Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 10

Y Dilyw

Y Dilyw

Y TU allan i’r arch, roedd pobl yn byw eu bywydau yn yr un modd ag o’r blaen. Doedden nhw ddim yn credu y byddai’r Dilyw yn dod. Rhaid eu bod nhw wedi chwerthin yn fwy nag erioed. Ond yn fuan iawn, fe ddaeth taw ar eu chwerthin.

Yn sydyn, dyma hi’n dechrau bwrw glaw. Roedd hi’n bwrw ac yn bwrw, yn tywallt y glaw. Roedd Noa wedi dweud y gwir! Ond roedd hi’n rhy hwyr bellach i neb arall fynd i mewn i’r arch. Roedd Jehofa wedi cau’r drws yn dynn.

Cyn bo hir roedd y tir isel wedi diflannu. Trodd y dŵr yn afonydd mawr. Llifodd dros y coed, gan symud cerrig anferth a chreu llawer o sŵn. Roedd ofn mawr ar y bobl. Dringon nhw i dir uwch. Roedden nhw’n difaru nad oedden nhw wedi gwrando ar Noa a mynd i mewn i’r arch pan oedd y drws ar agor. Ond erbyn hyn, roedd hi’n rhy hwyr.

Cododd y dyfroedd yn uwch ac yn uwch. Am 40 diwrnod a 40 noson roedd y dŵr yn pistyllio o’r awyr. Cyn bo hir roedd hyd yn oed pennau’r mynyddoedd uchaf wedi mynd o’r golwg. Yn union fel yr oedd Duw wedi dweud, bu farw’r holl bobl a’r holl anifeiliaid a oedd y tu allan i’r arch. Ond roedd pawb y tu mewn i’r arch yn saff.

Roedd Noa a’i feibion wedi gwneud gwaith da wrth adeiladu’r arch. Codwyd hi gan y dyfroedd nes ei bod hi’n morio ar ben y dŵr. Yna, un diwrnod ar ôl i’r glaw beidio, daeth yr haul allan. Am olygfa! Doedd dim byd i’w weld ond yr arch yn nofio ar wyneb un môr mawr.

Roedd y cewri wedi mynd. Doedden nhw ddim yn gallu brifo neb bellach. Roedden nhw wedi marw, a’u mamau hefyd, a’r bobl ddrwg i gyd. Ond beth ddigwyddodd i’r tadau?

Nid oedd tadau’r cewri yn bobl ddynol fel ni. Angylion oedden nhw a oedd wedi dod i lawr i’r ddaear i fyw fel dynion. Felly, pan ddaeth y Dilyw, wnaethon nhw ddim marw gyda phawb arall. Aethon nhw yn ôl i’r nef fel angylion. Ond doedden nhw ddim yn cael bod yn rhan o deulu Duw mwyach. Felly, fe ddaethon nhw’n angylion i Satan. Mae’r Beibl yn eu galw nhw’n gythreuliaid.

Ar y ddaear, achosodd Duw i wynt cryf chwythu ac yn araf deg, aeth lefel y dŵr i lawr. Ymhen pum mis, glaniodd yr arch ar ben mynydd. Aeth wythnosau heibio, a gwelodd Noa a’i deulu gopaon y mynyddoedd yn dod i’r golwg. Roedd y dyfroedd yn gostwng drwy’r amser.

Yna gollyngodd Noa gigfran fawr allan o’r arch. Roedd hi’n hedfan am ychydig ac yna’n dod yn ei hôl, oherwydd doedd hi ddim yn gallu glanio yn unman. Gwnaeth hyn sawl gwaith ond bob tro roedd hi’n dod yn ei hôl a gorffwys ar yr arch.

Roedd Noa eisiau gwybod a oedd y dyfroedd wedi cilio o’r tir. Felly y tro nesaf, fe anfonodd golomen allan o’r arch. Ond roedd hi’n methu dod o hyd i rywle i aros ac fe ddaeth hithau yn ei hôl hefyd. Anfonodd Noa hi eto, ond y tro yma fe ddaeth hi yn ei hôl â deilen olewydden yn ei phig. Roedd Noa’n gwybod nawr fod y llifogydd wedi diflannu. Anfonodd Noa’r golomen y trydydd tro ond ni ddaeth hi yn ei hôl y tro hwnnw. O’r diwedd, roedd hi wedi dod o hyd i le sych i fyw.

Yna, siaradodd Duw â Noa. ‘Dos allan o’r arch,’ meddai, ‘ti a’th deulu a’r anifeiliaid i gyd.’ Roedden nhw wedi bod yn yr arch am fwy na blwyddyn. Dychmyga pa mor hapus yr oedden nhw o fod yn fyw ac yn iach ac allan yn yr awyr agored unwaith eto!