Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 13

Abraham​—Ffrind i Dduw

Abraham​—Ffrind i Dduw

AR ÔL y Dilyw, aeth llawer o bobl i fyw mewn lle o’r enw Ur. Tyfodd Ur yn ddinas bwysig. Roedd y tai yn grand a chyffyrddus. Ond roedd y bobl yn addoli gau dduwiau fel roedden nhw yn ei wneud yn ninas Babel. Roedden nhw’n wahanol i Noa a’i fab Sem a oedd yn addoli Jehofa.

Bu farw Noa 350 o flynyddoedd ar ôl y Dilyw. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd y dyn a weli di yn y llun ei eni. Roedd y dyn hwn yn annwyl i Dduw. Ei enw oedd Abraham. Roedd yn byw gyda’i deulu yn ninas Ur.

Un diwrnod dywedodd Jehofa wrth Abraham: ‘Mae’n rhaid iti adael Ur, a gadael dy bobl a mynd i wlad a ddangosaf iti.’ A wnaeth Abraham ufuddhau i Dduw a gadael ei gartref cyffyrddus a holl foethusrwydd Ur? Do, fe wnaeth. Gan fod Abraham yn ufudd i Dduw ym mhob peth, cafodd ei alw’n ffrind i Dduw.

Pan adawodd Abraham Ur, fe aeth rhai o’i deulu gydag ef. Fe aeth ei dad, Tera, a hefyd ei nai, Lot. Ac wrth gwrs, fe aeth ei wraig Sara gydag ef. Ymhen amser, fe gyrhaeddon nhw le o’r enw Haran, ac yno bu farw Tera. Roedden nhw wedi teithio’n bell o Ur.

Yn y man, fe wnaeth Abraham a’i deulu adael Haran a chyrraedd gwlad Canaan. ‘Dyma’r wlad a roddaf i’th blant,’ meddai Jehofa. Arhosodd Abraham yng ngwlad Canaan, yn byw mewn pebyll.

Bendithiodd Duw Abraham a chyn bo hir, roedd yn berchen ar breiddiau mawr o ddefaid a nifer mawr o anifeiliaid eraill. Roedd ganddo hefyd gannoedd o weision. Ond doedd gan Abraham a Sara ddim plant.

Pan oedd Abraham yn 99 mlwydd oed, dywedodd Jehofa wrtho: ‘Rwy’n addo y byddi di’n dad i genhedloedd lawer.’ Ond sut roedd hyn yn bosibl ac Abraham a Sara erbyn hyn yn rhy hen i gael plant?