gwneud rhywbeth drwg iawn. Felly, mae Jehofa yn eu cosbi. Wyddost ti beth wnaeth Adda ac Efa?

Fe wnaethon nhw rywbeth yr oedd Jehofa wedi dweud wrthyn nhw am beidio â’i wneud. Roedd Duw wedi dweud y gallen nhw fwyta ffrwythau o bob coeden yn yr ardd heblaw am un. Petaen nhw’n bwyta ffrwyth o’r goeden honno, fe fydden nhw’n marw. Duw oedd piau’r goeden honno. Ac mae cymryd rhywbeth sy’n perthyn i rywun arall yn ddrwg, on’d ydy? Felly beth ddigwyddodd?

Un diwrnod, pan oedd Efa ar ei phen ei hun daeth sarff, neu neidr, i siarad â hi. Meddylia am hynny! Dywedodd y sarff y dylai hi fwyta ffrwyth y goeden yr oedd Duw wedi dweud wrthyn nhw am beidio â’i fwyta. Ond nid yw nadroedd yn gallu siarad, nac ydyn? Felly, mae’n rhaid bod rhywun arall yn gwneud i’r sarff siarad. Pwy oedd hwnnw?

Doedd Adda ddim yno. Pwy felly a wnaeth i’r sarff siarad? Wel, cyn i Jehofa greu’r ddaear, yr oedd wedi creu angylion sydd yn anweledig i bobl ar y ddaear. Roedd un o’r angylion hynny wedi mynd yn falch iawn. Dechreuodd yr angel hwnnw feddwl y dylai fod fel Duw ac y dylai pobl ufuddhau iddo ef yn hytrach nag i Jehofa. Yr angel drwg hwnnw oedd yr un a wnaeth i’r sarff siarad.

Llwyddodd yr angel drwg i dwyllo Efa. Pan ddywedodd wrthi y byddai hi fel Duw petai hi’n bwyta’r ffrwyth, fe wnaeth hi gredu’r celwydd. Felly, dyma hi’n bwyta’r ffrwyth a dyma Adda hefyd yn bwyta’r ffrwyth. Roedd Adda ac Efa wedi bod yn anufudd i Dduw a dyna pam roedd rhaid iddyn nhw adael yr ardd.

Ond ryw ddydd, bydd Duw yn gwneud yr holl ddaear yr un mor brydferth â gardd Eden. Yn nes ymlaen, byddwn ni’n dysgu sut y gelli dithau helpu i droi’r ddaear yn baradwys. Ond nesaf, gad inni weld beth ddigwyddodd i Adda ac Efa.