Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 8

Cewri ar y Ddaear

Cewri ar y Ddaear

PETAI rhywun yn cerdded tuag atat ti ac yntau cyn daled â nenfwd y tŷ, beth y byddet ti’n ei feddwl? Byddet ti’n meddwl dy fod wedi gweld cawr! Ar un adeg, roedd cewri go iawn yn byw ar y ddaear. Yn ôl y Beibl, roedd y cewri yn blant i angylion o’r nefoedd. Ond sut roedd hynny’n bosibl?

Cofia, roedd Satan, yr angel drwg, wrthi’n creu helynt. Roedd hyd yn oed yn ceisio gwneud i angylion Duw droi’n ddrwg. Yn araf bach, dechreuodd rhai o’r angylion wrando arno. Fe wnaethon nhw roi’r gorau i’w gwaith yn y nefoedd. Daethon nhw i lawr i’r ddaear a gwneud cyrff dynol iddyn nhw eu hunain. Wyt ti’n gwybod pam?

Mae’r Beibl yn dweud bod yr angylion hynny wedi gweld y merched tlws ar y ddaear ac eisiau byw gyda nhw. Felly, daethon nhw i’r ddaear a phriodi’r merched. Roedd hynny’n ddrwg, gan fod Duw wedi creu’r angylion i fyw yn y nefoedd.

Pan gafodd yr angylion a’u gwragedd blant, roedd y plant yn wahanol. Efallai doedden nhw ddim yn edrych yn wahanol i ddechrau. Ond fe wnaethon nhw dyfu a thyfu a mynd yn gryfach ac yn gryfach nes iddyn nhw dyfu’n gewri.

Roedd y cewri hyn yn gas. Ac oherwydd eu bod nhw mor fawr ac mor gryf, roedden nhw’n medru brifo pobl. Roedden nhw’n ceisio gorfodi pawb arall i fod yr un mor ddrwg â nhw.

Roedd Enoch wedi marw erbyn hyn, ond roedd un dyn da arall ar y ddaear. Noa oedd ei enw. Roedd Noa yn gwneud popeth yr oedd Duw yn ei ofyn.

Un diwrnod, dywedodd Duw wrth Noa fod yr amser wedi dod iddo ddinistrio’r bobl ddrwg i gyd. Ond roedd Duw am achub Noa a’i deulu, a llawer o’r anifeiliaid. Gad inni weld sut y gwnaeth Duw hyn.