Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 14

Profi Ffydd Abraham

Profi Ffydd Abraham

A WYT ti’n gweld beth mae Abraham yn ei wneud? Mae ganddo gyllell yn ei law, ac mae’n edrych fel ei fod ar fin lladd ei fab. Pam yn y byd y byddai’n gwneud y fath beth? Yn gyntaf, gad inni weld sut cafodd mab Abraham a Sara ei eni.

Cofia, roedd Duw wedi addo y bydden nhw’n cael mab. Ond gwyrth fyddai hynny gan fod Abraham a Sara wedi mynd yn rhy hen. Eto, roedd Abraham yn credu bod Duw yn gallu gwneud gwyrthiau. Beth ddigwyddodd felly?

Ar ôl i Dduw addo mab i Abraham, aeth blwyddyn gron heibio. Yna, pan oedd Abraham yn 100 mlwydd oed a Sara yn 90 mlwydd oed, cawson nhw fachgen a’i alw’n Isaac. Roedd Duw wedi cadw ei addewid!

Ond pan oedd Isaac wedi tyfu, cafodd ffydd Abraham ei phrofi. ‘Abraham!’ galwodd Jehofa. Atebodd Abraham: ‘Dyma fi!’ Yna, dywedodd Duw: ‘Cymer dy fab, dy unig fab Isaac, a dos i fynydd y byddaf yn ei ddangos iti. Yno, mae’n rhaid iti ladd dy fab a’i offrymu yn aberth.’

Roedd Abraham yn drist iawn o glywed geiriau Duw oherwydd roedd yn caru ei fab annwyl â’i holl galon. A chofia, roedd Duw wedi addo y byddai plant Abraham yn byw yng ngwlad Canaan. Sut gallai hynny ddigwydd petai Isaac wedi marw? Nid oedd Abraham yn deall, ond dewisodd fod yn ufudd i Dduw.

Pan gyrhaeddon nhw’r mynydd, clymodd Abraham draed a dwylo Isaac a’i roi ar yr allor yr oedd wedi ei hadeiladu. Yna cydiodd yn ei gyllell a’i chodi i ladd ei fab. Ond yr union foment honno, dyma angel Duw yn galw: ‘Abraham, Abraham!’ Atebodd Abraham: ‘Dyma fi!’

‘Paid â niweidio’r bachgen,’ dywedodd Duw. ‘Rwy’n gwybod nawr fod gen ti ffydd ynof i, oherwydd nad wyt ti wedi gwrthod rhoi dy fab, dy unig fab, i mi.’

Roedd gan Abraham ffydd fawr yn Nuw. Gwyddai Abraham nad oedd dim byd yn amhosibl i Jehofa, hyd yn oed atgyfodi Isaac o’r meirw. Y gwir yw, nid oedd Duw yn bwriadu i Abraham ladd Isaac. Felly fe achosodd i hwrdd gael ei ddal mewn gwrych gerllaw, a dywedodd wrth Abraham am offrymu hwnnw yn lle ei fab.