Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 5

Bywyd yn Troi’n Anodd

Bywyd yn Troi’n Anodd

ROEDD bywyd y tu allan i ardd Eden yn anodd iawn i Adda ac Efa. Roedden nhw’n gorfod gweithio’n galed i dyfu bwyd. Yn hytrach na choed ffrwyth prydferth, roedd drain ac ysgall yn tyfu ym mhob man. Dyna beth ddigwyddodd ar ôl i Adda ac Efa anufuddhau i Dduw a pheidio â’i garu.

Ond yn waeth na hynny i gyd, roedd Adda ac Efa yn dechrau mynd yn hen. Cofia, roedd Duw wedi eu rhybuddio nhw y bydden nhw’n marw petaen nhw’n bwyta o’r goeden. Wel, o’r diwrnod y gwnaethon nhw fwyta’r ffrwyth, fe ddechreuon nhw farw. Mor ffôl oedden nhw yn peidio â gwrando ar Dduw!

Cafodd plant Adda ac Efa eu geni ar ôl i Dduw yrru eu rhieni allan o ardd Eden. Roedd hynny yn golygu y byddai’n rhaid i’r plant hefyd fynd yn hen a marw.

Petai Adda ac Efa wedi aros yn ufudd i Jehofa, byddai bywyd wedi bod yn hapus iddyn nhw ac i’w plant. Fe fydden nhw i gyd wedi byw yn hapus ar y ddaear am byth. Fyddai neb wedi mynd yn hen nac yn sâl. Fyddai neb wedi marw.

Mae Duw eisiau i bawb fod yn hapus a byw am byth, ac mae’n addo y bydd hynny’n digwydd ryw ddydd. Wedyn, bydd yr holl fyd unwaith eto’n brydferth a bydd pawb yn iach. Bydd pawb ar y ddaear yn ffrindiau a bydd pawb yn ffrindiau i Dduw.

Ond doedd Efa ddim yn ffrind i Dduw bellach. Oherwydd iddi fod yn anufudd i Jehofa, roedd ei bywyd yn drist. Pan gafodd Efa blant, roedd yn boenus iddi.

Cafodd Adda ac Efa lawer o feibion a merched. Cain oedd enw’r mab cyntaf ac Abel oedd enw’r ail fab. Beth ddigwyddodd iddyn nhw tybed? Wyt ti’n gwybod?