Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

STORI 19

Teulu Mawr Jacob

Teulu Mawr Jacob

EDRYCHA ar y teulu mawr hwn. Dyma ddeuddeg mab Jacob. Roedd ganddo ferched hefyd. Wyt ti’n gwybod beth oedd eu henwau? Gad inni ddysgu rhai ohonyn nhw.

Cafodd Lea bedwar mab: Reuben, Simeon, Lefi, a Jwda. Doedd gan Rachel ddim plant, ac roedd hi’n drist iawn am hyn. Felly, rhoddodd hi ei morwyn Bilha i Jacob, ac fe gafodd Bilha ddau fab: Dan a Nafftali. Yna, rhoddodd Lea ei morwyn hithau, Silpa, i Jacob, ac fe gafodd Silpa ddau fab: Gad ac Aser. Yn y diwedd, cafodd Lea ddau fab arall: Issachar a Sabulon.

Ymhen hir a hwyr, cafodd Rachel fabi hefyd, a’i alw’n Joseff. Byddwn ni’n dysgu llawer mwy am Joseff yn y man oherwydd fe ddaeth yn ddyn pwysig iawn. Cafodd Jacob 11 o feibion tra ei fod yn byw gyda Laban, tad Rachel.

Roedd gan Jacob nifer o ferched hefyd, ond dim ond un ohonyn nhw sy’n cael ei henwi yn y Beibl. Dina oedd honno.

Daeth hi’n amser i Jacob adael Laban a mynd yn ôl i wlad Canaan. Felly, fe gasglodd bawb at ei gilydd—ei deulu a’i weision, ei ddefaid a’i wartheg, a chychwyn ar y daith hir.

Ar ôl i Jacob a’i deulu symud yn ôl i wlad Canaan, cafodd Rachel fab arall. Cafodd y babi ei eni tra oedd Jacob a Rachel yn teithio. Ond roedd yr enedigaeth yn anodd a bu farw Rachel. Er gwaethaf hynny, roedd y bachgen bach yn iawn. Galwodd Jacob ef yn Benjamin.

Rydyn ni eisiau cofio enwau deuddeg mab Jacob, oherwydd eu disgynyddion nhw oedd cenedl Israel. Yn wir, cafodd 12 llwyth Israel eu henwi ar ôl 10 o feibion Jacob a dau o feibion Joseff. Fe wnaeth Isaac fyw am lawer o flynyddoedd ar ôl i’r bechgyn hyn gael eu geni. Roedd yn hapus iawn i gael cymaint o wyrion. Ond gad inni weld beth ddigwyddodd i’w wyres, Dina.